Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel rhan o dîm Perfformiad a Moderneiddio y Cyngor, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth helpu'r Cyngor i gyflawni Cynllun Cyngor drwy reoli ystod eang o brosiectau.
Bod yn gyfrifol am gynllunio a chyfeirio'r adnoddau angenrheidiol i sicrhau cyflawni'r prosiectau yn llwyddiannus. Cyflawni prosiectau moderneiddio a gwella ar draws gwasanaethau'r Cyngor sy'n cadw at ddull rheoli prosiect safonol yr awdurdod.
Bydd hyn yn gofyn:
- cynllunio, datblygu a monitro trylwyr o’r rhaglen waith, datrys problemau a chychwyn camau cywiro fel y bo'n briodol;
- ymgymryd â rôl Rheolwr Prosiect ar gyfer prosiectau trawsbynciol, gan gydlynu cyflwyno achosion busnes hyfyw yn amserol ar gyfer prosiectau;
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Gwyndaf Parry
Rhif ffôn: 01248 752111
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100762