Pro Vice Chancellor (Education and Student Experience)
This is an exceptional senior leadership opportunity to play a defining role in shaping the educational mission and student experience of Cardiff University.
As Pro Vice-Chancellor (Education and Student Experience), you will provide University-wide strategic academic leadership for education, learning and the student experience, advancing Cardiff University’s strategy Our Future, Together. You will champion inclusive, innovative and partnership-based approaches to education that enable all students to thrive academically, personally and professionally, and ensure that excellent education is central to the University’s identity as a values-led, research-intensive, and global civic institution.
Working as a key member of the University Executive Board, you will lead the development and delivery of education and student experience strategy across the University. You will guide enhancement of curricula, assessment and pedagogic practice, strengthen student partnership, and provide senior academic leadership for quality, standards and regulatory engagement. Through collaboration with students, academic colleagues and professional services, you will drive continuous improvement in student success, wellbeing, inclusion and employability.
This role is pivotal to Cardiff University’s ambition to be a sector leader in learning and teaching across Wales, the UK and internationally, and to its commitment to civic impact, sustainability, equity and bilingualism. If you are an inspiring, inclusive and future-focused academic leader with the vision, credibility and influence to shape outstanding education and student experience at scale, we would be delighted to hear from you.
The postholder will be appointed for a four-year term as Pro Vice-Chancellor, with the possibility of a further four-year term. The role will be underpinned by a Professorial appointment (depending on Professorial banding) or equivalent senior standing in an academic School within the University.
To apply, please upload a short CV (no longer than five sides of A4) and supporting statement (no more than two sides) outlining how your experience, skills and expertise align with the person specification and would equip you to make a positive contribution in the role.
Please note that formal interviews will take place on Friday 31 July 2026. Short focus groups will take place w.b. 27th July - dates/times TBC.
Salary: £77,771 - £135,297 per annum (Senior Staff salary scale)
Closing date: Sunday, 5 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Rhag Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)
Dyma gyfle uwch-arweinyddiaeth eithriadol i chwarae rôl ddiffiniol wrth lunio cenhadaeth addysgol a phrofiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
A chithau’n Rhag Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr), byddwch yn rhoi arweinyddiaeth academaidd strategol ledled y Brifysgol ym maes addysg, dysgu a phrofiad y myfyrwyr, gan hyrwyddo strategaeth Prifysgol Caerdydd, Ein Dyfodol, Gyda'n Gilydd . Byddwch yn hyrwyddo dulliau addysgol sy’n gynhwysol, yn arloesol ac yn seiliedig ar bartneriaethau, gan alluogi pob myfyriwr i ffynnu'n academaidd, yn bersonol ac yn broffesiynol, yn ogystal â sicrhau bod addysg ragorol yn ganolog i hunaniaeth y Brifysgol sy’n sefydliad dinesig a byd-eang a arweinir gan werthoedd ac sy'n ddwys o ran ei ymchwil.
Gan weithio fel aelod allweddol o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno strategaeth addysg a phrofiad y myfyrwyr ledled y Brifysgol. Byddwch yn arwain y gwaith o wella cwricwla, asesu ac arferion addysgeg, yn cryfhau partneriaethau â myfyrwyr ac yn rhoi uwch-arweinyddiaeth academaidd o ran ansawdd, safonau ac ymgysylltu rheoleiddiol. Drwy gydweithio â myfyrwyr, cydweithwyr academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol, byddwch yn sbarduno gwelliant parhaus o ran llwyddiant, lles, cynhwysiant a chyflogadwyedd myfyrwyr.
Mae'r rôl hon yn ganolog i uchelgais Prifysgol Caerdydd i fod yn arweinydd yn y sector ym maes dysgu ac addysgu ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac i'w hymrwymiad i’r effaith ddinesig, cynaliadwyedd, tegwch a dwyieithrwydd. Os ydych yn arweinydd academaidd ysbrydoledig, cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, a bod gennych y weledigaeth, yr hygrededd a'r dylanwad i lunio addysg a phrofiad myfyrwyr rhagorol ar raddfa fawr, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Penodir deiliad y swydd am dymor o bedair blynedd yn Rhag Is-ganghellor, gyda'r posibilrwydd o dymor pellach o bedair blynedd. Yn sail i’r rôl bydd penodiad Athrawol (yn ddibynnol ar fandio Athrawol) neu uwch-statws sy’n cyfateb iddo, a hynny mewn Ysgol academaidd yn y Brifysgol.
I wneud cais, uwchlwythwch CV byr (dim mwy na phum ochr A4) a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr) gan amlinellu sut mae eich profiad, eich sgiliau a’ch arbenigedd yn cyd-fynd â manyleb y person ac yn eich galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn y rôl.
Sylwch y bydd cyfweliadau ffurfiol yn digwydd ar ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026. Bydd grwpiau ffocws byr yn cael eu cynnal wythnos sy'n dechrau 27 Gorffennaf - dyddiadau/amserau i'w cadarnhau.
Cyflog: £77,771 - £135,297 y flwyddyn (Graddfa cyflog staff hyn)
Dyddiad cau: Dydd Sul, 5 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.