Research and Development Post-Graduate Associate (KTP Associate)
Rail-AI: Next-Generation Railway Asset Intelligent Management System
Cardiff School of Engineering
About this Opportunity
Cardiff University, one of the UK’s leading research‑intensive institutions, is delighted to offer an outstanding opportunity for a talented researcher to join an exciting Knowledge Transfer Partnership (KTP) with Centregreat Rail Ltd (CGR) — a major Welsh railway engineering firm and Network Rail Principal Contractor.
This KTP, titled Rail‑AI, aims to develop a next‑generation AI‑enabled, immersive digital platform for centralised railway asset management — combining advanced analytics, structural intelligence, large language models, and a metaverse‑style interactive environment. You will play a central, leading role in building the software, decision‑making and visualisation components of this system.
As a KTP Associate, you will be employed by Cardiff University, based primarily at CGR in Cardiff, and work alongside industrial engineers and leading academics specialising in AI, digital twins, computational mechanics, and structural intelligence. This post is ideal for someone who wants to drive real‑world innovation, develop advanced technical expertise, and be positioned for leadership roles in digital infrastructure.
About the Knowledge Transfer Partnership (KTP)
KTP is a UK Government‑supported programme that enables exceptional early‑career innovators to work directly between universities and industry on high‑impact, strategic innovation projects.
KTP Associates benefit from:
- A substantial personal development budget
- Access to specialist training, including management qualifications
- 10% of time dedicated to development-related activities
- Opportunities to present at national events
- Exposure to commercial decision‑making and real-world engineering environments
- Close mentoring from both academic and industrial supervisors
This 28‑month role gives you a rare platform to develop cutting‑edge capabilities in AI‑driven decision systems, immersive modelling, and computational-engineering integration within a rapidly digitising rail sector.
The Rail‑AI Project
This project will create a unified, intelligent platform for railway asset management by integrating:
- Large Language Model (LLM)–driven decision-making
- Real‑time digital visualisation in an immersive metaverse environment
- Multi‑source data fusion and semantic modelling
- Interoperable middleware and system architecture for real-time analytics
You will work in parallel with another Associate, who specialises in sensor systems, structural analytics and PINNs. Together, you will build the UK’s first coherent AI‑augmented rail asset management ecosystem.
Salary, Hours, Duration and Location
- Salary fixed £49,321 per annum
- 35 hours per week
- Fixed‑term for 28 months
- Employed by Cardiff University
- Main location: Centregreat Rail Ltd, Cardiff (some Hybrid mode permitted)
- Some work will also take place at Cardiff School of Engineering
Informal Enquiries
For informal enquiries about the post please contact Prof Haijiang Li – [email protected] or Dr Mujib Adeagbo – [email protected]
Formal HR Enquiries
For further details about working at Cardiff School of Engineering please contact Karen Baldwin/Chiara Riolo /Bev Jones at [email protected]
Date advert posted: Thursday, 30 July 2026
Closing date: Thursday, 06 August 2026
Online interviews will be held soon after the closing date.
The School of Engineering holds an Athena SWAN Bronze Award that recognises good employment practice and a commitment to develop the careers of women working in science. Cardiff University is an equal opportunities employer and positively encourages applications from suitably qualified and eligible candidates regardless of sex, race, disability, age, sexual orientation, gender reassignment, religion or belief, marital status, or pregnancy and maternity. For this vacancy we actively encourage women to apply. We will also consider proposals for flexible working or job share opportunities.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cydymaith Ôl-raddedig Ymchwil a Datblygu (Cydymaith Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth - KTP)
Rail-AI: System Reoli Ddeallus Cenhedlaeth Nesaf ar gyfer Asedau Rheilffordd
Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd
Gwybodaeth am y cyfle hwn
Mae Prifysgol Caerdydd, un o brif sefydliadau ymchwil-ddwys y DU, yn falch iawn o gynnig cyfle rhagorol i ymchwilydd talentog ymuno â Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gyffrous gyda Centregreat Rail Ltd (CGR) – cwmni peirianneg rheilffyrdd mawr o Gymru a Phrif Gontractwr Network Rail.
Nod y KTP hon, o'r enw Rail-AI, yw datblygu platfform digidol ymgollir cenhedlaeth nesaf sy'n cael ei bweru gan AI ar gyfer rheoli asedau rheilffordd yn ganolog – gan gyfuno dadansoddeg uwch, deallusrwydd adeileddol, modelau iaith mawr ac amgylchedd rhyngweithiol tebyg i'r metafyd. Byddwch yn chwarae rhan ganolog ac arweiniol wrth adeiladu cydrannau meddalwedd, gwneud penderfyniadau a delweddu'r system hon.
Fel Cyswllt KTP, byddwch yn cael eich cyflogi gan Brifysgol Caerdydd, wedi'ch lleoli'n bennaf yn CGR yng Nghaerdydd, ac yn gweithio ochr yn ochr â pheirianwyr diwydiannol ac academyddion blaenllaw sy'n arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial, gefeilliaid digidol, mecaneg gyfrifiadol a deallusrwydd adeileddol. Mae’r swydd hon yn ddelfrydol i rywun sydd eisiau ysgogi arloesi yn y byd go iawn, datblygu arbenigedd technegol uwch a bod mewn sefyllfa i ymgymryd â rolau arwain ym maes rheoli contractau digidol.
Gwybodaeth am y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
Mae’r Bartneriaeth yn rhaglen a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy’n galluogi arloeswyr dawnus ar ddechrau ‑ eu gyrfa i weithio’n uniongyrchol rhwng prifysgolion â byd diwydiant ar brosiectau arloesol effaith uchel a strategol.
Mae Cymdeithion y Bartneriaeth yn elwa ar y canlynol:
- Cyllideb sylweddol ar gyfer datblygiad personol
- Cyfleoedd i gael hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys cymwysterau rheoli
- 10% o’r amser wedi’i neilltuo i weithgareddau datblygu
- Cyfleoedd i gyflwyno mewn digwyddiadau cenedlaethol
- Dod i gysylltiad â’r broses o wneud penderfyniadau masnachol a chyd-destunau peirianyddol yn y byd go iawn
- Mentora agos gan oruchwylwyr academaidd a diwydiannol
Mae'r rôl hon, sy'n para 28 mis, yn cynnig platfform prin i chi ddatblygu galluoedd blaengar ym meysydd systemau penderfynu sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, modelu ymgolli ac integreiddio peirianneg gyfrifiadol, o fewn sector rheilffyrdd sy'n prysur droi’n ddigidol.
Prosiect Rail-AI
Bydd y prosiect hwn yn creu platfform unedig, deallus ar gyfer rheoli asedau rheilffordd drwy integreiddio:
- Gwneud penderfyniadau wedi'u hysgogi gan Fodelau Iaith Mawr (LLMs)
- Delweddu digidol amser real mewn amgylchedd metafyd ymgolli
- Ymasiad data o ffynonellau lluosog a modelu semantig
- Canolwedd a saernïaeth systemau rhyngweithredol ar gyfer dadansoddeg amser real
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag Uwch-gydweithiwr arall, sy'n arbenigo mewn systemau synwyryddion, dadansoddeg adeileddol a PINNs. Gyda'ch gilydd, byddwch yn adeiladu ecosystem gydlynol gyntaf y DU ar gyfer rheoli asedau rheilffordd sydd wedi'i hatgyfnerthu gan ddeallusrwydd artiffisial.
Cyflog, Oriau, Hyd a Lleoliad
- Cyflog wedi'i osod ar £49,321 yr flwyddyn
- 35 awr yr wythnos
- Cyfnod penodol o 28 mis
- Cyflogir gan Brifysgol Caerdydd
- Prif leoliad: Centregreat Rail Ltd, Caerdydd (caniateir rhywfaint o waith hybrid)
- Bydd rhywfaint o’r gwaith hefyd yn digwydd yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd
Ymholiadau Anffurfiol
I wneud ymholiadau anffurfiol am y swydd cysylltwch â'r Athro Haijiang Li – [email protected] neu Dr Mujib Adeagbo – [email protected]
Ymholiadau Adnoddau Dynol Ffurfiol
I gael rhagor o fanylion am weithio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Karen Baldwin/Chiara Riolo/Bev Jones drwy e-bostio [email protected]
Dyddiad hysbysebu’r swydd: Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 06 Awst 2026
Cynhelir cyfweliadau ar-lein yn fuan ar ôl y dyddiad cau.
Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn meddu ar Ddyfarniad Efydd Athena SWAN sy'n cydnabod arferion cyflogaeth da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod i wneud cais am y swydd. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco. Mae hyn yn golygu, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, y byddwn yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.