Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
I gynyddu canran y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff tu allan i'r cwricwlwm o fewn ein cymunedau, a'u hysbrydoli i fod yn weithgar, ar eu lefel ddewis. I gyflawni hyn trwy recriwtio a hyfforddi mwy o drefnwyr chwaraeon gwirfoddol, arweinwyr a hyfforddwyr. I fabwysiadu gwaith wedi'i leoli sydd yn ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y lle a'r amgylchedd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddo, ac sy'n ystyried y rhwystrau sydd gan bobl i weithgarwch corfforol, chwaraeon a symudiad. Mae hefyd yn ystyried dinasyddion fel gyrwyr newid trwy symud pŵer o wasanaethau a sefydliadau lleol i ddinasyddion lleol. Mae'r rôl hon yn cynnwys darparu a hwyluso gweithgareddau.
- Sicrhau bod pobl Môn wrth wraidd popeth a wnawn.
- Sicrhau bod pob plentyn ar Ynys Môn wrth ei fodd â chwaraeon / yn actif am oes.
- Cyfrannu tuag at weledigaeth Môn Actif ac Actif Gogledd Cymru.
- Chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau allweddol drwy’r ddarpariaeth Chwaraeon a Hamdden.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Barry Edwards
Rhif ffôn: 01248 752037
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Job Reference: CORP100790