Ymunwch â’r Egni yn Freedom Leisure – Gwneud yn Dda, Teimlo’n Dda!
Yn Freedom Leisure, mae popeth yn ymwneud ag awyrgylch cadarnhaol, pobl wych, a chael effaith go iawn. Ydyn, rydyn ni’n rhedeg cyfleusterau hamdden a diwylliannol, campfeydd, a phyllau nofio—ond wrth wraidd y cyfan, ein pobl ni sy'n gwneud y gwahaniaeth.
Fel un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol blaenllaw'r DU, rydyn ni’n falch o'n cenhadaeth o Wella Bywydau Trwy Hamdden. Rydyn ni yma i helpu cymunedau i fyw bywydau iachach a hapusach trwy wneud ein canolfannau'n groesawgar, yn gynhwysol, ac yn hygyrch i bawb - oherwydd mae pawb yn haeddu teimlo'n dda. Rydyn ni i gyd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid anhygoel gyda gwên—bob dydd. Rydyn ni’n creu mannau lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol, wedi'u cefnogi, ac wedi'u hysbrydoli.
Os ydych chi'n angerddol am helpu eraill ac yn caru creu profiadau gwych, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol gyda ni. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i ddechrau - byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi. Gyda dros 130 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr, mae yna lawer o le i dyfu. Mae llawer o'n tîm wedi adeiladu gyrfaoedd anhygoel gan wneud yr hyn maen nhw'n ei garu, gan helpu cwsmeriaid o ddydd i ddydd a gwneud i bobl deimlo'n dda.
Rydyn ni’n falch o fod yn weithle lle mae croeso i bawb, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i ffynnu—oherwydd pan fydd ein tîm yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, rydyn ni i gyd yn tyfu'n gryfach gyda'n gilydd.
Mae bod yn achubwr bywyd gyda ni’n grêt achos byddwch yn datblygu sgiliau gydol oes fel gwaith tîm a chyfathrebu. Dyma un o’n swyddi mwyaf boddhaol sy’n eich gadael yn teimlo’n wirioneddol grêt ar ddiwedd pob shifft. Rydych yn cwrdd â phobl o bob math a gwneud ffrindiau am oes gyda’ch cydweithwyr.
Mae ein hachubwyr bywyd yn rhan annatod o’n tîm ac maen nhw wedi mynd ymlaen i fod yn athrawon nofio, goruchwylwyr a mwy hyd yn oed. Byddwn yn eich cefnogi chi i ddatblygu a chyrraedd eich potensial!
Oriau: 37 awr yr wythnos, Dydd Llun – Dydd Sul (ar sail rota)
Join the Energy at Freedom Leisure – Do Good Feel Good!
At Freedom Leisure, we’re all about positive vibes, great people, and making a real impact. Yes, we run leisure and cultural facilities, gyms, and swimming pools—but at the heart of it all, it’s our people who make the difference.
As one of the UK’s leading charitable leisure trusts, we’re proud of our mission of Improving Lives Through Leisure. We’re here to help communities live healthier, happier lives by making our centres welcoming, inclusive, and accessible to everyone - because everyone deserves to feel good. We’re all about delivering amazing customer service with a smile—every single day. We create spaces where people feel at home, supported, and inspired.
If you’re passionate about helping others and love creating great experiences, you’ll feel right at home with us. You don’t need to be an expert to get started - we’ll give you all the training and support you need. With over 130 centres across England and Wales, there’s loads of room to grow. Many of our team have built amazing careers doing what they love, helping customers day-to-day and making people feel good.
We’re proud to be a workplace where everyone is welcome, valued, and supported to thrive—because when our team reflects the communities we serve, we all grow stronger together.
Being a Lifeguard with us is great as you will develop life-long skills like teamwork and communication. It is one of our most rewarding jobs and leaves you feeling really great at the end of a shift and you get to meet people from all walks of life and make lifelong friends with your colleagues.
Our Lifeguards are an integral part of our team and have gone on to become swim teachers, supervisors and even more, we will support you to develop to reach your potential!
Hours: 37 hours per week, Monday - Sunday (Rota Basis)
Requirements
Gofynion
- Cymhwyster NPLQ neu debyg
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
- Gallu a dealltwriaeth o sut i ymwneud â chwsmeriaid o bob oed a gallu, a hefyd pob lefel o staff.
- Sgiliau rhyngbersonol datblygedig
- Agwedd o weithio fel tîm, yn gallu gweithio ar draws ffiniau’r sefydliad a dangos diddordeb a chefnogi gwaith staff a chydweithwyr.
- Gallu gweithio’n hyblyg a deall cyfarwyddiadau gan reolwyr
- Dangos angerdd ac egni i’r diwydiant hamdden
- Yn hyblyg ac ystwyth
-
NPLQ qualification or equivalent
- First Aid at Work
- An ability and understanding of how to relate to customers of all ages and abilities and also to all levels of staff
- Well developed interpersonal skills
- Team orientated approach, able to work across organisation boundaries and demonstrate interest and be supportive of the work of staff and colleagues
- To be able to work flexibly and understand instructions from managers
- Demonstrated passion and energy for the leisure industry
- Flexible and adaptable
Benefits
Rydym am i chi fod wrth eich bodd yn dod i’r gwaith, gan deimlo’n iach, yn hapus ac yn cael eich gwerthfawrogi. Dyna pam ein bod ni wedi datblygu pecyn buddion gyda chi mewn golwg. Felly beth allwn ni ei gynnig i chi?
-
Fy Siop Staff, ein cynllun buddion unigryw i staff. Trwy hwn gall ein gweithwyr fanteisio ar amrywiaeth wych o fuddion. Cewch brisiau gostyngol ar docynnau sinema, archebu teithio, e-docynnau rhodd ar gyfer y stryd fawr, cardiau rhodd, dyddiau allan, gweithgareddau hamdden a’ch gwario beunyddiol.
- Aelodaeth staff am bris gostyngol (gan gynnwys aelodau’r teulu)
- Gwyliau sy’n cynyddu hira’ yn y byd ry’ch chi’n gweithio i ni
- Rhaglen gymorth i weithwyr – cwnsela proffesiynol, annibynnol a chyfrinachol 2
-
Pensiwn cwmni
- Cynlluniau yswiriant a chynilo amrywiol
- Cyngor ariannol
- Cynlluniau beicio i’r gwaith a phrydlesu ceir sy’n effeithiol o ran treth (staff cyflogedig yn unig, yn dibynnu ar enillion)
- Fe gewch chi hyn oll yn ogystal â hyfforddiant a ariennir yn llawn a chyfleoedd i ddatblygu yn eich gyrfa mewn awyrgylch lle mae gwaith tîm yn greiddiol
We want you to love coming to work, feeling healthy, happy and valued. That's why we've developed a benefits package with you in mind, so what can we offer you?
-
My Staff Shop, our very own staff benefit scheme, gives employees access to a great range of benefits. Get discounts on cinema tickets, travel bookings, high street e-vouchers, gift cards, days out, leisure activities and your day to day spending.
-
Discounted Staff membership (including family members)
-
Incremental holidays
-
24/7 / Employee Assistance Programme - 24/7 confidential, independent and professional counselling.
-
Company pension
-
Various insurance and saving schemes
-
Financial advice
-
Cycle-to-work and Car Leasing tax-efficient schemes (salaried staff only, depending on earnings).
-
All this as well as fully funded training and career progression opportunities in a team working environment
Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2026 / Closing date: 31st July 2026
Cyflog: hyd at £24,519 y flwyddyn / Salary: up to £24,519 per annum
Mae Freedom Leisure yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, ac rydym yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Freedom Leisure is proud to be an equal opportunities employer.
We are committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people, and vulnerable adults, and we expect all staff and volunteers to share this commitment.