Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda 350 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Am wneud gwahaniaeth go iawn? Ymunwch â ni!
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol, gofalgar ac uchelgeisiol i fod yn rhan on tîm. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac sydd am gael effaith gadarnhaol bob dydd.
Eich rôl:
-
Sicrhau gwasanaeth cyllid effeithlon ac o safon uchel syn galluogi Grŵp Cynefin i ragori
-
Cefnogir Rheolwr a gweithion agos gydar tîm i wireddu ein nodau an hamcanion
Pam ymuno?
Cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig a blaengar, lle maech cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Kevin Hughes, Rheolwr Cyllid, ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £25,687 - £28,911
Lleoliad: Penygroes / Gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Achlysurol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd
DS Cynorthwydd Cylid 0626.pdf
JD Finance Assistant 0626.pdf
Buddiannau
Pecyn Buddion.pdf
Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf
Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: 29.07.26
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.