The Welsh Rugby Union Group (WRU) is proud to offer a fantastic opportunity for young people to join our Rugby Development Apprenticeship Programme.
We are looking for dynamic young people who demonstrate a ‘can do’ attitude, willingness to try new things and display our values in all that they do.
The WRU Rugby Development Apprenticeship Programme provides young people with recognised qualifications, new skills, knowledge and a wealth of experience working as a Rugby Development Apprentice.
During the 12-month programme, you will work towards a Level 4 Foundation in Sport Management and Development supported by Cardiff Metropolitan University and will also be required to complete a range of rugby related technical qualifications. You will be mentored by WRU development staff and receive pastoral assistance from the WRU Apprenticeship Officer.
This Apprenticeship serves as a valuable opportunity for those uncertain about attending university. It provides time to explore different course options based on the apprentice's experiences during the programme. Over 12 months you’ll gain employment experience and can investigate various career pathways using the extensive network offered by the WRU Group. Additionally, it allows individuals to immerse themselves in the field of sport management & development whilst earning a Level 4 Foundation qualification. Upon successful completion of the apprenticeship, you will receive an unconditional offer to study at Cardiff Metropolitan University.
This programme is not intended for graduates.
Do you:
Have a passion for sport and want to inspire others to take part in sport?
Feel you have not yet reached your full potential?
Have the motivation to self-develop and be part of our team?
Are you:
18 years old on or before the 1st January 2027?
Enthusiastic about working with young people and becoming a positive role model in your community?
Dynamic and keen to show initiative and leadership?
Able to commit to the one-year programme?
If so, then this could be the right opportunity for you.
We are looking for individuals to join this programme who have an interest in encouraging others in their communities to engage in sport.
Selection Days: 9th September & 10th September 2026 at Cardiff Metropolitan University, Cyncoed Road, Cardiff, CF23 6XD (both days are mandatory)
Salary: £12,515 per annum
Closing Date: 28th August 2026
Location: The National Centre of Excellence, Principality Stadium, throughout Wales to include the Scarlets, Cardiff, Dragons, RGC & Ospreys regions.
Hours of work: 30 per week. You will be requirement to work flexibly, evenings and weekends as necessary, Monday to Sunday.
Responsible to: Rugby Development Apprenticeship Manager
Contractual Status: Fixed term, 12-month apprenticeship contract
Subject to 5 month probationary period
Start Date: The apprenticeship will start with an Induction Day on 17th September 2026 at the Principality Stadium.
The Person
18 years old on/or before 1st January 2027
Not in further education
Demonstrate an enthusiasm for working in the Community game at all levels.
Applicants do not require any formal qualifications, although GCSE Maths & English (A - C Grade) or equivalent is desirable.
Demonstrate a knowledge and experience of volunteering in the community.
The Role
Key Responsibilities, Tasks and Activities:
Support regional community programmes and department
Support National Community programmes and National performance events
Support Commercial activities
Study Level 4 Foundation in Sport Management and Development
Undertake essential skills assessment
Carry out duties in support of the WRU Group Strategic Mission, Purpose and Values
Key Relationships:
WRU Rugby Development Apprenticeship Officer
Community Director and Community Heads of Departments
Community Rugby Engagement Lead Officers
Stadium Operations Team
Welsh Rugby Union Commercial and Marketing Department
Sport Development Departments
Cardiff Metropolitan University
For more information, please contact [email protected] or [email protected]
Privileges and Benefits
As a member of the WRU Group, you will have access to our full range of employee benefits, including:
Salary Sacrifice Pension (5% employee contribution, matched by WRU)
Life assurance scheme
WRU Group Ticket Allocation (in line with ticketing policy)
One additional paid day off (birthday leave)
Employee assistance programme
Team Tactics – hybrid working arrangements
Free stadium parking and gym
WRU Group store and tour discounts
WRU Group partnership offers
Eye Care Voucher Scheme
Cycle to Work Scheme
Our Values
The WRU Group are committed to developing a culture whereby all employees are equally valued and respected. Our aims, together with our vision and mission, are underpinned by our core values and beliefs which embrace: Integrity, Excellence, Success, Courage, Family & Humour.
Inclusion At The WRU
The WRU Group are committed to building diverse, high-performing and engaged teams across Welsh Rugby. We are ambitious about providing a people first culture where everyone can belong, be heard and respected. We are happy to talk to you about our Crys I Bawb EDI Strategy (2024-2029) and you can also read more about our commitment in our Equality, Diversity and Inclusion Policy.
Diversity monitoring
We know that we deliver better services when our workforce reflects the full range of backgrounds and experiences in the society we serve.
To continue to do this we need your help in filling out a short monitoring form.
None of the information you provide will be visible as part of your application. It will only be used anonymously to monitor the inclusivity of our selection processes.
You can select 'prefer not to say’ if you would rather not answer any question.
Mae Grŵp Undeb Rygbi Cymru (URC) yn falch o gynnig cyfle gwych i bobl ifanc ymuno â'n Rhaglen Brentisiaeth Datblygu Rygbi.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc ddeinamig sy'n dangos agwedd 'gallaf wneud', parodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd ac arddangos ein gwerthoedd ym mhopeth a wnânt.
Mae Rhaglen Brentisiaeth Datblygu Rygbi URC yn darparu cymwysterau cydnabyddedig, sgiliau newydd, gwybodaeth a chyfoeth o brofiad yn gweithio fel Prentis Datblygu Rygbi i bobl ifanc.
Yn ystod y rhaglen 12 mis, byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster Sylfaen Lefel 4 mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon, gyda chefnogaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a bydd hefyd yn ofynnol i chi gwblhau amrywiaeth o gymwysterau technegol sy'n ymwneud â rygbi. Byddwch yn cael eich mentora gan staff datblygu URC ac yn derbyn cymorth bugeiliol gan Swyddog Prentisiaethau URC.
Mae'r Brentisiaeth hon yn gyfle gwerthfawr i'r rhai sy'n ansicr ynghylch mynd i'r brifysgol. Mae'n rhoi amser i archwilio gwahanol opsiynau cwrs yn seiliedig ar brofiadau'r prentis yn ystod y rhaglen. Dros gyfnod o 12 mis, byddwch yn ennill profiad gwaith ac yn gallu archwilio llwybrau gyrfa amrywiol gan ddefnyddio'r rhwydwaith helaeth a gynigir gan Grŵp URC. Yn ogystal, mae'n galluogi unigolion i ymgolli ym maes rheoli a datblygu chwaraeon tra'n ennill cymhwyster Sylfaen Lefel 4. Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn cynnig diamod i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Nid yw'r rhaglen hon wedi'i bwriadu ar gyfer graddedigion.
Ydych chi'n:
Angerddol dros chwaraeon ac eisiau ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon?
Teimlo nad ydych chi wedi cyrraedd eich llawn botensial eto?
Llawn cymhelliant i hunan-ddatblygu a bod yn rhan o'n tîm?
Ydych chi'n:
18 mlwydd oed ar neu cyn 1 Ionawr 2027?
Brwdfrydig am weithio gyda phobl ifanc a dod yn fodel rôl cadarnhaol yn eich cymuned?
Deinamig ac yn awyddus i ddangos menter ac arweinyddiaeth?
Gallu ymrwymo i'r rhaglen un flwyddyn?
Os felly, gallai hwn fod yn gyfle gwych i chi.
Rydym yn chwilio am unigolion i ymuno â'r rhaglen sydd â diddordeb mewn annog eraill yn eu cymunedau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Dyddiau Dewis: 9 Medi a 10 Medi 2026 ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Ffordd Cyncoed, Caerdydd, CF23 6XD (mae'n orfodol mynychu'r ddau ddiwrnod)
Cyflog: £12,515 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 28 Awst 2026
Lleoliad: Y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol, Stadiwm Principality, trwy Gymru i gynnwys rhanbarthau Y Scarlets, Caerdydd, Y Dreigiau, RGC a'r Gweilch.
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos. Bydd angen i chi weithio'n hyblyg, gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ôl yr angen, o ddydd Llun i ddydd Sul.
Yn atebol i: Rheolwr Prentisiaeth Datblygu Rygbi
Statws Cytundebol: Cytundeb prentisiaeth tymor penodol o 12 mis
Yn amodol ar gyfnod prawf o 5 mis
Dyddiad Dechrau: Bydd y brentisiaeth yn dechrau gyda Diwrnod Cynefino ar 17 Medi 2026 yn Stadiwm Principality.
Y PERSON
18 mlwydd oed ar neu cyn 1 Ionawr 2027
Ddim mewn addysg bellach
Dangos brwdfrydedd dros weithio yn y gêm gymunedol ar bob lefel.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar ymgeiswyr, er bod TGAU Mathemateg a Saesneg (Graddau A-C) neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol.
Arddangos gwybodaeth a phrofiad o wirfoddoli yn y gymuned.
Y RÔL
Cyfrifoldebau, Tasgau a Gweithgareddau Allweddol:
Cefnogi rhaglenni cymunedol rhanbarthol a'r adran
Cefnogi rhaglenni Cymunedol Cenedlaethol a digwyddiadau perfformiad cenedlaethol
Cefnogi gweithgareddau masnachol
Astudio Sylfaen Lefel 4 mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon
Ymgymryd ag asesiad sgiliau hanfodol
Cyflawni dyletswyddau i gefnogi Cenhadaeth, Diben a Gwerthoedd Strategol Grŵp URC
Perthnasau Allweddol:
Swyddog Prentisiaeth Datblygu Rygbi URC
Cyfarwyddwr Cymunedol a Phenaethiaid Adrannau Cymunedol
Prif Swyddogion Ymgysylltu â Rygbi Cymunedol
Tîm Gweithrediadau Stadiwm
Adran Fasnachol a Marchnata Undeb Rygbi Cymru
Adrannau Datblygu Chwaraeon
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected] neu [email protected]
GOFYNION URC
Mae URC yn mynnu bod gan unigolion sgiliau TG, yn benodol pecynnau Microsoft. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i feithrin perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a Thrwydded Yrru Ddilys y DU yn ddymunol. Mae'r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS sylfaenol/manwl.
Breintiau a Buddion
Fel aelod parhaol o Grŵp URC, bydd gennych fynediad at ein hystod lawn o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:
Pensiwn Aberth Cyflog (cyfraniad cyflogai o 5%,cyfraniad cyfatebol gan URC)
Cynllun yswiriant bywyd
Dyraniad Tocyn Grŵp URC (yn unol â Pholisi Tocynnau)
Un diwrnod ychwanegol o wyliau tâl (gwyliau pen-blwydd)
Rhaglen cymorth i weithwyr
Tactegau Tîm – trefniadau gweithio hybrid
Parcio stadiwm a champfa am
Gostyngiadau siop a theithiau Grŵp URC
Cynigion partneriaeth Grŵp URC
Cynllun Talebau Gofal Llygaid
Cynllun Beicio i'r Gwaith
Gostyngiadau Gwestai'r Celtic Collection
Ein Gwerthoedd
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant lle mae pob gweithiwr yn cael ei werthfawrogi a'i barchu'n gyfartal. Mae ein nodau, ynghyd â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth, wedi’u tanategu gan ein gwerthoedd a’n credoau craidd sy’n croesawu: Uniondeb, Rhagoriaeth, Llwyddiant, Dewrder, Teulu a Hiwmor.
Cynhwysiant yn URC
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddarparu Jyrsi i Bawb. Mae hyn yn cynnwys y bobl sy'n gweithio i ni a gyda ni. Rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â darparu diwylliant sy'n rhoi pobl yn gyntaf, lle gall pawb fod yn perthyn a chael eu clywed a’u parchu. Rydym yn hapus i siarad â chi am ein Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2023-2028) a gallwch hefyd ddarllen rhagor am ein hymrwymiad yn ein Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Monitro amrywiaeth
Gwyddom ein bod yn darparu gwasanaethau gwell pan fo ein gweithlu’n adlewyrchu’r ystod lawn o gefndiroedd a phrofiadau yn y gymdeithas a wasanaethwn. Er mwyn parhau i wneud hyn mae angen eich help arnom i lenwi ffurflen fonitro fer. Ni fydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu yn weladwy fel rhan o'ch cais. Dim ond i fonitro cynwysoldeb ein prosesau dethol yn ddienw y caiff ei defnyddio. Gallwch ddewis ‘gwell gennyf beidio â dweud’ os byddai’n well gennych beidio ag ateb unrhyw gwestiwn.