Research Associate, CASCADE
Cardiff University School of Social Sciences is seeking to recruit a Research Associate to work within the Children's Social Care Research and Development Centre (CASCADE), Research Centre that is located within the School.
In this role you will conduct high quality research and data analysis using linked administrative data and contribute to the overall research performance of the Children’s Social Care Research and Development Centre (CASCADE)
We invite applications for a full-time Research Associate to join our friendly and inclusive research team at Cardiff University (along with colleagues from Bristol University and ATD Fourth World) to work on our new project funded by the National Institute for Health and Care Research (NIHR). This is a two-year post within a three-year study, which aims to develop a complex systems approach to ‘child harms’.
This project is an ambitious mixed methods study to investigate the utility of public health approaches to understand and respond to child harms within the context of a whole system approach. Drawing on concepts and methods well established in the field of public health, the project will contribute to methodological, theoretical, and empirical knowledge within social care policy, practice and research. This study will add to knowledge by describing the child harm system as a whole, identifying the data sources that allow description and monitoring of that system, and greater understanding of the social determinants of ‘child harm’ and inequalities in outcomes. Furthermore, the study has the potential to open up new methodological and conceptual horizons within the field of social care research.
This post is full time (35 hours per week) fixed term for a period of 24 months and available immediately.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6), with annual increments up to final salary at top of grade. New appointments are usually made at the starting point of the salary scale.
Responsible to Dr Martin Elliott, Principal Investigator
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (including bank holidays), blended working (meaning you will be able to work from home for some of your time), a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments up the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
As the biggest university in Wales – and a major employer, with more than 7,000 staff – we are an ambitious and innovative university located in a beautiful and thriving capital city. We can offer you the chance to work in a vibrant organisation, with great benefits and opportunities for progression.
Date advert posted: Wednesday, 8 July 2026
Closing date: Wednesday, 29 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cydymaith Ymchwil, CASCADE
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Cydymaith Ymchwil i weithio yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Canolfan Ymchwil sydd wedi'i lleoli yn yr Ysgol
Yn y rôl hon Cynnal gwaith ymchwil o ansawdd uchel a dadansoddi data drwy ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig. Byddwch hefyd yn cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE),
Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Cymrawd Ymchwil amser llawn i ymuno â'n tîm ymchwil cyfeillgar a chynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd (ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Bryste ac ATD Fourth World) i weithio ar ein prosiect newydd a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Swydd am gyfnod o ddwy flynedd yw hon mewn astudiaeth tair blynedd o hyd sy'n ceisio datblygu dull o ymdrin â 'niwed i blant' sy’n seiliedig ar systemau cymhleth.
Mae'r prosiect hwn yn astudiaeth uchelgeisiol sy’n cynnwys dulliau cymysg. Ei nod yw ymchwilio i ddefnyddioldeb dulliau iechyd cyhoeddus er mwyn deall ac ymateb i niwed i blant yng nghyd-destun dull system gyfan. Gan ddefnyddio cysyniadau a dulliau sydd wedi hen ennill eu plwyf ym maes iechyd y cyhoedd, bydd y prosiect yn cyfrannu at wybodaeth fethodolegol, damcaniaethol ac empirig mewn polisïau, arferion ac ymchwil gofal cymdeithasol. Bydd yr astudiaeth hon yn ychwanegu at wybodaeth drwy ddisgrifio'r system niwed i blant yn ei chyfanrwydd, nodi'r ffynonellau data sy'n caniatáu i’r system honno gael ei disgrifio a’i monitro, yn ogystal â dealltwriaeth well o benderfynyddion cymdeithasol 'niwed i blant' ac anghydraddoldebau mewn deilliannau. Ar ben hynny, gallai’r astudiaeth agor gorwelion methodolegol a chysyniadol newydd ym maes ymchwil gofal cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos) cyfnod penodol am gyfnod o 24 mis ac ar gael ar unwaith.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6), gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau'r raddfa gyflog.
Yn gyfrifol am Dr Martin Elliott, Prif Ymchwilydd
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Martin,
[email protected]
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi ddatblygu eich gyrfa.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd