IMPACT vacancies 2026-27 – Cardiff University
We have an amazing opportunity to join our growing team, as IMPACT Facilitators and as Senior Strategic Improvement Coaches (Demonstrators).
As IMPACT moves into the fourth year of its delivery phase, these exciting roles have been created to work on our 2026/27 projects, across the UK. Successful candidates will play a pivotal part in helping to get evidence of what works used in adult social care to improve services and lives.
To apply, you must: Send a CV and cover letter to [email protected], clearly detailing the role, project and location you are applying for in the subject of the email. Your cover letter should be no more than two sides of A4, drawing attention to the key skills, values and experiences you would bring to the role, if successful, and the ways in which your CV to date fits with the requirements of the role and the host setting.
If you wish to apply for more than one role, please submit one CV plus one cover letter per role you wish to be considered for.
Complete our mandatory additional information form - IMPACT Job Application May/June 2026 - Mandatory additional information - Please complete – Fill in form. Applicants that do not complete the form will not be considered.
The deadline for applications is Friday, 26th June 2026.
Informal enquires can be sent to [email protected]
Interviews are likely to be held during the week commencing 13th July 2026. Shortlisted candidates invited to online interview will be asked to prepare a short presentation about the challenges and opportunities of the role and project they are applying to.
Due to the nature of the work undertaken in this role, all successful applicants will be subject to a satisfactory DBS enhanced clearance prior to appointment.
As part of IMPACT’s commitment to equality, diversity and inclusion we are particularly keen to receive applications from people from black and minority ethnic communities and will be operating the ‘Rooney’ rule*. We are also keen to receive applications from people who have lived experience of drawing on care and support, are carers or are front-line practitioners, as well as from people who have experience of working with groups whose voices are seldom heard.
We value diversity and inclusion at the University of Birmingham and welcome applications from all sections of the community and are open to discussions around all forms of flexible working. If travel is agreed to locations other than the normal place of work - typically the host organisation’s office - travel will be reimbursed between the place of work and the location.
(* at least one person from a black and minority ethnic community background will be shortlisted where they meet the essential criteria for the role)
Facilitators
Part time 0.5/50%
Fixed term contract (12 months, target start date September 2026)
Salary: Min - £33,020 FTE Max - £46,049 FTE (50% for this post)
Closing date: Friday 26th June 2026
THE POST
Positions are offered at 50% FTE for 12 months. While successful candidates may wish to be directly employed by a lead University, the nature of the roles also makes them ideal for possible secondments from policy, practice or applied research. Posts are typically based in the host organisation (a local service or social care organisation) across the four nations. Post holders will work with these organisations, as detailed below, and with our Facilitator co-leads Karen Watchman and Kathryn Mackay - as well as IMPACT’s broader team and other partners.
While these are part-time posts (with preferred working patterns between Mon-Fri, open to mutual agreement), successful applicants will be expected to attend fortnightly meetings with the broader IMPACT team where possible – these are held on Monday mornings (11am-12), for one hour. Facilitator team meetings are held online fortnightly on Wednesdays (4-5pm).
THE TOPICS AND LOCATIONS: Supporting older carers and their families, Ystradgynlais, Powys – Credu, Wales
The post is based with Credu in Ystradgynlais with occasional travel to Welshpool. The role is hybrid with home working possible by agreement to meet the needs of the service. However, due to the community development nature of the role, the successful candidate is required to be available in Ystradgynlais for up to 2.5 days per week as required.
At Credu, the mission is to empower carers to thrive alongside their caring responsibilities. Timely, tailored support is vital for carers to maintain their wellbeing and continue in their caring roles. When carers feel heard, valued, and have space to work towards their own outcomes, their wellbeing improves. Taking a strength-based approach, the IMPACT Facilitator will engage with local communities in Ystradgynlais to co-develop a carer peer support service providing informal support and respite for older carers and their families. This will build on previous work in Welshpool. By co-producing this work, and understanding the most significant changes experienced, the aim is to reduce demand on crisis services, improve mental health outcomes, and build sustainable, strength-based care systems. When carers are empowered to shape the support they receive, outcomes are better for individuals, families, and the wider community.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Swyddi gwag IMPACT 2026-27 – Prifysgol Caerdydd
Mae gennym gyfle gwych i ymuno â'n tîm sy’n tyfu, fel Hwyluswyr ac Uwch-hyfforddwyr Gwella Strategol (Arddangoswyr) IMPACT.
Wrth i IMPACT symud i bedwaredd flwyddyn y cam cyflawni, mae'r rolau cyffrous hyn wedi'u creu i weithio ar brosiectau 2026/27, ledled y DU. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rôl ganolog wrth helpu i ganfod tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol i oedolion, a hynny er mwyn gwella gwasanaethau a bywydau.
I wneud cais,
rhaid i chi:
1) Anfon CV a llythyr eglurhaol i
[email protected], gan nodi’n glir y rôl, y prosiect a'r lleoliad rydych yn gwneud cais amdanynt yn llinell pwnc yr e-bost. Ni ddylai eich llythyr eglurhaol fod yn fwy na dwy ochr A4, a dylai dynnu sylw at y sgiliau, y gwerthoedd a'r profiadau allweddol y byddech yn eu cynnig i'r rôl, pe baech yn llwyddiannus, a'r ffyrdd y mae eich CV hyd yma'n cyd-fynd â gofynion y rôl a'r lleoliad cynnal.
Os hoffech wneud cais am fwy nag un rôl, cyflwynwch un CV ynghyd ag un llythyr eglurhaol am bob rôl yr hoffech gael eich ystyried ar ei chyfer.
2) Cwblhewch ein ffurflen gwybodaeth ychwanegol orfodol – Cais am Swydd IMPACT Mai/Mehefin 2026 – Gwybodaeth ychwanegol orfodol – Cwblhewch – Llenwch y ffurflen. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn llenwi'r ffurflen yn cael eu hystyried.
Dydd Gwener 26 Mehefin 2026 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Gallwch e-bostio ymholiadau anffurfiol i
[email protected]
Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 13 Gorffennaf 2026. Gofynnir i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ac sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein baratoi cyflwyniad byr yn trafod heriau a chyfleoedd y rôl a'r prosiect y maent yn gwneud cais i weithio arno.
Oherwydd natur y gwaith a wneir yn y rôl hon, bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS manwl boddhaol cyn penodi.
Yn rhan o ymrwymiad IMPACT i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gymunedau du ac ethnig lleiafrifol, a byddwn yn gweithredu rheol 'Rooney'*. At hynny, byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad byw o dderbyn gofal a chymorth, sy’n ofalwyr neu ymarferwyr rheng flaen, yn ogystal â phobl sydd â phrofiad o weithio gyda grwpiau nad ydynt yn cael cyfle i fynegi eu barn yn aml.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhrifysgol Birmingham ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned ac yn agored i drafodaethau ynghylch pob math o weithio hyblyg. Os cytunir ar deithio i leoliadau heblaw'r man gwaith arferol – swyddfa'r sefydliad cynnal fel arfer – caiff costau teithio rhwng y man gwaith a'r lleoliad eu had-dalu.
(* caiff o leiaf un person o gefndir cymunedol du ac ethnig lleiafrifol eu cynnwys ar y rhestr fer lle maent yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl)
Hwylusyddion
- Rhan-amser 0.5/50%
- Contract tymor penodol (12 mis, dyddiad cychwyn targed Medi 2026)
- Cyflog: Isafswm – £33,020 CALl Uchafswm – £46,049 CALl (50% ar gyfer y swydd hon)
- Dyddiad cau: DyddGwener 26 Mehefin 2026
Y SWYDD
Cynigir swyddi ar gyfradd 50% CALl am 12 mis. Er ei bod yn bosibl y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dymuno cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Brifysgol arweiniol, mae natur y rolau hefyd yn eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer secondiad posibl o fyd polisi, ymarfer neu ymchwil gymhwysol. Fel arfer, lleoliad y swydd yw’r sefydliad cynnal (gwasanaeth lleol neu sefydliad gofal cymdeithasol) ledled y pedair gwlad. Bydd deiliaid y swyddi’n gweithio gyda'r sefydliadau hyn, fel y nodir isod, a gyda'n cyd-arweinwyr Hwyluso Karen Watchman a Kathryn MacKay - yn ogystal â thîm ehangach IMPACT a phartneriaid eraill.
Er mai swyddi rhan-amser yw'r rhain, (ffefrir patrymau gwaith rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ar ôl dod i gytundeb), disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd bob pythefnos gyda thîm ehangach IMPACT lle bo hynny'n bosibl - cynhelir y rhain ar fore Llun (11am-12pm), am awr. Cynhelir cyfarfodydd tîm yr hwyluswyr ar-lein bob pythefnos ar ddydd Mercher (4-5pm).
Y TESTUNAU A'R LLEOLIADAU: Cefnogi gofalwyr hŷn a'u teuluoedd, Ystradgynlais, Powys – Credu, Cymru
o Mae’r swydd wedi’i lleoli gyda Credu yn Ystradgynlais gyda theithio achlysurol i'r Trallwng. Mae'r rôl yn hybrid gyda gweithio o gartref yn bosibl trwy gytundeb i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Fodd bynnag, oherwydd natur datblygu cymunedol y rôl, mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael yn Ystradgynlais am hyd at 2.5 diwrnod yr wythnos yn ôl yr angen.
o Yn Credu, y genhadaeth yw grymuso gofalwyr i ffynnu ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. Mae cymorth amserol, wedi'i deilwra, yn hanfodol i ofalwyr gynnal eu lles a pharhau yn eu rolau gofalu. Pan fydd gofalwyr yn teimlo eu bod nhw'n cael eu clywed, eu gwerthfawrogi, a bod ganddyn nhw amser i weithio tuag at eu canlyniadau eu hunain, mae eu lles yn gwella. Gan fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar gryfderau, bydd Hwylusydd IMPACT yn ymgysylltu â chymunedau lleol yn Ystradgynlais i gyd-ddatblygu gwasanaeth cymorth cyfoedion i ofalwyr sy'n darparu cymorth anffurfiol a seibiant i ofalwyr hŷn a'u teuluoedd. Bydd hyn yn adeiladu ar waith blaenorol yn y Trallwng. Drwy gyd-gynhyrchu'r gwaith hwn, a deall y newidiadau mwyaf arwyddocaol a brofwyd, y nod yw lleihau'r galw ar wasanaethau argyfwng, gwella canlyniadau iechyd meddwl, ac adeiladu systemau gofal cynaliadwy sy'n seiliedig ar gryfderau. Pan fydd gofalwyr yn cael eu grymuso i lunio'r gefnogaeth maen nhw'n ei derbyn, mae'r canlyniadau'n well i unigolion, teuluoedd a'r gymuned ehangach.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.