Clinical Lecturer in Community Clinical Learning
Centre for Medical Education
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
The Centre for Medical Education (C4ME) is looking to recruit a Clinical Lecturer in Community Clinical Learning to join our existing team. The role will undertake teaching for undergraduate medical students in primary and community care in line with the curriculum requirements for the C21 MBBCh course at Cardiff University. Ensuring the learning environment at Cardiff stands out as nationally and internationally excellent.
The successful applicant will contribute to the teaching in all phases of community curriculum, including assessing assignments, and participate in other teaching and planning as needed by the Community Phase Leads.
The successful applicant may be required to deliver some teaching in our Undergraduate teaching centres usually based in teaching hospitals in South Wales, so a current full driving licence with access to own vehicle or independent means of transport is necessary.
Please see Job description for full details.
The Clinical Lecturer in Community Clinical Learning will contribute to scholarship and research as relevant and maintain and regularly update clinical and educational knowledge relevant to this position.
Applicants should have a subject specialist knowledge of primary care and relevant teaching experience related to medicine at undergraduate or postgraduate level. They should also be able to demonstrate an understanding of the contribution of Community Clinical Learning to the MBBCh programme.
Applicants should be able to demonstrate knowledge of assessment and feedback strategies used in undergraduate or postgraduate medical training and the ability to provide appropriate pastoral and academic support to students as needed.
The post is based at various Off Site locations and the Heath Park Campus.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave pro rata (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
This post are part time (7.5 hours per week (working on a Thursday)), open ended and available immediately.
This role is suitable for a qualified General Practitioner and will be on the appropriate point of the GP Educator salary scale, £113,424 per annum (pro-rata).
For an informal discussion about the role please contact Dr Bethan Stephens, Director for Community Clinical Learning at
[email protected], 02922 510552 or Dr Mary Robathan, Phase 2 community Lead at
[email protected]
Date post advertised: Tuesday, 16 June 2026
Closing date: Tuesday, 30 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Darlithydd Clinigol ym maes Dysgu Clinigol Cymunedol
Y Ganolfan Addysg Feddygol
Yr Ystol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorua Biofeddygol a Bywyd
Mae'r Ganolfan Addysg Feddygol (C4ME) yn awyddus i recriwtio Darlithydd Clinigol ym maes Dysgu Clinigol Cymunedol i ymuno â'n tîm presennol. Byddwch yn addysgu myfyrwyr meddygol israddedig yn unol â gofynion y cwricwlwm dysgu clinigol cymunedol ar gyfer cwrs MBBCh C21 ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd dysgu yng Nghaerdydd yn rhagori yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at yr addysgu ym mhob cam o'r cwricwlwm cymunedol, gan gynnwys asesu aseiniadau, ac yn cymryd rhan mewn addysgu a chynllunio eraill yn ôl yr angen gan Arweinwyr Cyfnod Cymunedol.
Efallai y bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud rhywfaint o addysgu yn ein canolfannau addysgu Israddedigion sydd fel arfer mewn ysbytai athrofaol yn ne Cymru. Felly, bydd angen trwydded yrru lawn gyfredol a mynediad at eich cerbyd eich hun, neu ddull trafnidiaeth annibynnol.
Ceir y manylion llawn yn nisgrifiad y swydd.
Bydd y Darlithydd Clinigol ym maes Dysgu Clinigol Cymunedol yn cyfrannu at ysgolheictod ac ymchwil fel sy'n berthnasol. Ar ben hynny, bydd yn mynd ati’n rheolaidd i gynnal a diweddaru gwybodaeth glinigol ac addysgol sy'n berthnasol i'r swydd hon.
Dylai fod gan ymgeiswyr wybodaeth arbenigol am y pwnc gofal sylfaenol a phrofiad addysgu perthnasol sy'n gysylltiedig â meddygaeth ar lefel israddedig neu ôl-raddedig. Dylen nhw hefyd allu dangos dealltwriaeth o gyfraniad Dysgu Clinigol Cymunedol at y rhaglen MBBCh.
Dylai ymgeiswyr allu dangos gwybodaeth am strategaethau asesu ac adborth a ddefnyddir mewn hyfforddiant meddygol israddedig neu ôl-raddedig a'r gallu i ddarparu cymorth bugeiliol ac academaidd priodol i fyfyrwyr yn ôl yr angen.
Lleolir y swydd mewn gwahanol fannau oddi ar y safle ac ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun seiclo i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Swydd ran-amser (7.5 awr yr wythnos) a phenagored yw hon, ac mae modd dechrau ar unwaith.
Mae'r rôl yn addas i Feddyg Teulu cymwys a bydd ar bwynt priodol graddfa gyflog Addysgwr Meddygon Teulu, sef £113,424 y flwyddyn (pro-rata).
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Dr Bethan Stephens, Cyfarwyddwr Dysgu Clinigol Cymunedol drwy e-bostio
[email protected] neu ffonio 02922 510552, neu Dr Mary Robathan, Arweinydd Cymunedol Cam 2 drwy e-bostio
[email protected]
Dyddiad hysbysebu’r swydd: Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2026
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.