Welsh-Medium Language Skills Tutor
Vice-Chancellor's Office
Academi Gymraeg
We are seeking to appoint a Welsh-medium Skills Tutor to join the Academi Gymraeg team. The successful candidate will play a key role in developing, supporting and delivering Welsh language skills provision for students, including activities that enhance students’ skills development and contribute to the delivery of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol’s Welsh-Language Skills Certificate.
You will be expected to develop and deliver extracurricular provision while supporting both curricular and co-curricular skills provision, in response to the needs of our Welsh-speaking students. These activities will support students who continue to study through the medium of Welsh during their courses, along with students who transition to English-medium studies depending on their degree programme.
The work has two key elements:
i. The postholder will support the Academi Gymraeg and University teams to develop and deliver a Welsh-medium skills programme to support Welsh-speaking students. You will provide advice, guidance and training to students as they study and develop their language skills through the medium of Welsh, and support students transitioning to English-medium studies. There will be an opportunity to review the current support available to undergraduate and postgraduate students to design and offer targeted Welsh-medium opportunities tailored to student needs and to support their student journey.
ii. In addition, this role will develop, deliver and evaluate the Welsh Language Skills Certificate programme at the University, which is funded by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol. As part of this work, you will support and train students to develop their language skills to complete the Certificate, while undertaking administrative duties within the area of work as required.
You will be an excellent communicator with advanced administrative skills, capable of overseeing administrative tasks associated with the role, including monitoring and reporting on attendance and engagement, responding creatively to student engagement trends, and working collaboratively across the University to provide skills support and guidance that strengthens Welsh-medium provision at both institutional and programme level.
You will have an understanding of the current challenges facing taught students. You will be creative and solution-focused, working with colleagues to create and develop accessible Welsh-medium learning sessions and materials using relevant learning platforms (e.g. Blackboard and Xerte)
The postholder will deliver a range of objectives to enhance best practice, engage with internal and external stakeholders, and support Welsh-speaking students in their learning. This work forms a core part of the University's strategic priorities to support and expand Welsh-medium provision and strengthen the experience of both students and staff.
For informal enquiries about the role, please contact:
Angharad Naylor, Dean of Welsh,
[email protected].
The role is full-time, 35 hours per week over 5 days, and is available immediately. The position is fixed-term for a period of 3 years.
Please submit your application in Welsh.
Salary: £33,951 – £36,636 per annum (Grade 5).
Interviews are expected to be held w/c 4 October 2026.
Date advert posted: Tuesday, 1 September 2026
Closing date: Sunday, 20 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Tiwtor Sgiliau Cyfrwng Cymraeg
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Academi Gymraeg
Rydym yn awyddus i gyflogi Tiwtor Sgiliau cyfrwng Cymraeg i ymuno â thîm yr Academi Gymraeg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu, cefnogi a chynnig darpariaeth sgiliau iaith cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr, gan gynnwys gweithgareddau sy’n ehangu datblygiad sgiliau myfyrwyr ynghyd â gweithredu fel Tiwtor Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd disgwyl ichi ddatblygu a chynnal darpariaeth allgyrsiol ynghyd â chefnogi darpariaeth sgiliau o fewn y cwricwlwm ac ochr yn ochr â’r cwricwlwm, mewn ymateb i anghenion ein myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Bydd y gweithgareddau hyn yn cefnogi myfyrwyr sydd yn parhau i astudio’n Gymraeg yn ystod eu cyrsiau ynghyd â chefnogi myfyrwyr sydd yn newid i astudio drwy’r Saesneg yn ddibynnol ar eu rhaglen radd. Mae dwy ran i’r gwaith hwn:
Bydd deiliaid y swydd yn cefnogi’r Academi Gymraeg a thimau’r Brifysgol i ddatblygu a dysgu rhaglen sgiliau cyfrwng Cymraeg i gefnogi myfyrwyr. Byddwch yn darparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant i fyfyrwyr wrth iddynt astudio a datblygu eu sgiliau iaith drwy’r Gymraeg, ynghyd â chefnogi myfyrwyr sy’n trosglwyddo i astudio pynciau drwy gyfrwng y Saesneg am y tro cyntaf. Bydd cyfle i adolygu’r gefnogaeth bresennol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig er mwyn llunio a chynnig cyfleoedd penodol drwy’r Gymraeg sydd wedi eu teilwra i ddiwallu anghenion myfyrwyr ac i gefnogi eu taith fel myfyrwyr.
Bydd y swydd hon yn ogystal, yn datblygu, cyflwyno a gwerthuso rhaglen y Dystysgrif Sgiliau Iaith yn y brifysgol, a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwch yn cefnogi a hyfforddi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith ar gyfer cwblhau’r Dystysgrif, ynghyd â chyflawni dyletswyddau gweinyddol o fewn y maes gwaith yn ôl yr angen.
Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol ac yn meddu ar sgiliau gweinyddol uwch, er mwyn goruchwylio tasgau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r rôl, gan gynnwys monitro ac adrodd ar bresenoldeb ac ymgysylltiad, ymateb yn greadigol i dueddiadau ymgysylltu myfyrwyr, a gweithio ar y cyd ar draws y Brifysgol i ddarparu sgiliau astudio a fydd yn cefnogi ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel sefydliadol a lefel rhaglen.
Bydd gennych ddealltwriaeth o’r heriau presennol sy’n wynebu myfyrwyr a addysgir. Byddwch yn greadigol ac yn canolbwyntio ar atebion, ac yn gweithio gyda chydweithwyr i greu a datblygu deunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg hygyrch i fyfyrwyr, gan ddefnyddio llwyfannau dysgu perthnasol (e.e. Blackboard a Xerte).
Bydd deiliad y swydd yn cyflawni amrywiaeth o amcanion, er mwyn gwella arfer gorau, cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, a chefnogi myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn eu dysgu. Mae’r gwaith hwn yn rhan greiddiol o flaenoriaethau strategol y brifysgol y gefnogi ac ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg ac atgyfnerthu profiad ein myfyrwyr a staff.
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: Angharad Naylor, Deon y Gymraeg, [email protected]
Mae’r rôl yn llawn amser, 35 awr yr wythnos dros 5 diwrnod, ac ar gael ar unwaith. Mae’r swydd yn un cyfnod penodol am gyfnod o 3 blynedd.
Cyflwynwch y cais drwy’r Gymraeg.
Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
Disgwylir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 4 Hydref 2026.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 1 Medi 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 20 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.