Proud to Serve. Proud to keep justice going.
Our Crown Court Clerks are essential to ensure Crown Court hearings run smoothly. They have the self-assurance to communicate confidently with the Judge and all participants and the skill to produce accurate and timely Court documents. Our Crown Court Clerk training programme provides a structured yet flexible approach to building the skills required to perform this vital role.
About us
HM Courts & Tribunals Service (HMCTS) is responsible for the administration of criminal, civil and family Courts and Tribunals in England and Wales. Our roles support our service users and colleagues within HMCTS, w people and businesses access potentially life-changing justice. We’re looking for individuals who are committed to public service and making a difference in people’s lives to deliver justice. If you are interested in developing a career with a real purpose, please apply.
About you
You’re a confident communicator; able to speak publicly, with the self-assurance to confidently liaise with the Judge, the defence, prosecution, media, members of the public and more, regarding complex and sensitive matters in a calm and professional manner.
A real team player, working with the clerking team, you’ll ensure the smooth running of all the Crown Courts sitting daily, able to intervene in Court when required and maximise judicial sitting time. With experience in producing exact and time critical documentation, your ability to focus will be key in taking verdicts, conducting arraignments, producing Court orders and recording hearing outcomes accurately and efficiently.
Resilient and keen to learn, you’re familiar with working within process and have the IT skills to adapt to new systems and technologies as we’re constantly investing in digital solutions to improve the way we deliver the justice people deserve in today’s world.
Your skills and experience
-
Able to speak publicly and within a court room environment.
-
Excellent communication, organisational and prioritisation skills
-
Ability to complete documents accurately and to deadlines.
-
IT proficient with the ability to learn and adapt to different technologies and software packages.
This role gives you the opportunity to make a difference in delivery Justice and gives you the benefits developing your career in the Civil Service.
Further details:
These operational roles are customer facing, requiring successful applicants to be office based to provide HMCTS services to the public. Standard full time working hours are 37 hours per week. HMCTS welcomes part-time, flexible and job-sharing working patterns, w they meet the demands of the role and business needs and are agreed prior to appointment. All applications for part-time, flexible and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the MoJ’s Flexible Working policy.
New recruits to the Civil Service joining MoJ are expected to join at the band minimum.
This is a court‑based role covering both office and courtroom environments; tfore, hybrid working will not be considered.
Skilled Worker Visa - This role is not eligible for new Skilled Worker visas in accordance with the current immigration rules.
From 22 July 2025, the Government increased the salary threshold and skills level for Skilled Worker visas. This role does not meet the eligibility criteria for sponsorship in accordance with the current immigration rules if you looking to apply for a Skilled Worker Visa for the first time.
The Department cannot consider sponsoring you for this role unless you have held a Skilled Worker visa continuously since before 22 July 2025. If you have held a Skilled Worker visa continuously, please raise this during your vetting checks and eligibility will be assessed in accordance with the immigration rules and transitional provisions in place.
If you are applying for this role and you do not meet the new eligibility criteria for sponsorship (or the transitional provisions), you will need to consider your options for obtaining and/or maintaining your right to work in the UK in light of these changes. Successful applicants must ensure they have and maintain the legal right to live and work in the Civil Service and in the United Kingdom.
The Department will continue to comply with UK Immigration Rules applied in the UK and Civil Service. You can read more about Skilled Worker visas and the eligibility criteria .
Additional Information
Base Location - Mold Justice Centre, Law Courts, Mold, CH7 1AE
Lead Criterion: Statement of Suitability. A sift based on the statement of suitability may be held if a large number of applications are received.
Regular travel to Caernarfon Justice Centre, Llanberis Road, Caernarfon LL55 2DF
This is a business-critical role requiring full time hours only.
The successful candidate will undergo Fire Warden training, and you will be expected to support and assist in these duties.
Interviews
Requests for virtual interviews and alternate dates will only be considered in exceptional circumstances or as part of a reasonable adjustment.
For a full job description, please see the supporting document in the advert below before applying.
Welsh Version
Yn Falch o Wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.
Mae ein Clercod Llys y Goron yn hanfodol i sicrhau bod gwrandawiadau Llys y Goron yn rhedeg yn ddidrafferth. Mae ganddynt yr hyder i gyfathrebu’n effeithiol â’r Barnwr a phawb sy’n cymryd rhan yn yr achos ac yn meddu ar y sgiliau i gynhyrchu dogfennau llys yn gywir ac yn amserol. Mae ein rhaglen hyfforddiant i Glercod Llys y Goron yn darparu dull strwythuredig ond hyblyg i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hanfodol hon.
Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu'r llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cyrchu cyfiawnder a allai newid bywydau. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.
Amdanoch chi
Rydych yn gyfathrebwr hyderus sy’n gallu siarad yn gyhoeddus, gyda’r hyder i gysylltu â’r Barnwr, yr Amddiffyniad, yr Erlyniad, y cyfryngau, aelodau’r cyhoedd a mwy, ynghylch materion cymhleth a sensitif mewn ffordd ddigynnwrf a phroffesiynol.
Byddwch yn chwaraewr tîm go iawn, gan weithio o fewn Tîm Cyfreithiol a gyda Barnwr, byddwch yn sicrhau bod yr holl Lysoedd Ynadon yn rhedeg yn ddidrafferth yn ddyddiol, yn gallu ymyrryd yn y Llys lle bo’r angen a gwneud y gorau o amser eistedd barnwyr. Gyda phrofiad mewn cynhyrchu dogfennaeth gywir a dan terfynau amser tynn, bydd eich gallu i ganolbwyntio yn allweddol wrth gymryd pledion, cynhyrchu gorchmynion llys a chofnodi canlyniadau gwrandawiadau yn gywir ac yn effeithlon.
Gan fod yn wydn ac yn awyddus i ddysgu, byddwch yn gyfarwydd â gweithio o fewn proses a bydd gennych y sgiliau TG i addasu i systemau a thechnolegau newydd gan ei bod wastad yn buddsoddi mewn datrysiadau digidol i wella’r ffordd rydym yn darparu’r cyfiawnder y mae pobl yn ei haeddu yn y byd heddiw.
Eich sgiliau a phrofiadau
-
Gallu siarad yn gyhoeddus ac o fewn amgylchedd ystafell llys.
-
Sgiliau cyfathrebu, trefnu a blaenoriaethu ardderchog.
-
Gallu cynhyrchu a chwblhau dogfennau yn gywir ac o fewn terfynau amser.
-
Sgiliau TG, gyda’r gallu i ddysgu ac addasu i dechnolegau a phecynnau meddalwedd gwahanol.
Mae’r rôl hon yn rhoi cyfle ichi wneud gwahaniaeth wrth weinyddu cyfiawnder ac mae’n darparu’r buddion a gewch wrth ddatblygu eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil.
Rhagor o fanylion:
Mae’r swyddi gweithredol hyn yn wynebu cwsmeriaid, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i'r cyhoedd. Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser, gweithio’n hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i'r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.
Mae hon yn rôl wedi’i lleoli yn y llys, sy’n cwmpasu amgylcheddau swyddfa ac ystafell llys; felly, ni fydd gweithio hybrid yn cael ei ystyried.
Medrus - Nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer fisas Gweithiwr Medrus newydd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol.
O 22 Gorffennaf 2025, cynyddodd y Llywodraeth y trothwy cyflog a’r lefel sgiliau ar gyfer fisâu Gweithwyr Medrus. Nid yw'r rôl hon yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer nawdd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol os ydych chi'n edrych i wneud cais am fisa gweithiwr medrus am y tro cyntaf.
Ni all yr Adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon oni bai eich bod wedi meddu ar fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus ers cyn 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi meddu ar fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn ystod eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â’r rheolau mewnfudo a’r darpariaethau trosiannol sydd ar waith.
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd (neu’r darpariaethau pontio), bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU sydd ar waith yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a’r meini prawf cymhwyster yma.
Gwybodaeth Ychwanegol
Lleoliad Sylfaenol – Canolfan Gyfiawnder yr Wyddgrug, Llysoedd y Gyfraith, Yr Wyddgrug, CH7 1AE
Meini Prawf Arweiniol: Datganiad o Addasrwydd. Gellir cynnal sift yn seiliedig ar y datganiad o addasrwydd os derbynnir nifer fawr o geisiadau.
Teithio rheolaidd i Ganolfan Gyfiawnder Caernarfon, Heol Llanberis, Caernarfon LL55 2DF
Mae hon yn rôl hanfodol i’r busnes sy’n gofyn am oriau llawn amser yn unig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant Warden Tân, a bydd disgwyl i chi gefnogi a chynorthwyo gyda’r dyletswyddau hyn.
Cyfweliadau
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, neu fel rhan o addasiad rhesymol, y bydd ceisiadau am gyfweliadau rhithwir a dyddiadau amgen yn cael eu hystyried.
Am swydd ddisgrifiad llawn, gweler y ddogfen ategol yn yr hysbyseb isod cyn gwneud cais.