This is an exciting opportunity to join a leading research effort exploring magnetotransport in nanoscale 3D magnetic systems, linking geometric design, spin texture, and electronic functionality at the nanoscale. You will join the Cardiff 3D Nanomagnetism Group, internationally recognised for its pioneering work in 3D artificial spin-ice (3DASI).
The successful candidate will develop and optimise novel electrical contact strategies to interface with non-planar, free-standing 3D nanostructures and subsequently study electrical transport in these systems using anisotropic magnetoresistance and Hall effect measurements.
The role is embedded within the £18.8M EPSRC MetaHub, which brings together leading UK institutions to pioneer 3D metamaterials across ICT, energy and sensing.
The role will suit an experimental physicist with a background in spintronics, nanoscale electrical transport, or magnetic device physics, and provides a unique opportunity to contribute to the next generation of reconfigurable spin-based hardware.
This post is full time, available from 1st October 2026 and is fixed term for 24 months.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
https://www.cardiff.ac.uk/jobs/what-we-can-offer/financial-benefits/pay-scales
For informal enquiries about the post please contact Sam Ladak ([email protected])
For informal enquiries about working at Cardiff School of Physics and Astronomy please contact: [email protected]
IMPORTANT NOTE TO CANDIDATES: It is the University’s policy to use the person specification as a key tool for short-listing and we only invite candidates to interview who clearly evidence that they meet (or partially meet) each of the essential criteria. During the application process you will be asked to attach a supporting statement. This statement must outline how you meet the criteria below and we recommended formatting this by using each criteria as a sub-heading and providing your relevant experience/evidence below each sub-heading. It is crucial that you save your supporting statement with the vacancy number) in the filename as failure to do so may result in it being omitted from your application.
When attaching the supporting statement to your application, please ensure that you name it with the vacancy reference number.
Date advert posted: Monday, 7 September 2026
Closing date: Monday, 21 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - research – Cardiff University.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English. We very much welcome applications in Welsh.
Cydymaith Ymchwil – Nanofagneteg
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o brosiect blaenllaw sy’n ymchwilio i fagneto-gludiant yn rhan o systemau magnetig 3D, gan gysylltu dyluniadau geometrig, gweadau sbin ac ymarferoldeb electronig ar raddfa nano. Byddwch yn ymuno â Grŵp Nanofagneteg 3D Prifysgol Caerdydd, sydd ag enw da drwy’r byd am ei waith arloesol ym maes sbin-grisialau artiffisial 3D.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ac yn optimeiddio strategaethau newydd i wneud cysylltiadau trydanol â nanostrwythurau 3D nad ydynt yn rhai planar sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain. Ar ôl hynny, bydd yn astudio cludiant trydanol yn rhan o’r systemau hyn drwy fesur magneto-wrthiant anisotropig ac effaith Hall.
Swydd yn MetaHub Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) gwerth £18.8 miliwn yw hon. Mae MetaHub EPSRC yn dod â sefydliadau blaenllaw’r DU ynghyd i arwain datblygiad metaddeunyddiau 3D i’w defnyddio ym meysydd TGCh, ynni a synwyryddion.
Bydd y swydd yn addas i ffisegydd arbrofol sydd â chefndir ym maes sbintroneg, cludiant trydanol ar raddfa nano neu ffiseg dyfeisiau magnetig. Mae’n gyfle unigryw i gyfrannu at y genhedlaeth nesaf o galedwedd sbiniau y gellir ei hail-gyflunio.
Swydd amser llawn yw hon sydd ar gael o 1 Hydref 2026 am gyfnod penodol o 24 mis.
Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6).
Am ymholiadau anffurfiol am y swydd, cysylltwch â'r (Sam.Ladak @cardiff.ac.uk)
Am ymholiadau anffurfiol am weithio ym Mhrifysgolfa Ffiseg ac Astroffiseg Caerdydd, cysylltwch â [email protected]
PWYSIG: Tystiolaeth o Fodloni'r Meini Prawf
Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o fodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol lle bo'n berthnasol.
Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei hatodi i broffil eich cais, dylech sicrhau mai cyfeirnod y swydd yw enw’r ddogfen.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 7 Medi 2026
Dyddiad cau: Dydd Llun, 21 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau i gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Cewch ragor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr.