Diolch am eich diddordeb yn y swydd Rheolwr Tai.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda 350 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno ân tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel aelod or Tîm Tai byddwch yn arwain y Tîm i ddarparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol syn galluogi Grŵp Cynefin i ragori, gan sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau tai or safon uchaf i denantiaid a darpar denantiaid.
Byddwch yn rheolir Tîm Tai i gynnwys yr holl staff a chyllideb uchafu incwm ac yn cefnogir Pennaeth Tai ac arwain y Tîm i gyflawni ei dargedau ai amcanion, gan gynnal a gwella perfformiad ein gwasanaethau rheolaeth tai a sicrhau bod naws o welliant parhaus yn rhan o bob agwedd or gwaith, gan ganolbwyntio ar ddeilliannau y gwasanaethau â ddarperir.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Rhiannon Dafydd, Pennaeth Tai, ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £46,392 - £52,216
Lleoliad: Penygroes/Dinbych a gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd (pro rata)
Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd: DS Rheolwr Tai 06.26.pdf
Saesneg
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: Dydd Llun, 29 Mehefin 2026
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.