HR Officer (with Health & Safety Focus)
Part-Time 3 days per week
18 months fixed-term contract
Are you an HR professional with a passion for Health & Safety?
Do you thrive in a role where you can make a real impact on employee wellbeing, organisational culture, and operational excellence?
We’re looking for a proactive and knowledgeable HR Officer to join our People Services team—someone who can combine strong HR expertise with a confident, practical approach to Health & Safety leadership.
About the Role
This is an exciting opportunity to play a pivotal role in delivering a high-quality, professional HR service within Pembrokeshire Coast National Park.
You will provide expert HR advice across a wide range of areas while acting as a key point of contact for day-to-day Health & Safety guidance, ensuring best practice and compliance are embedded across the organisation.
You’ll also contribute to continuous improvement, shaping HR processes, policies and initiatives that support both people and performance.
This post is Welsh essential; applicants must demonstrate Welsh language speaking skills at a minimum of B2 level.
What You Will Be Doing
- Delivering professional HR advice in line with legislation and best practice
- Acting as a specialist advisor on Health & Safety matters, supporting managers and ensuring compliance
- Supporting recruitment, performance management, employee relations, and wellbeing initiatives
- Developing and implementing HR policies and procedures
- Producing HR reports and insights to support decision-making
- Supporting training delivery across HR and Health & Safety topics
Please refer to the job description (available for download) for more information.
Salary and Benefits:
A salary of £32,597- £34,434, pro rata, per annum, minimum 25 days’ holiday rising to 30 days plus public holidays, generous local government pension scheme, great flexible working arrangements and career development opportunities.
We are committed to equality of opportunity for all staff and applications from individuals are encouraged regardless of age, disability, sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships.
We pledge to improve the diversity of our workforce and therefore guarantee an interview to disabled candidates who meet the essential job criteria and opt to apply via our Disability Confident Employers Scheme.
Not the right job opportunity for you? Make sure to check our website for a wide range of varied and interesting volunteering opportunities across the park.
Closing Date: 19/07/2026
Pembrokeshire Coast National Park Authority reserves the right to close this vacancy early.
Swyddog Adnoddau Dynol (â ffocws ar Iechyd a Diogelwch)
Rhan-amser 3 diwrnod yr wythnos
Contract cyfnod penodol o 18 mis
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol AD sy’n angerddol am Iechyd a Diogelwch?
Ydych chi'n ffynnu mewn swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i lesiant gweithwyr, i ddiwylliant y sefydliad, ac i weithredu’n rhagorol?
Rydym yn chwilio am Swyddog AD rhagweithiol a gwybodus i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Pobl - rhywun all gyfuno arbenigedd cadarn mewn AD â dull hyderus ac ymarferol o arwain yn y maes Iechyd a Diogelwch.
Ynglyn â'r Swydd
Mae’r swydd yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol mewn cyflawni gwasanaeth AD proffesiynol o ansawdd uchel ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ar AD ar draws ystod eang o feysydd, ac yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer canllawiau Iechyd a Diogelwch o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod arfer gorau a chydymffurfiaeth wedi'u hymgorffori ym mhob peth a wneir ar draws y sefydliad.
Hefyd byddwch yn cyfrannu at welliant parhaus, gan lunio prosesau, polisïau a mentrau AD sy'n cynorthwyo pobl a pherfformiad.
Mae’r swydd hon yn hanfodol Gymraeg; rhaid i ymgeiswyr allu dangos sgiliau siarad Cymraeg ar lefel B2 o leiaf.
Beth Fyddwch yn ei Wneud
- Rhoi cyngor AD proffesiynol yn unol â deddfwriaeth ac arfer gorau.
- Bod yn ymgynghorydd arbenigol ar faterion Iechyd a Diogelwch, cynorthwyo rheolwyr, a sicrhau cydymffurfiaeth.
- Cynorthwyo’r gwaith o recriwtio, rheoli perfformiad, cysylltiadau gweithwyr, a mentrau llesiant.
- Datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol.
- Llunio adroddiadau a mewnwelediad ar faterion AD i lywio gwneud penderfyniadau.
- Cynorthwyo’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant ar draws pynciau AD ac Iechyd a Diogelwch.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (sydd ar gael i'w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £32,597 - £34,434, pro rata, y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 19/07/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.
Pay: £32,597.00-£34,434.00 per year
Work Location: In person