Research Assistant
UK Dementia Research Institute at Cardiff University
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
Applications are invited for Research and Innovation Research Assistant position in Neuroinflammation/ Complement Biology in the UK DRI at Cardiff University School of Medicine based on the Heath Park campus.
The new appointee will join a new research programme supported by a UKRI Future Leaders Fellowship awarded to Dr. Wioleta Zelek that explores the role of neuroinflammation in Alzheimer’s disease and other dementias. The work focuses on the roles of the complement system, a known driver of neuroinflammation and neurodegeneration, and the development and testing of novel brain-penetrant complement-blocking drugs in vitro and in vivo for their ability to access the brain, inhibit the complement system and impact disease pathology and disease progression. The ultimate aim of the work is to develop brain-penetrant therapeutic strategies to modulate complement dysregulation in AD that are applicable to human trials.
Candidates with experience in immunology, neuroimmunology and/or dementia models and drugs testing or equivalent experience are encouraged to apply.
Informal enquiries should be made to Dr Wiola Zelek (
[email protected]).
Division: http://medicine.cf.ac.uk/infect-immun/
UK DRI Cardiff: https://ukdri.ac.uk/centres/cardiff
This post is full time (35 hours per week), fixed term position and is available from 1st September 2026 for 2.5 years.
Salary: £33,951 - £36,636 per annum (Grade 5). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave, (including bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Closing date: Monday, 15 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cynorthwyydd Ymchwil
Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Gwahoddir ceisiadau am swydd Cynorthwyydd Ymchwil ym maes Ymchwil ac Arloesi mewn Niwro-lid/Bioleg Ategol i weithio yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gampws Parc y Mynydd Bychan.
Bydd deiliad y swydd hon yn ymuno â rhaglen ymchwil newydd sy’n ystyried sut mae niwro-lid yn achosi neu’n gwaethygu clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia. Mae’r rhaglen hon yn cael ei chefnogi gan Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol a ddyfarnwyd i Dr Wioleta Zelek gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI). Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar rôl y system ategol, sy’n ysgogi niwro-lid a niwroddirywiad, a dulliau o ddatblygu cyffuriau newydd sy’n atal y system ategol yn yr ymennydd. Mae’r rhain yn cael eu profi in vitro ac in vivo i werthuso eu gallu i atal y system ategol, eu treiddiad i’r ymennydd a’u heffaith ar batholeg clefydau a chynnydd clefydau. Nod y gwaith yn y pen draw yw datblygu strategaethau therapiwtig sy'n treiddio i'r ymennydd i fynd i’r afael â dadreoleiddiad y system ategol yng nghyd-destun clefyd Alzheimer ac sydd hefyd yn addas i fod yn destun treialon dynol.
Dyma annog ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio ym meysydd imiwnoleg a niwroimiwnoleg a/neu fodelu dementia a phrofi cyffuriau neu brofiad cyfatebol i wneud cais.
I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â Dr Wioleta Zelek (
[email protected]).
Is-adran: https://www.cardiff.ac.uk/cy/medicine
Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, Caerdydd: https://ukdri.ac.uk/centres/cardiff
Mae hon yn swydd amser llawn (35 awr yr wythnos), am gyfnod penodol o 2.5 mlynedd, ac mae ar gael o 1 Medi 2026.
Cyflog: £33,951 hyd at £36,636 y flwyddyn (Gradd 5). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 15 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.