Research Assistant
Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
We are looking for a Research Assistant to join the Moondance Dementia Laboratory team in the School of Medicine, Cardiff University.
In this role, you will:
- Conduct pathological assessment of Alzheimer’s Disease-related tissue sections
- Analyse state-of -the-art biomedical models
- Research mechanisms of Alzheimer’s Disease
We’d like to hear from you if you:
- Are interested in working within a collaborative team
- Learning state-of-the-art technologies and analysis
- Are enthused by the process of scientific discovery
The successful candidate will be part of a team analysing novel experiments to understand the role of microglia in the brain during Alzheimer’s Disease. We aim to understand how a patients genes contribute to the development of disease. The successful candidate need not have specialist knowledge in this area, but it will be advantageous to have technical ability in the processing of, staining of and analysis of tissue sections.
This post is based at the Hadyn Ellis Building, Cathays campus.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
How we will support you in performing in this role –
There are some things that you must have before you can start this role (see ‘Essential Criteria’), but other things can be developed either through training, or just by general on-the-job experience. We want to support and develop you once you have started in the role using a combination of the following to get the best out of you:
1. Regular one-to-ones with your manager
2. An experienced and supportive team around you
3. Supporting you through job-relevant training and development that you may require
4. A mentoring scheme
Please contact Prof Julie Williams (
[email protected]) for an informal, confidential discussion about the role.
This post is full-time (35 hours per week), available from 1 September 2026 and fixed term until 31 August 2027.
Salary: £33,951 - £36,636 per annum (Grade 5). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Date advert posted: Thursday, 20 August 2026
Closing date: Thursday, 17 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cynorthwyydd Ymchwil
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil i ymuno â thîm Labordy Dementia Moondance yn yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.
Yn y rôl hon, byddwch yn:
- Cynnal asesiad patholegol o rannau meinwe sy'n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer
- Dadansoddi modelau biofeddygol o'r radd flaenaf
- Mecanweithiau ymchwil clefyd Alzheimer
Hoffem glywed gennych os yw’r canlynol yn berthnasol:
- Mae gennych ddiddordeb mewn gweithio o fewn tîm cydweithredol
- Mae gennych ddiddordeb mewn dysgu technolegau a dadansoddiadau o’r radd flaenaf
- Rydych yn frwdfrydig am broses darganfyddiadau gwyddonol
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n dadansoddi arbrofion newydd i ddeall rôl microglia yn yr ymennydd yn sgil clefyd Alzheimer. Ein nod yw deall sut mae genynnau cleifion yn cyfrannu at ddatblygiad clefyd. Nid oes angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth arbenigol yn y maes hwn, ond bydd yn fanteisiol cael gallu technegol wrth brosesu, staenio a dadansoddi adrannau meinwe.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon –
Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd sicrhau’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl i chi ddechrau yn y swydd, rydym ni am eich cefnogi chi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
4. Cynllun mentora
Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â’r Athro Julie Williams (
[email protected])
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol rhwng 1 Medi 2026 a 31 Awst 2027 yw hon.
Cyflog: £33,951 – £36.636 y flwyddyn (Gradd 5). Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 20 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 17 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd