Facilities Technician
School of Optometry and Vision Sciences
We are excited to be inviting applications for a self-motivated and enthusiastic Technician to join our School’s Technical Team. You will play an important role in supporting our staff, assisting in day-to-day running of our eye clinics, laboratories, and communal areas of our School.
The role would suit someone who enjoys interacting with people, has some experience of maintaining equipment, is organised and comfortable with using various IT software packages. The role requires someone with a proactive can-do attitude, with problem-solving skills, along with an ability to cover a broad range of tasks in a day, and work with a flexible approach in a fast-paced environment.
About us:
The School of Optometry and Vision Sciences, based in Cathays, is a purpose-built facility; credited with being the only optometric training department in Wales and one of the largest in the UK. With an international reputation for its research and teaching activities, the School includes a number of award-winning staff and students and is ranked in 1st place in the UK for Optometry (Complete University Guide). There are just over 100 employees in our School, creating a welcoming and supportive culture with a strong sense of inclusivity and collegiality.
Cardiff University is an ambitious and innovative university with a bold and strategic vision located in a beautiful and thriving capital city.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 32 days annual leave (plus bank holidays), a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments up the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
There are some things that you must have before you can start this role (see “essential criteria” below), but other things can be developed either through training, or just by general on-the-job experience. We want to support and develop you once you have started in the role using a combination of the following to get the best out of you; Regular one-to-ones with your team leader / an experienced and supportive team around you / Supporting you through job-relevant training and development that you may require, as identified by your team leader and access to mentoring schemes.
This position is open-ended, full time on campus (35 hours per week) and is available immediately.
Salary: £25,249 - £26,093 per annum (Grade 3). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Date advert posted: Thursday, 25 June 2026
Closing date: Thursday, 9 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Technegydd Cyfleusterau
Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Rydym yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer Technegydd brwdfrydig yn llawn cymhelliant i ymuno a Thîm Technegol ein Hysgol. Byddwch yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi ein staff, yn cynorthwyo yn y gwaith o redeg ein clinig llygaid bob dydd, ein labordai, ein mannau addysgu a’n gweithgareddau ymchwil.
Byddai'r swydd yn addas ar gyfer rhywun sy'n mwynhau rhyngweithio â phobl, sydd â rhywfaint o brofiad o gynnal a chadw cyfarpar ac o redeg labordai masnachol neu ymchwil, yn drefnus ac yn gyfforddus yn defnyddio pecynnau meddalwedd TG amrywiol. Mae'r swydd yn gofyn am rywun ag agwedd ragweithiol, sydd â sgiliau datrys problemau, ynghyd â'r gallu i gyflawni amrywiaeth eang o dasgau mewn diwrnod, a gweithio gydag agwedd hyblyg mewn amgylchedd cyflym.
Amdanom ni:
Mae Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg yn y Waun Ddyfal yn gyfleuster pwrpasol, yr unig adran hyfforddiant optometreg yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae enw da rhyngwladol ar yr Ysgol am ei hymchwil a’i haddysgu, mae nifer o’i staff a’i myfyrwyr wedi ennill gwobrau ac, yn ôl y Complete University Guide, mae’n gyntaf ar restr ysgolion optometreg gorau’r Deyrnas Unedig. Mae ychydig dros 100 o weithwyr yn ein Hysgol, gan greu diwylliant croesawgar a chefnogol gydag ymdeimlad cryf o gynhwysiant a cholegoldeb.
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, mewn prifddinas hardd a ffyniannus.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd â gwyliau banc), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar y raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, a cheir nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Mae rhai pethau y mae’n rhaid i chi allu eu gwneud cyn y gallwch chi ddechrau’r swydd hon (gweler “meini prawf hanfodol” isod), ond gellir datblygu pethau eraill naill ai trwy hyfforddiant, neu drwy brofiad cyffredinol yn y swydd. Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu unwaith y byddwch wedi dechrau yn y rôl gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i gael y gorau ohonoch; Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda'ch arweinydd tîm / tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas / Eich cefnogi trwy hyfforddiant a datblygiad sy'n berthnasol i'r swydd y gallai fod eu hangen arnoch, fel y nodwyd gan eich arweinydd tîm a mynediad at gynlluniau mentora.
Swydd llawn amser (35 awr yr wythnos) a phen agored ar y campws yw hon ac mae ar gael ar unwaith.
Cyflog: £25,249 hyd at £26,093 y flwyddyn (Gradd 3). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 25 Mehefin 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.