Proud to serve. Proud to keep justice going.
Our Team Leaders play a critical role in helping deliver justice, this role will enable you to demonstrate and develop your leadership skills. You are responsible for making sure your team deliver excellent administrative support and customer service to service users, judiciary and management.
About us
HM Courts & Tribunals Service (HMCTS) is responsible for the administration of criminal, civil and family Courts and Tribunals in England and Wales. Our roles support our service users and colleagues within HMCTS, w people and businesses access potentially life-changing justice. We’re looking for individuals who are committed to public service and making a difference in people’s lives to deliver justice. If you are interested in developing a career with a real purpose, please apply.
Your role
Leading your team, you’ll focus on the team’s area of work, making sure that work is prioritised and organised and your team fully skilled to meet objectives. As an effective Team Leader, you recognise the importance of the team’s overall wellbeing and can motivate your team to succeed.
You will contribute to the delivery of operational, performance and service standard targets and provide statistical data for the management team and judiciary. Your keen eye for detail and desire for continuous improvement is key to your success. Monitoring and analysing performance areas and trends, conducting ongoing reviews of procedures and work practices is essential, as is your ability to successfully recommend improvements, navigate change and manage the implementation of new initiatives and legislation.
This is a challenging and rewarding role, key to the smooth running of operational functions throughout HMCTS. We’re committed to helping you develop your leadership skills, through our HMCTS leadership offer. This provides a wide range of activities from development programmes to accessible bite-size guides to help build your ability and confidence to lead, guide and inspire others
Your skills and experience
- Ability to motivate and support your team to deliver excellent customer service and achieve effective performance.
- Experience of working in an administrative role in a customer-focussed environment
- IT proficient with the ability to learn and adapt to different technologies and software packages.
- Excellent communication, organisational and prioritisation skills
Further details:
These operational roles are customer facing, requiring successful applicants to be office based to provide HMCTS services to the public. Standard full time working hours are 37 hours per week. HMCTS welcomes part-time, flexible and job-sharing working patterns, w they meet the demands of the role and business needs and are agreed prior to appointment. All applications for part-time, flexible and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the MoJ’s Flexible Working policy.
New recruits to the Civil Service joining MoJ are expected to join at the band minimum
Lead Criterion: Statement of Suitability. A sift based on the statement of suitability may be held if a large number of applications are received.
Skilled Worker Visa - This role is not eligible for new Skilled Worker visas in accordance with the current immigration rules.
From 22 July 2025, the Government increased the salary threshold and skills level for Skilled Worker visas. This role does not meet the eligibility criteria for sponsorship in accordance with the current immigration rules if you looking to apply for a Skilled Worker Visa for the first time.
The Department cannot consider sponsoring you for this role unless you have held a Skilled Worker visa continuously since before 22 July 2025. If you have held a Skilled Worker visa continuously, please raise this during your vetting checks and eligibility will be assessed in accordance with the immigration rules and transitional provisions in place.
If you are applying for this role and you do not meet the new eligibility criteria for sponsorship (or the transitional provisions), you will need to consider your options for obtaining and/or maintaining your right to work in the UK in light of these changes. Successful applicants must ensure they have and maintain the legal right to live and work in the Civil Service and in the United Kingdom.
The Department will continue to comply with UK Immigration Rules applied in the UK and Civil Service. You can read more about Skilled Worker visas and the eligibility criteria .
Applications for part-time working would be considered however due to the nature of the role the minimum hours would be 30 per week over 5 days.
This is a court‑based role covering both office and courtroom environments; tfore, hybrid working will not be considered.
The successful candidate will undergo - Fire and Incident Control Officer training (FICO) and on occasion be Senior Person on Site (SPOS)
Base location - Prestatyn Justice Centre, Victoria Road, Prestatyn, LL19 7TE
For a full job description, please see the supporting document in the advert below before applying.
Version in Welsh
Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.
Mae ein Harweinwyr Tîm yn chwarae rôl hollbwysig i helpu i weinyddu cyfiawnder. Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddangos a datblygu eich sgiliau arweinyddiaeth. Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod eich tîm yn darparu cymorth gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ddefnyddwyr gwasanaeth, y farnwriaeth a rheolwyr.
Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu'r llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cyrchu cyfiawnder a allai newid bywydau. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.
Eich rôl
Gan arwain eich tîm, byddwch yn canolbwyntio ar maes gwaith y tîm, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei flaenoriaethu a’i drefnu a bod eich tîm yn meddu ar yr holl sgiliau sydd eu hangen i gyflawni amcanion. Fel Arweinydd Tîm effeithiol, rydych yn cydnabod pwysigrwydd lles cyffredinol y tîm ac yn gallu cymell eich tîm i lwyddo.
Byddwch yn cyfrannu i gyflawni targedau gweithredol, perfformiadol a safon gwasanaethau a darparu data ystadegol i’r tîm rheoli a’r farnwriaeth. Bydd eich gallu i dalu sylw i fanylion a’ch awydd i wella’n barhaus yn allweddol i’ch llwyddiant. Gan fonitro a gwerthuso meysydd a thueddiadau perfformiad, bydd cynnal arolygon parhaus o weithdrefnau ac arferion gwaith yn hanfodol. Bydd eich gallu i argymell gwelliannau yn llwyddiannus, llywio’r tîm drwy newid a rheoli’r broses o roi mentrau a deddfwriaeth newydd ar waith hefyd yn hollbwysig.
Rôl heriol sy’n rhoi llawer o foddhad yw hon, sy’n allweddol i weithrediad swyddogaethau gweithredol ledled GLlTEF. Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth, trwy ein cynnig arweinyddiaeth GLlTEF. Mae’n darparu amrywiaeth eang o weithgareddau - o raglenni datblygu i ganllawiau hygyrch a chryno i’ch helpu i ddatblygu eich gallu a’ch hyder i arwain, tywys ac ysbrydoli eraill.
Eich sgiliau a phrofiadau
- Gallu ysgogi a chefnogi eich tîm i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog a chyflawni perfformiad effeithiol.
- Profiad o weithio mewn rôl weinyddol mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid
- Sgiliau TG, gyda’r gallu i ddysgu ac addasu i dechnolegau a phecynnau meddalwedd gwahanol.
- Sgiliau cyfathrebu, trefnu a blaenoriaethu ardderchog.
Rhagor o fanylion:
Mae’r swyddi gweithredol hyn yn wynebu cwsmeriaid, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i'r cyhoedd. Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser, gweithio’n hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, gweithio’n hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i'r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog
Prif faen prawf: Rhaid ychwanegu hyn at yr hysbyseb swydd: Prif faen prawf: Datganiad o Addasrwydd. Gellir cynnal sifft yn seiliedig ar y datganiad o addasrwydd os derbynnir nifer fawr o geisiadau.
Medrus - Nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer fisas Gweithiwr Medrus newydd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol.
O 22 Gorffennaf 2025, cynyddodd y Llywodraeth y trothwy cyflog a’r lefel sgiliau ar gyfer fisâu Gweithwyr Medrus. Nid yw'r rôl hon yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer nawdd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol os ydych chi'n edrych i wneud cais am fisa gweithiwr medrus am y tro cyntaf.
Ni all yr Adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon oni bai eich bod wedi meddu ar fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus ers cyn 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi meddu ar fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn ystod eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â’r rheolau mewnfudo a’r darpariaethau trosiannol sydd ar waith.
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd (neu’r darpariaethau pontio), bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU sydd ar waith yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a’r meini prawf cymhwyster yma.
Byddai ceisiadau ar gyfer gweithio’n rhan-amser yn cael eu hystyried, fodd bynnag, oherwydd natur y rôl, yr isafswm oriau fyddai 30 yr wythnos dros 5 diwrnod.
Mae hon yn rôl wedi’i lleoli yn y llys, sy’n cwmpasu amgylcheddau swyddfa ac ystafell llys; felly, ni fydd gweithio hybrid yn cael ei ystyried.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mynd drwy hyfforddiant Swyddog Rheoli Tân a Digwyddiadau (FICO) ac, ar adegau, yn gweithredu fel Uwch Berson ar y Safle (SPOS).
Lleoliad sylfaenol – Canolfan Cyfiawnder Prestatyn, Ffordd Victoria, Prestatyn, LL19 7TE
Am swydd ddisgrifiad llawn, gweler y ddogfen ategol yn yr hysbyseb isod cyn gwneud cais.