Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Arwain ac ehangu portffolio datblygu masnachol a phrentisiaethau’r Coleg trwy sicrhau busnes newydd, atgyfnerthu perthnasoedd gyda chleientiaid a goruchwylio'r gwaith o greu cynigion masnachol gwerth uchel sy'n hybu twf o fewn y sefydliad ac yn cyflawni canlyniadau cryf i gyflogwyr.
-
Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
-
Parhaol
-
£57,464 y flwyddyn
-
Llys Jiwbilî, Fforestfach, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
-
Arwain swyddogaeth datblygu busnes y Coleg gan sicrhau cyflawniad digonol ar draws yr holl weithgarwch masnachol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau twf.
-
Darparu cyfarwyddyd clir i dimau sy’n gyfrifol am gaffael cleientiaid, rheoli cyfrifon, datblygiad cyfleoedd masnachol a chynhyrchu cynigion.
-
Meithrin cydweithrediadau cryf rhwng timau datblygu busnes, cwricwlwm, marchnata ac ansawdd i wneud y mwyaf o ganlyniadau masnachol.
-
Goruchwylio gweithdrefnau masnachol strwythuredig sy'n cwmpasu’r broses o gaffael cleientiaid newydd a hybu twf mewn perthynas â chyfrifon presennol.
Amdanoch Chi
-
Gradd neu gymhwyster cyfwerth
-
Cymhwyster mewn Arwain a Rheoli neu barodrwydd i weithio tuag at un
-
Profiad ym maes datblygu busnes, gwerthu masnachol neu reoli cleientiaid
-
Profiad o arwain timau i gyflawni targedau masnachol neu incwm
-
Sgiliau cyfathrebu, negodi a meithrin perthnasoedd cryf
Buddion:
-
37 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).