Deputy Chief Operating Officer
This newly shaped leadership role will drive the strategic development and delivery of an integrated, high‑performing professional services environment at Cardiff University by:
- Leading service transformation across the academic and student lifecycle, ensuring professional services are coherent, customer‑focused, inclusive and aligned with institutional priorities.
- Providing strategic oversight and leadership of major operational areas, including Student Experience, Education Operations, Education Support, Governance, Timetabling and College Operations.
- Championing a culture of continuous improvement, embedding digital transformation, service integration, and sector‑leading operational practices.
- Driving strategic planning, risk management and performance assurance, ensuring effective resource allocation and robust governance.
- Leading and empowering multidisciplinary teams, developing talent, embedding new ways of working, and modelling our institutional values.
- Acting as a key strategic partner across the University, representing professional services, contributing to governance, and deputising for the Chief Operating Officer.
This is an exceptional opportunity for a dynamic and forward‑thinking leader to shape the future of professional services at Cardiff University. If you have a passion for delivering high‑quality services, empowering teams, and driving organisational change, we would be delighted to hear from you.
How to apply
Please DO NOT apply via this system.
For further details and information on how to apply, please visit the search agency's website here: https://mail.aspenpeople.co.uk/microsite/cardiff-dcoo/apply/
Closing date: 3 August 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu
Bydd y rôl arweinyddiaeth hon ar ei newydd wedd yn gwthio datblygiad strategol a darpariaeth amgylchedd gwasanaethau proffesiynol integredig ac o safon ym Mhrifysgol Caerdydd drwy gyflawni’r canlynol:
- Arwain gwaith trawsnewid y gwasanaeth drwy gydol y cylch oes academaidd a chylch oes y myfyrwyr, gan sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol yn gydlynol, yn canolbwyntio ar y cwsmer, yn gynhwysol ac yn gyson â blaenoriaethau sefydliadol.
- Darparu trosolwg strategol ac arwain ar feysydd gweithredol mawr, gan gynnwys Profiad y Myfyrwyr, Gweithrediadau Addysg, Cefnogi Addysg, Llywodraethu, Amserlennu a Gweithrediadau’r Colegau.
- Hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, gan ymgorffori trawsnewid digidol, integreiddiad gwasanaethau ac arferion gweithredol sy’n arwain y sector.
- Gyrru cynllunio strategol, rheoli risg a sicrwydd cyflawniad, gan sicrhau dyrannu adnoddau’n effeithiol a llywodraethu cadarn.
- Arwain a grymuso timau amlddisgyblaethol, datblygu talent, mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, a modelu ein gwerthoedd sefydliadol.
- Bod yn bartner strategol allweddol ar draws y Brifysgol, cynrychioli’r gwasanaethau proffesiynol, cyfrannu at waith llywodraethu, a dirprwyo i’r Prif Swyddog Gweithredu.
Dyma gyfle arbennig i arweinydd deinamig a blaengar ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau proffesiynol Prifysgol Caerdydd. Os ydych yn angerddol am ddarparu gwasanaethau o safon, grymuso timau a gyrru newid sefydliadol, carem glywed gennych.
Sut i ymgeisio
PEIDIWCH ag ymgeisio ar y system hon, os gwelwch yn dda.
Am fanylion pellach a gwybodaeth am sut i wneud cais, ymwelwch a gwefan yr asiantaeth chwilio yma: https://mail.aspenpeople.co.uk/microsite/cardiff-dcoo/apply/
Dyddiad cau: 3 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.