Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Cydlynu a gweithredu gweithdrefnau gweinyddu cyffredinol mewn perthynas â phrosiectau’r coleg a ariennir yn allanol.
Cydlynu a gweithredu dyletswyddau allweddol sy'n ymwneud â chasglu gwybodaeth, yn unol â gofynion cyrff cyllido perthnasol.
Cyflwyno gwybodaeth ystadegol gywir i’r Arweinydd Cyllid Allanol a Rheolwyr Prosiect perthnasol eraill er mwyn monitro cynnydd prosiectau yn unol â gofynion y ffrydiau ariannu.
-
Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
-
Cyfnod Penodol (tan fis Mawrth 2027)
-
£29,522 - £32,084 y flwyddyn
-
Campws Kingsway, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
-
Cydlynu'r proses o gasglu (a sicrhau ansawdd) cofnodion ariannol er mwyn hwyluso’r gwaith o sicrhau grantiau ar gyfer prosiectau a ariennir yn allanol - yn unol â Gweithdrefnau Archwilio Cyllid y Coleg a Chyllid Allanol.
-
Cynnal gwybodaeth ystadegol am holl drafodion ariannol y Coleg mewn perthynas â phrosiectau a ariennir yn allanol, gan gynnwys casglu a choladu data am weinyddwyr prosiectau.
-
Cynnal gwybodaeth ystadegol er mwyn cyflawni prosiectau a ariennir yn allanol yn y Coleg yn unol â Gweithdrefnau Archwilio Cyllido'r Coleg a Chyllid Allanol.
Amdanoch Chi
-
NVQ Uwch/Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster cyfwerth.
-
Lefel 2 (TGAU Gradd A-C) neu gymhwyster Mathemateg a Saesneg cyfwerth.
-
Profiad o ddiwallu gofynion archwilio cronfeydd Ewropeaidd a chronfeydd allanol eraill.
Buddion:
-
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).