Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Ydych chi'n angerddol am gefnogi myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth ym myd addysg? Rydym yn chwilio am Swyddogion Cymorth Addysg brwdfrydig i lenwi nifer o swyddi ar draws shifftiau amrywiol, gan gynnig cyfleoedd hyblyg i helpu dysgwyr i ffynnu.
-
Yn ystod y tymor (36 wythnos y flwyddyn)
-
Rhan-amser (18 awr yr wythnos)
-
Cytundeb cyfnod penodol tan 31 Awst 2027
-
£13.52 yr awr
-
Campws Tycoch, Abertawe
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal yn gynnar neu ganol mis Medi. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i fynychu sesiwn flasu neu sesiwn rhagolwg o'r swydd (sy'n ddewisol) ar ddiwrnod eu cyfweliad, gan roi cyfle iddynt gael cipolwg ar y rôl a'r amgylchedd gwaith.
Prif Gyfrifoldebau:
-
Darparu cymorth addysgol, emosiynol, cymdeithasol a phersonol i fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
-
Cymryd rhan yn y ddarpariaeth o raglenni dysgu a'i chefnogi, yn unol â chyfarwyddiadau'r darlithwyr
-
Cynorthwyo gyda thrin a symud myfyrwyr sydd ag anghenion gofal personol, yn unol â'r cynllun gofal unigol
Amdanoch chi:
-
Mae pasio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (graddau A-C) neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol
-
Sgiliau TG sylfaenol, h.y. gallu defnyddio cyfrifiadur, a bod yn gyfarwydd â Microsoft Word a'r Rhyngrwyd
-
Gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr ag anawsterau dysgu
-
Gallu gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu, gan gynnwys cynorthwyo gyda gofal personol.
Buddion:
-
28 diwrnod (pro rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
- Cyflog Amser Llawn: £26,084 y flwyddyn
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).