Technician
We are excited to invite applications for a motivated and enthusiastic Laboratory Technician to join our Research Technical Team within the School of Earth and Environmental Sciences.
You will play an important role in supporting staff and students using our Cardiff Environmental Laboratory for Trace Element and Isotope Chemistry (CELTIC) Facility. Working closely with the CELTIC lab manager, you will help maintain stock levels, operate our acid distillation and flux fusion systems, and undertake the servicing, repair and general upkeep of equipment. You will deliver guidance and training to staff and students on their appropriate use using established guidelines.
You will also carry out safety inspections, PAT testing and assist with manual handling and Legionella control across the School.
This role would suit an individual who enjoys working with people and taking a hands-on approach to problem solving. You will be well organised, comfortable using a range of IT systems, and capable of managing a varied workload in a dynamic, fast-paced environment. A flexible and proactive approach is essential.
While some requirements are essential for this role (see “essential criteria” below), we are committed to supporting your development once in post. This includes regular one-to-one support, access to an experienced and supportive team, and opportunities for job-relevant training and professional development, including mentoring schemes.
Cardiff University is an ambitious and innovative university with a bold and strategic vision located in a beautiful and thriving capital city.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 32 days annual leave (plus bank holidays), a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments up the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
This position is fixed term for 12 months, full time on campus (35 hours per week) and is available immediately.
Salary: £25,249 - £26,093 per annum (Grade 3). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
For further details about the post, please contact Lindsey Owen, School Technical Manager, email: [email protected].
For more information about working at the School of Earth & Environmental Sciences, please contact Dr. John Evans, School Manager, email: [email protected].
Date advert posted: Friday, 3 July 2026
Closing date: Wednesday, 29 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Technegydd
Rydym yn awyddus iawn i benodi Technegydd Labordy brwdfrydig sy’n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig i ymuno â’n Tîm Technegol Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd.
Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi staff a myfyrwyr sy’n defnyddio Cyfleuster Labordy Amgylcheddol Caerdydd ar gyfer Elfennau Hybrin a Chemeg Isotopau (CELTIC). Gan weithio’n agos gyda rheolwr labordy CELTIC, byddwch yn helpu i gynnal lefelau stoc, yn defnyddio ein systemau distyllu asid ac asio fflwcs ac yn gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw offer. Byddwch yn rhoi arweiniad a hyfforddiant i staff a myfyrwyr ar y ffordd gywir o’u defnyddio gan ddefnyddio canllawiau sefydledig.
Byddwch hefyd yn cynnal archwiliadau diogelwch a phrofion dyfeisiau cludadwy ac yn cynorthwyo gyda chodi a chario a rheoli Legionella ledled yr ysgol.
Byddai’r rôl hon yn addas i unigolyn sy’n mwynhau gweithio gyda phobl a defnyddio dulliau ymarferol o ddatrys problemau. Byddwch yn drefnus iawn, yn gyfforddus wrth ddefnyddio amrywiaeth o systemau TG ac yn gallu rheoli llwyth gwaith amrywiol mewn amgylchedd deinamig a chyflym. Mae dull hyblyg a rhagweithiol yn hanfodol.
Er bod rhai gofynion yn hanfodol ar gyfer y rôl hon (gweler “meini prawf hanfodol” isod), rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad ar ôl dechrau yn y swydd. Mae hyn yn cynnwys cymorth un-i-un rheolaidd, mynediad at dîm profiadol a chefnogol, a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’r swydd, gan gynnwys cynlluniau mentora.
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, mewn prifddinas hardd a ffyniannus.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd â gwyliau banc), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar y raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol o 12 mis ar y campws yw hon ac mae ar gael ar unwaith.
Cyflog: £25,249 – £26,093 y flwyddyn (Gradd 3). Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Am ragor o fanylion am y swydd, cysylltwch â Lindsey Owen, Rheolwr Technegol yr Ysgol, drwy e-bostio [email protected].
Am ragor o wybodaeth am weithio yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd cysylltwch â Dr. John Evans, Rheolwr yr Ysgol, e-bost: [email protected].
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 3 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.