Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel ac asesu prentisiaethau ar ein contract dysgu seiliedig ar waith. Yn bennaf, byddwch yn gweithredu o fewn yr adran iechyd a diogelwch, ond byddwch hefyd yn ymwneud â meysydd fel tân (ymwybyddiaeth, asesu risg a diogelwch), materion amgylcheddol, y sector adeiladu ac iechyd a lles. Gall rhaglenni’r hyfforddiant gynnwys NVQs, Nebosh, IOSH, Diogelwch Bwyd, rhaglenni pwrpasol a gweithdai.
Yn ogystal â bod yn ‘hyfforddwr’, byddwch yn gweithredu fel mentor i’r dysgwyr yr ydych yn eu cefnogi, a byddwch yn eu hannog i ddefnyddio tystiolaeth o wybodaeth yn eu portffolios er mwyn iddynt arddangos y sgiliau dysgu seiliedig ar waith y maent wedi’u hennill yn ystod y rhaglen.
-
Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
-
Parhaol
-
£36,806 - £42,817 y flwyddyn
-
Llys Jiwbilî, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
-
Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o raglenni gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau’r corff dyfarnu.
-
Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau dysgu’n cael eu cynllunio a gwneud yn siwr eu bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr. Byddwch hefyd yn siccrhau bod mentrau trawsbynciol (megis Gwerthoedd Prydeinig, Diogelwch, Sgiliau Hanfodol Cymru) yn cael eu hymgorffori a’u hasesu’n effeithiol.
-
Addysgu, asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw a chynnal cofnodion gwaith a chyflawniad.
Amdanoch Chi
-
Cymhwyster Iechyd a Diogelwch perthnasol (e.e. NEBOSH, IOSH)
-
Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd a diogelwch yn ddymunol
-
Gwybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant, gan gynnwys anghenion hyfforddi
Buddion:
-
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
-
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
-
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
-
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).