Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel ymarferwr proffesiynol cofrestredig gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg, o dan gyfundrefn gytunedig o oruchwyliaeth, cymryd rhan arweiniol o fewn yr ysgol mewn ymateb i anghenion disgyblion sydd angen cymorth penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Cymhwyster Ysgol sy'n wybodus am Drawma neu gymhwyster tebyg yn ddymunol.
Mae'r swydd yma ar gyfer mis Medi 2026.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a’r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mari Roberts
Rhif ffôn: 01248 712287
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Ffurflenni cais i’w dychwelyd i: Mari Roberts, Pennaeth: [email protected]
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2026
Job Reference: SCH00307