Prentis Tywysydd Dan Ddaear, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru R26031702
Math o swydd wag: Parhaol/Llawn Amser
Categori: Prentisiaethau
(Prentisiaethau)
Ystod cyflog: Gradd B Dechrau: £23,966.62 ac yn symud ymlaen i Radd C £24,751.00 - £28,790.91 ar ôl cymhwyso.
Oriau: 35 awr yr wythnos
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol
Crynodeb o'r Swydd
Bydd y Prentis Tywysydd Dan Ddaear yn dilyn rhaglen hyfforddi lle bydd yn dysgu ac yn ennill y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i ddod yn Dywysydd Dan Ddaearol.
Mae rôl y Tywysydd Dan Ddaear yn allweddol i gyflwyno'r profiad uwchben ac o dan y ddaear yn Big Pit mewn ffordd ddiogel, lwyddiannus, ddiddorol, addysgiadol ac effeithlon.
Bydd y Tywysydd Dan Ddaear yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ymwelwyr, bydd yn rheoli teithiau unigol a grŵp uwchben ac o dan y ddaear, a bydd gofyn iddo gwblhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf o fewn ei flwyddyn gyntaf o gyflogaeth.
Rhaid i'r Tywysydd Dan Ddaear gydweithio'n agos â chydweithwyr o dimau eraill ar draws yr Amgueddfa.
Prif Gyfrifoldebau
Datblygu’r sgiliau technegol wrth gyflawni tasgau dan ddaear dan arweiniad staff yr Amgueddfa.
Hyfforddi a chynorthwyo mewn gwaith rheolaidd o dan ddaear, a chynnal archwiliadau statudol yn unol â Chynllun Cynnal a Chadw Arfaethedig y Rheolwr ar gyfer y pwll, ac unrhyw weithdrefnau a statudau perthnasol, Rheolau’r Rheolwr a chodau ymddygiad.
Dilyn hyfforddiant academaidd ac ymarferol ac ennill y cymwysterau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl.
Cynorthwyo yn ôl yr angen gan yr Adran Fwyngloddio mewn gweithrediadau cynnal a chadw eraill mewn rolau sy’n cyd-fynd â sgiliau, profiad a hyfforddiant y prentis (a phan fydd yn gymwys, y Tywysydd Dan Ddaear).
Helpu i redeg teithiau tanddaearol mewn rolau amrywiol sy’n cyd-fynd â sgiliau, profiad a hyfforddiant y prentisiaid.
Glanhau a chynnal a chadw pob rhan o’r pwll tanddaearol.
Cynnal gweithdrefnau iechyd a diogelwch a chynnal asesiadau risg a gweithdrefnau/dyletswyddau eraill.
Hyfforddi i fod yn aelod rhan-amser o dîm Gwasanaeth Achub y Pyllau.
Ymroi yn llawn i gefnogi egwyddorion ac arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, fel yr amlinellir ym mholisïau Amgueddfa Cymru.
Sicrhau bod yr adran yn cydymffurfio â pholisïau’r Amgueddfa Cymru ar Gynaliadwyedd, Llythrennedd Carbon a'r Iaith Gymraeg.
Cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill y gallai eich gweithredoedd, neu eich diffyg gweithredu, effeithio arnyn nhw, a chydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch fel sy’n briodol.
Cyfrifoldeb masnachol: mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb am lwyddiant masnachol Amgueddfa Cymru.
Underground Guide Apprentice, Big Pit: National Coal Museum R26031702
Vacancy Type: Permanent/Full Time
Category: Apprenticeships
(Apprenticeships)
Salary Range: Starting Grade B: £23,966.62 and progressing to Grade C £24,751.00 - £28,790.91 when qualified.
Hours: 35 hours per week
Welsh Language Level Requirement: Desirable
Job Summary
The Underground Guide Apprentice will undergo a training programme whereby they learn and gain the required skills, knowledge and experience to become an Underground Guide.
The Underground Guide role is key to the safe, successful, engaging and information, and efficient delivery of the experience above and below ground at Big Pit.
The Underground Guide will be responsible for the health and safety of visitors, will manage individual and group tours above and below the surface, and will be required to be First Aid trained within the first year of their employment.
The Underground Guide must work closely with colleagues from other teams across the museum.
Key Responsibilities
Develop the technical skills in the operation of underground tasks under the guidance of museum staff.
Train and assist in the routine underground operations of the mine, and statutory inspections in accordance with the Manager’s Planned Maintenance Scheme for the mine and any applicable procedures, statutes, Manager’s Rules and codes of conduct
Undertake academic and practical training and obtain the necessary qualifications and experience for the role.
Assist as required by the Mining Department in other maintenance operations in capacities that are compatible with the apprentices’ (and when qualified, Underground Guide’s) skills, experience and training
Assist in the operation of the underground tours in various capacities compatible with the apprentices’ skills, experience and training
Cleaning and maintenance of all parts of the underground
Maintain Health and Safety and Security procedures and carry out Risk Assessments and other procedures/duties.
Train to become a part-time member of the Mines Rescue team
Participate actively in supporting the principles and practice of equality, diversity and inclusion, as laid down in Amgueddfa Cymru’s policies.
Support the department’s compliance with Amgueddfa Cymru’s policies on Sustainability, Carbon literacy and the Welsh language.
Take reasonable care for the health and safety of yourself and other persons who may be affected by your acts or omissions and to comply with all health and safety legislation as appropriate
Commercial responsibility: every member of staff has responsibility for the commercial success of Amgueddfa Cymru.
Pay: £23,966.62 per year
Work Location: In person