Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm staff yr Hyb Gwyrdd yng Ngholeg Gwyr Abertawe. Mae gan lawer o'r dysgwyr anghenion dysgu ychwanegol ac mae rhai yn arddangos ymddygiad heriol.
Cyfrifoldebau Allweddol:
-
Cynllunio, paratoi ac addysgu sesiynau cyffrous a difyr o fewn maes pwnc tirlunio
-
Cyfrannu’n weithredol at y cwricwlwm 14-19
-
Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau dysgu yn cael eu cynllunio a’u bod yn hygyrch, er mwyn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr.
Swydd Wag 1
-
18.5 awr yr wythnos
-
Parhaol
-
£13,193 - £25,965 y flwyddyn (£26,386 - £51,931 Cyflog Amser Llawn)
-
Campws Tycoch
Swydd Wag 2
- Hyd at 18.5 awr yr wythnos
-
Cyfnod Penodol
-
£18.23 - £35.89 yr awr (£26,386 - £51,931 Cyflog Amser Llawn)
-
Campws Tycoch
Nodwch yn glir pa rôl sydd gennych ddiddordeb ynddi
Amdanoch chi:
-
Cymhwyster proffesiynol neu radd dosbarth cyntaf mewn maes perthnasol
-
Meddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, gymhwyster addysgu cydnabyddedig
-
Brwdfrydedd ac angerdd am yr awyr agored / garddwriaeth ac ecoadeiladu
-
Sgiliau rheoli dysgwyr gwych ynghyd â dycnwch, ymrwymiad ac amynedd i ddelio ag amrywiaeth o ddysgwyr, llawer ohonynt yn ddysgwyr ADY sydd ag ymddygiad heriol
Buddion:
-
46 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
-
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28% ar gyfartaledd (2025)
-
2 ddiwrnod lles i staff
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
-
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
-
Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
-
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
-
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).