Gwybodaeth Gyffredinol
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein cylch Cymraeg a sicrhau'r safonau uchaf o ofal, dysgu a chwarae i blant bach.
Rydym yn edrych am rywun:
- sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg
- sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli a chefnogi tîm o staff
- sy’n gallu sicrhau gwasanaeth o safon uchel sy’n ddiogel, cynhwysol a chroesawgar
- sy’n meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a phartneriaid
- sy’n ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg, hyrwyddo dysgu drwy chwarae a chreu profiadau cyfoethog i bob plentyn
- sy’n gallu sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a diogelu, gan arwain drwy esiampl
Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd wrth arwain gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf yn y gymuned.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd trwy wefan Mudiad Meithrin: https://meithrin.cymru/jobs/arweinydd-cylch-meithrin-dechraun-deg-gwdihw/
Pay: £14.81 per hour
Application question(s):
- Ydych chi gallu siarad Cymraeg yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig?
- Oes gennych gymhwyster proffesiynol priodol mewn blynyddoedd cynnar /
gofal plant ar o leiaf lefel 3?
Work Location: In person