Research Associates (x3)
UK Dementia Research Institute at Cardiff University
Division of Psychological Medicine and Clinical Neuroscience
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
The Baljit Khakh Laboratory is relocating from the University of California Los Angeles to the UK Dementia Research Institute (UK DRI) at Cardiff and is seeking to appoint a number of Research Associates to join a newly established and ambitious research programme investigating the roles of astrocytes in brain function and dementia.
Professor Baljit S. Khakh, internationally recognized for discoveries in astrocyte physiology and neuron–glia signalling, is launching his new research programme at UK DRI Cardiff University in summer 2026. The lab will integrate molecular genetics, advanced imaging, electrophysiology, and translational neuroscience to explore fundamental neuroscience mechanisms and uncover how astrocyte dysfunction contributes to the onset and progression of dementia.
This is a new opportunity to join a leading neuroscience lab at one of the UK’s most vibrant and collaborative research hubs. The group will explore how astrocytes shape neural circuit activity, cognition, and neurodegeneration — with the goal of identifying new mechanisms and therapeutic strategies for dementia and related disorders. The laboratory will be housed in state-of-the-art research facilities within the Hadyn Ellis Building.
Launched in 2017, the UK DRI stands as a beacon of scientific innovation, representing an unprecedented £300 million investment in dementia research—the largest of its kind in UK history. The purpose of the UK DRI is through research, to transform the outlook for people living with or at risk of neurodegenerative conditions.
Located within Cardiff University’s world-class neuroscience and biomedical research environment, the UK DRI at Cardiff is the biggest investment Wales has made in neurodegenerative disease research to date. The Centre brings together scientists from a range of research backgrounds, and the lab offers an exceptional setting for innovation, publishing of impactful research papers, collaboration, training in state-of-the-art methods and career growth.
We’d like to hear from you if you are:
- Committed to rigorous, collaborative, and innovative research.
- Highly driven and motivated.
- Adaptable, communicative and organised
- An effective team player who can demonstrate a proven track record of working on your own initiative.
- Interested in travelling to pursue collaborations which may include spending some time in the laboratory of a national or international collaborator
This post is based at the Hadyn Ellis Building, Cathays campus.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
How we will support you in performing in this role –
There are some things that you must have before you can start this role (see ‘Essential Criteria’), but other things can be developed either through training, or just by general on-the-job experience. We want to support and develop you once you have started in the role using a combination of the following to get the best out of you:
1. Regular one-to-ones with your manager
2. An experienced and supportive team around you
3. Supporting you through job-relevant training and development that you may require
4. A mentoring scheme
For informal enquiries please contact Prof Baljit Khakh on
[email protected]
This post is full-time (35 hours per week), available from 1st August 2026 and fixed term until 31st July 2031.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6).
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Closing date: Tuesday, 30 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cymdeithion Ymchwil (x3)
Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae Labordy Baljit Khakh yn symud o Brifysgol California Los Angeles i Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU (UK DRI) yng Nghaerdydd. Mae'n awyddus i benodi nifer o Gymdeithion Ymchwil i ymuno â rhaglen ymchwil newydd ac uchelgeisiol sy'n ymchwilio i rolau astrosytau yng ngweithrediad yr ymennydd a dementia.
Mae'r Athro Baljit S. Khakh, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ganfyddiadau ym maes ffisioleg astrosytau a signalau niwron-glia, yn lansio ei raglen ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod haf 2026. Bydd y labordy yn integreiddio geneteg foleciwlaidd, delweddu uwch, electroffisioleg, a niwrowyddoniaeth drosiadol i archwilio mecanweithiau niwrowyddoniaeth sylfaenol a datgelu sut mae camweithrediad astrosytau yn cyfrannu at ddechrau dementia a’i ddatblygiad.
Dyma gyfle newydd i ymuno â labordy niwrowyddoniaeth blaenllaw yn un o ganolfannau ymchwil mwyaf bywiog a chydweithredol y DU. Bydd y grŵp yn archwilio sut mae astrosytau yn siapio gweithgareddau cylchedau niwral, gwybyddiaeth, a niwroddirywiad — a'r nod fydd nodi mecanweithiau newydd a strategaethau therapiwtig ar gyfer dementia ac anhwylderau cysylltiedig. Bydd y labordy mewn cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yn Adeilad Hadyn Ellis.
Mae Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI), a lansiwyd yn 2017, yn gawr ym maes arloesi gwyddonol wedi iddo gael buddsoddiad gwerth £300 miliwn na welwyd ei debyg ym maes ymchwil i ddementia - y mwyaf o'i fath yn hanes y DU. Pwrpas UK DRI yw trawsnewid rhagolygon pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwroddirywiol neu sydd mewn perygl o’u datblygu, a hynny drwy ymchwil.
Sefydliad Ymchwil er Dementia’r DU yng Nghaerdydd yw’r buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil i glefydau niwroddirywiol hyd yma yng Nghymru ac mae’n rhan o amgylchedd ymchwil niwrowyddoniaeth a biofeddygol o'r radd flaenaf Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ganolfan yn dod â gwyddonwyr o ystod o gefndiroedd ymchwil ynghyd, ac mae'r labordy yn cynnig lleoliad eithriadol ar gyfer arloesi, cyhoeddi papurau ymchwil effeithiol, cydweithio, hyfforddiant mewn dulliau o'r radd flaenaf a datblygu gyrfa.
Hoffem glywed gennych os ydych yn:
• Ymrwymo i ymchwil drylwyr, gydweithredol ac arloesol.
• Llawn cymhelliad ac uchelgais.
• Hyblyg, trefnus ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu
• Aelod effeithiol o dîm sydd â phrofiad diamheuol o weithio ar eich liwt eich hun.
• Meddu ar ddiddordeb mewn teithio i ddatblygu partneriaethau a allai gynnwys treulio peth amser yn labordy cydweithiwr cenedlaethol neu ryngwladol
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon –
Mae’n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl ichi ddechrau yn y swydd, rydym eisiau eich cefnogi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
4. Cynllun mentora
Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â'r Athro Baljit Khakh drwy ebostio
[email protected]
Swydd amser llawn, (35 awr yr wythnos) yw hon sydd ar gael o 1 Awst 2026, ac mae am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2031
Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Graddfa 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r bobl a benodir fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd