Software Engineer
An exciting opportunity has arisen to join the School of Computer Science and Informatics. You will be joining Cardiff University, one of the UK’s leading research-led universities, as a Software Engineer for the TransCoLL project, which is funded by AHRC in collaboration with UKRI. A successful candidate will be dedicated to finding creative solutions and have a genuine curiosity and enthusiasm to support world-class research in an interdisciplinary team.
The project focuses on understanding the language learning landscape across the Celtic nations: Scotland, Wales, Northern Ireland, and the Republic of Ireland. Working with colleagues from Arts, Humanities, and Social Sciences the project involves building a virtual reality enabled digital avatar powered by AI to facilitate real-time language learning in a virtual environment. The successful candidate should have a good understanding of machine learning techniques (e.g. Prompt Engineering for Large Language Models, fine tuning) and some experience with virtual reality tools and services (e.g., Unreal Engine, Unity3D, Meta Quest 3) to facilitate semi-structured dialogue-based interaction. The successful candidate should also be familiar with collaborative software development, e.g. using Jupyter Notebooks, Version control and focus on software development within a research environment.
The successful candidate will be dedicated to finding creative, research-led solutions and have a genuine curiosity and enthusiasm to work with a research team in computer science, modern languages, and social sciences across the UK and Ireland. They will possess, or be near to completion of, a PhD in Computer Science or a related area, OR have relevant industrial experience.
Cardiff University is committed to supporting all its employees in achieving the necessary balance between their work and their personal lives. As part of this commitment, the University has developed a flexible and responsive framework of support for staff in managing their work and personal commitments wherever possible.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity. Our inclusive environment welcomes applications from talented people from diverse backgrounds. Cardiff University positively encourages applications from suitably qualified and eligible candidates regardless of sex, race, disability, age, sexual orientation, gender reassignment, religion or belief, marital status, or pregnancy and maternity. We particularly welcome applications from women who are under-represented within Cardiff University in this field.
This position is full-time (35 hours per week) for 18 months, and available from 1st May 2026.
For an informal discussion about the role please contact Dr Daniel J. Finnegan ([email protected]). For informal discussions about the School of Computer Science & Informatics please contact the School Manager, Yvonne Taylor ([email protected]).
Informal enquiries in relation to the recruitment / application process can be sent to Simon Hogg, HR Administrator – [email protected].
Salary: £41,064 per annum (Grade 6), with 4 annual increments up to £46,049 per annum at the top of the scale.
Date advert posted: Tuesday, 18 August 2026
Closing date: Friday, 4 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Peiriannydd Meddalwedd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Byddwch yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd – un o brifysgolion blaenllaw'r DU sy'n cael eu harwain gan ymchwil – yn Gydymaith Ymchwil ar y prosiect TransCoLL sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau mewn cydweithrediad ag Ymchwil ac Arloesi’r DU. Bydd ymgeisydd llwyddiannus yn ymroddedig i ddod o hyd i atebion creadigol a bydd ganddo/ganddi chwilfrydedd a brwdfrydedd gwirioneddol i gefnogi ymchwil o'r radd flaenaf mewn tîm amlddisgyblaethol.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddeall tirwedd dysgu ieithoedd ledled y gwledydd Celtaidd: Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Gan weithio gyda chydweithwyr o'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, mae'r prosiect yn cynnwys creu rhithffurf ddigidol wedi'i galluogi gan realiti rhithwir wedi'i bweru gan AI i hwyluso dysgu iaith amser real mewn amgylchedd rhithwir. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â dealltwriaeth dda o dechnegau dysgu peiriannau (e.e. Peiriannu Promtiau ar gyfer Modelau Iaith Mawr, mireinio) a rhywfaint o brofiad gydag offer a gwasanaethau realiti rhithwir (e.e., Unreal Engine, Unity3D, Meta Quest 3) i hwyluso rhyngweithio lled-strwythuredig sy'n seiliedig ar ddeialog. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd fod yn gyfarwydd ag offer datblygu meddalwedd ar y cyd (e.e. Google CoLab, llyfrau nodiadau Jupyter) a chanolbwyntio ar ddatblygu meddalwedd mewn amgylchedd ymchwil.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymroddedig i ddod o hyd i atebion creadigol sy’n seiliedig ar ymchwil a bydd ganddo/i chwilfrydedd a brwdfrydedd gwirioneddol i weithio gyda thîm ymchwil mewn ieithoedd modern, cyfrifiadureg, a’r gwyddorau cymdeithasol ledled y DU ac Iwerddon. Byddwch yn meddu ar PhD, neu ar fin ei chwblhau, mewn Cyfrifiadureg neu faes cysylltiedig, neu brofiad diwydiannol perthnasol.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi ei holl gyflogeion i sicrhau’r cydbwysedd angenrheidiol rhwng eu gwaith a’u bywyd personol. Yn rhan o'r ymrwymiad hwn, mae’r Brifysgol wedi datblygu fframwaith hyblyg ac ymatebol o weithdrefnau i helpu’r staff i reoli eu gwaith a’u hymrwymiadau personol lle bynnag y bo modd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ein hamgylchedd cynhwysol yn croesawu ceisiadau gan bobl ddawnus o gefndiroedd amrywiol. Mae Prifysgol Caerdydd yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn arbennig gan eu bod heb gynrychiolaeth ddigonol ym Mhrifysgol Caerdydd yn y maes hwn.
Mae hon yn swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) am 18 mis, a bydd ar gael o 1 Mai 2026.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Dr Daniel J. Finnegan ([email protected]). Os oes gennych ymholiadau am yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, cysylltwch â Rheolwr yr Ysgol, Yvonne Taylor ([email protected]).
Gellir anfon ymholiadau anffurfiol mewn perthynas â'r broses recriwtio/ymgeisio at Simon Hogg, Gweinyddwr AD – [email protected].
Cyflog: £41,064 y flwyddyn (Gradd 6), gyda 4 cynyddran blynyddol hyd at £46,049 y flwyddyn ar frig y raddfa
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 18 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 4 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.