Regional Officer – Wales
Part time – 3 days per week (21 hours)
Starting salary – £37,780 (£62,966 FTE) rising to £39,767 (£66,279 FTE) per annum plus agile working and cash for car allowance and an attractive benefits package
Our range of excellent benefits include *39 days holiday allowance including bank holidays in addition to 4 days Christmas closure, *21 hours wellbeing leave, wellbeing contribution, generous pension scheme and commitment to personal growth through funded learning.
* Applied pro-rata if working part-time
You will be based remotely (at home) with the ability to cover the Welsh region for field based work.
Residence in or near the region identified, the ability to drive and a valid driving licence are essential for this role.
Job summary
Are you looking for a new role that will help to support school leaders, and our union, as we continue to grow and organise across the regions.
We’re looking for a committed and determined individual to advise, support and represent our members in Wales, dealing with a wide range of employment and professional issues that may impact on their continued employment and job security. The role will act as an advocate in relation to internal employment and other procedures to secure the most appropriate resolution for our members.
Our officers provide support for branches and regions within their designated areas ensuring that our campaigning and organising priorities are delivered and lead on training for branch officials.
If you would like the opportunity to influence the future of the education system, this vacancy may be of interest to you.
Person specification
We are looking for an individual with experience of advocacy and representing others in difficult situations, along with strong organising skills. Good negotiation skills balanced with a strong trade union, employment law or education law background are essential for this role.
You will also need to have strong leadership skills and a proven track record of using your own initiative to manage complex and difficult situations. Highly developed interpersonal skills and the ability to influence are also critical. In order to deliver the best service to members, we ask that candidates for this role are prepared to travel extensively and work long hours when needed to get the job done.
About us
NAHT represents more than 38,000 school leaders in early years, primary, secondary/post primary and special schools, making us the largest association for school leaders in the UK. Our members consist of all categories of school leaders. We provide representation, advice and training for school leaders in England, Wales and Northern Ireland. We use our voice at the highest levels of government to influence policy for the benefit of leaders and learners everywhere.
NAHT is an equal opportunities employer. We’re committed to promoting an inclusive and supportive culture that celebrates diversity and attracts, retains and develops our people through living our values of People First, Be Bold, Go Further and In it Together.
We have a zero-tolerance approach to discrimination, bullying, harassment (including sexual) or victimisation of any kind.
Should you need any adjustments to the recruitment process, at either application or interview, please contact us on [email protected]
The closing date for receipt of applications is 22nd July 2026.
First interview – 4th August 2026 (via Microsoft Teams)
Second interview – 18th August 2026 (in person)
Applications from agencies will not be accepted
Swyddog Rhanbarthol – Cymru
Rhan-amser – 3 diwrnod yr wythnos (21 awr)
Cyflog cychwynnol – £37,780 (£62,966 cyfwerth â llawn-amser) yn codi i £39,767 (£66,279 cyfwerth â llawn-amser) y flwyddyn, ynghyd â gweithio hyblyg a lwfans ariannol ar gyfer car a phecyn buddion deniadol
Mae ein hamrywiaeth o fuddion ardderchog yn cynnwys *39 diwrnod o wyliau gan gynnwys gwyliau banc yn ogystal â chau am 4 diwrnod dros y Nadolig, *21 awr o absenoldeb llesiant, cyfraniad llesiant, cynllun pensiwn hael ac ymrwymiad i dwf personol trwy ddysgu wedi’i ariannu.
* Pro-rata os ydych yn gweithio'n rhan-amser
Byddwch wedi'ch lleoli o bell (gartref) gyda'r gallu i weithio yn rhanbarth Cymru ar gyfer gwaith maes.
Mae byw yn y rhanbarth a nodwyd neu gerllaw, y gallu i yrru a thrwydded yrru ddilys yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Crynodeb o'r swydd
Ydych chi'n chwilio am rôl newydd a fydd yn helpu i gefnogi arweinwyr ysgolion, a'n hundeb, wrth i ni barhau i dyfu a threfnu ar draws y rhanbarthau?
Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig a phenderfynol i gynghori, cefnogi a chynrychioli ein haelodau yng Nghymru, gan ddelio ag ystod eang o faterion cyflogaeth a phroffesiynol a allai effeithio ar eu cyflogaeth barhaus a diogelwch eu swyddi. Bydd deiliad y rôl yn gweithredu fel eiriolwr o ran cyflogaeth fewnol a gweithdrefnau eraill i sicrhau'r datrysiad mwyaf priodol i'n haelodau.
Mae ein swyddogion yn darparu cefnogaeth i ganghennau a rhanbarthau o fewn eu hardaloedd dynodedig gan sicrhau bod ein blaenoriaethau ymgyrchu a threfnu yn cael eu cyflawni, yn ogystal ag arwain ar hyfforddiant i swyddogion canghennau.
Os hoffech chi gael y cyfle i ddylanwadu ar ddyfodol y system addysg, efallai y bydd y swydd hon o ddiddordeb i chi.
Manyleb y person
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad o eiriolaeth a chynrychioli eraill mewn sefyllfaoedd anodd, ynghyd â sgiliau trefnu cryf. Mae sgiliau negodi da wedi'u cydbwyso â chefndir cryf mewn undebau llafur, cyfraith cyflogaeth neu gyfraith addysg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Hefyd, bydd angen sgiliau arwain cryf a thystiolaeth o allu gweithio’n annibynnol i ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth ac anodd. Mae sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i ddylanwadu hefyd yn hollbwysig. Er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau i'r aelodau, gofynnwn i'r ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon fod yn barod i deithio'n helaeth ac i weithio oriau hir pan fydd angen hynny i gyflawni'r gwaith.
Amdanom ni
Mae'r NAHT yn cynrychioli mwy na 38,000 o arweinwyr ysgolion y blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd/ôl-gynradd ac ysgolion arbennig, sy'n golygu mai ni yw'r gymdeithas fwyaf ar gyfer arweinwyr ysgolion yn y DU. Mae ein haelodau'n cynnwys pob categori o arweinwyr ysgolion. Rydym yn darparu cynrychiolaeth, cyngor a hyfforddiant i arweinwyr ysgolion yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Defnyddiwn ein llais ar lefelau uchaf y llywodraeth i ddylanwadu ar bolisïau er budd arweinwyr a dysgwyr ym mhobman.
Mae NAHT yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant cynhwysol a chefnogol sy'n dathlu amrywioldeb, ac sy’n denu, cadw a datblygu ein pobl trwy fyw ein gwerthoedd Pobl yn Gyntaf, Bod yn Feiddgar, Mynd Ymhellach ac Yn Hyn Gyda'n Gilydd.
Rydym yn arddel ymagwedd dim goddefgarwch tuag at gamwahaniaethu, bwlio, aflonyddu (gan gynnwys rhywiol) neu erledigaeth o unrhyw fath.
Os bydd angen unrhyw addasiadau i'r broses recriwtio arnoch chi, naill ai ar gyfer y cais neu’r cyfweliad, cysylltwch â ni yn [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 22ain Gorffennaf 2026.
Cyfweliad cyntaf – 4ydd Awst 2026 (trwy Microsoft Teams)
Ail gyfweliad – 18fed Awst 2026 (wyneb-yn-wyneb)
Ni dderbynnir ceisiadau gan asiantaethau
Pay: £37,780.00-£39,767.00 per year
Application question(s):
- Please apply via our website https://www.naht.org.uk/About-Us/Work-for-NAHT
Work Location: Hybrid remote in Cardiff (Cardiff, Cardiff)