Lecturer in AI or Data Science (T&S)
Applications are invited for a Teaching and Scholarship lectureship in AI or Data Science in the School of Mathematics at Cardiff University. This position is intended to support a new suite of AI and Data Science MSc programmes that will be delivered both in the UK and overseas. The successful candidate may be required to undertake duties for which they are qualified at other locations within the University or at one of its transnational partner institutions overseas. Please refer to the job description for further details.
In this role, you will:
Design and deliver modules on taught programmes, including MSc AI or Data Science modules and supervise dissertations
Conduct excellent research leading to measurable outputs including publications and funding applications
Engage effectively with industrial, commercial and public sector organisations to raise awareness of the School.
We’d like to hear from you if you:
We can offer you the chance to work in a vibrant organisation, with great benefits and opportunities for progression. We are a proud Living Wage supporter.
Please contact Jonathan Thompson ([email protected]) for an informal, confidential discussion about the role.
For information about working at Cardiff University, please contact Cath Noble, HR Officer [email protected]
This post is open-ended, full-time (35 hours per week) and available from 1st January 2027.
Salary:
£41,064 - £46,049 per annum (Grade 6) or
£51,753 - £56,535 per annum (Grade 7) depending on your qualifications and experience.
Please indicate on your covering letter if you are applying for Lecturer Grade 6 or Lecturer Grade 7.
Closing date: Wednesday, 10 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Darlithydd mewn AI neu Wyddor Data (Addysgu ac Ysgolheictod)
Gwahoddir ceisiadau am swydd darlithydd Addysgu ac Ysgolheictod mewn AI neu Wyddor Data yn yr Ysgol Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bwriad y swydd yw cefnogi cyfres newydd o raglenni MSc AI a Gwyddor Data a gaiff eu cyflwyno yn y DU a thramor. Efallai y bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â dyletswyddau y mae'n gymwys ar eu cyfer mewn lleoliadau eraill yn y Brifysgol neu yn un o'i sefydliadau partner trawswladol dramor. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am ragor o fanylion.
Yn y rôl hon, byddwch yn:
Cynllunio a chyflwyno modiwlau ar raglenni a addysgir, gan gynnwys modiwlau MSc AI neu Wyddor Data a goruchwylio traethodau hir
Ymgysylltu â gweithgarwch ysgolheigaidd drwy erthyglau mewn cyfnodolion a/neu greu allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes
Ymgysylltu'n effeithiol â sefydliadau diwydiannol, masnachol a'r sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r Ysgol.
Hoffem glywed gennych os ydych chi yn:
Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i ddatblygu yn eich gyrfa. Rydym yn falch i gefnogi’r Cyflog Byw.
Cysylltwch â Jonathan Thompson ([email protected]) i gael trafodaeth anffurfiol a chyfrinachol am y rôl.
I gael gwybodaeth am weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â Cath Noble, Swyddog Adnoddau Dynol [email protected]
Mae hon yn swydd benagored, lawn amser (35 awr per wythnos).
Cyflog:
£41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6) neu
£51,753 - £56,535 y flwyddyn (Gradd 7) ein graddfeydd cyflog yn dibynnu ar eich cymwysterau a'ch profiad.
Nodwch yn eich llythyr eglurhaol p'un a ydych chi'n gwneud cais am Ddarlithydd Gradd 6 neu Ddarlithydd Gradd 7.
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 10 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.