Professor of Nursing and Royal College of Nursing Chair for Nursing Research
School of Healthcare Sciences
We are seeking applicants with a strong research portfolio in any area of Nursing. Candidates who demonstrate innovative thinking and the potential to collaborate across Cardiff University’s strategic research priority areas, and with the Royal College of Nursing (RCN), are especially encouraged to apply.
Cardiff University is an ambitious and innovative university with a bold and strategic vision and is located in the beautiful and thriving capital city of Wales. For research Cardiff University ranks 11th in the UK for research impact with 90% of its research classified as world leading or internationally excellent. Amongst UK universities, its graduates are among the most sought-after by employers.
Cardiff University comprises three Colleges and the School of Healthcare Sciences is part of the College of Biomedical and Life sciences. The College forms an ideal environment for health and biological research with six thematic research strengths covering Cancer; Development & Regenerative Biology; Infection, Inflammation & Immunity; Mechanisms of Living Systems; Mind, Brain & Neuroscience and Population Health. We have a strong collaborative ethos across schools within the College and across the whole University. Key strategic enablers within the College are the Centre for Trial Research, which is a UKCRC Registered CTU which undertakes evaluations across health and social care, CUBRIC which is a world leading scanning brain scanning facility and the Medicines Discovery Institute which develops new medications through to market and has a unique industry mentoring scheme for researchers. We also host external funded centres including the Dementia Research Institute, the Wolfson Centre for Child & Adolescent Mental Health and Welsh Government funded Centres for Women’s Health, Kidney Disease and Primary & Emergency Care.
The School of Healthcare Sciences is based on the Heath campus alongside the Schools of Medicine and Dentistry and shares the site with the University Hospital of Wales, bringing together education, research and clinical teams. The School delivers pre-registration programmes for adult, child and mental health Nursing, Midwifery, Physiotherapy, Occupational Therapy, Diagnostic Radiography and Imaging and Radiotherapy and Oncology. It has multidisciplinary postgraduate taught and research programmes. Our portfolio of applied health and social care research has direct impact on outcomes, service delivery and innovation across all care settings, with specific strengths are in mental health, cancer and rehabilitation and physical activity. We have a research and teaching space that is equipped with facilities for movement analysis and exercise testing. The School promotes health and wellbeing through world-class education, research and engagement - preparing compassionate innovative professionals who make a difference across the UK and worldwide. The RCN is the professional body for nursing and the voice of nursing across the UK. It aims to promote the art and science of nursing and the profession.
The first year of this role will be funded by the RCN endowment fund. Thereafter the post will be funded through a 60/40 split between Cardiff University and the RCN. Funding is available for the role holder to appoint a nurse PhD studentship (salary replacement).
Informal enquiries are welcome and can be directed, in the first instance, to the Head of School, Professor Kate Button (
[email protected]). For HR queries, please contact
[email protected] mailto:.
This position is full-time, open-ended and is available immediately.
Salary: Band 1, point 2 on the professorial salary scale (starting at £77,711 per annum), commensurate with experience.
Date advert posted: Wednesday, 1 July 2026
Closing date: Wednesday, 22 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Athro Nyrsio a Chadair y Coleg Nyrsio Brenhinol ar gyfer Ymchwil Nyrsio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phortffolio cadarn o ymchwil mewn unrhyw faes Nyrsio. Mae ymgeiswyr sy'n arddangos meddwl arloesol a'r potensial i gydweithio ar draws meysydd blaenoriaeth ymchwil strategol Prifysgol Caerdydd, a chyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN), yn cael eu hannog yn arbennig i wneud cais.
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, sydd wedi’i lleoli ym mhrifddinas hardd a ffyniannus Cymru. O ran ymchwil, mae Prifysgol Caerdydd yn 11eg yn y DU o ran effaith ymchwil, gyda 90% o'i hymchwil yn cael ei hystyried gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. O blith prifysgolion y DU, mae ei graddedigion ymhlith y mwyaf poblogaidd ymysg cyflogwyr.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnwys tri Choleg ac mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn rhan o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Mae’r Coleg yn creu lle delfrydol ar gyfer ymchwil iechyd a biolegol ar sail chwe chryfder ymchwil thematig sy’n ymdrin â Chanser; Bioleg Datblygu ac Adfywiol; Haint, Llid ac Imiwnedd; Mecanweithiau Systemau Byw; Meddwl, Ymennydd a Niwrowyddoniaeth, ac Iechyd y Boblogaeth. Mae gennym ethos cydweithredol cryf ar draws ysgolion o fewn y Coleg ac ar draws y Brifysgol gyfan. Ymhlith y galluogwyr strategol allweddol o fewn y Coleg y mae'r Ganolfan Treialon Ymchwil, sef uned treialon clinigol cofrestredig gyda UKCRC, sy'n cynnal gwerthusiadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, CUBRIC, sy'n gyfleuster sganio’r ymennydd ymhlith y gorau yn y byd, a'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, sy'n datblygu meddyginiaethau newydd hyd at y farchnad ac sydd â chynllun mentora unigryw yn y diwydiant ar gyfer ymchwilwyr. Rydym hefyd yn cynnal canolfannau a ariennir yn allanol, gan gynnwys y Sefydliad Ymchwil Dementia, Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, a Chanolfannau Iechyd Menywod, Clefyd yr Arennau, a Gofal Sylfaenol ac Argyfwng a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi’i lleoli ar gampws y Mynydd Bychan ochr yn ochr â’r Ysgolion Meddygaeth a Deintyddiaeth ac mae’n rhannu’r safle gydag Ysbyty Athrofaol Cymru, gan ddwyn timau addysg, ymchwil a chlinigol ynghyd. Mae’r Ysgol yn cynnig rhaglenni cyn-gofrestru ar gyfer Nyrsio Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl, Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg a Delweddu Diagnostig, a Radiotherapi ac Oncoleg. Mae ganddi raglenni ymchwil ôl-raddedig a rhaglenni ôl-raddedig a addysgir amlddisgyblaethol. Mae ein portffolio o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gymhwysol yn cael effaith uniongyrchol ar ddeilliannau, darpariaeth gwasanaethau ac arloesedd ar draws pob lleoliad gofal, gyda chryfderau penodol ym meysydd iechyd meddwl, canser, ac adsefydlu a gweithgarwch corfforol. Mae gennym ofod ymchwil ac addysgu sydd â chyfleusterau ar gyfer dadansoddi symudiadau a phrofi ymarfer corff. Mae'r Ysgol yn hyrwyddo iechyd a lles drwy addysg, ymchwil ac ymgysylltu o'r radd flaenaf – gan baratoi gweithwyr proffesiynol arloesol tosturiol sy'n gwneud gwahaniaeth ledled y DU a ledled y byd. Yr RCN yw'r corff proffesiynol ar gyfer nyrsio a llais nyrsio ledled y DU. Ei nod yw hyrwyddo celfyddyd a gwyddor nyrsio a'r proffesiwn.
Bydd blwyddyn gyntaf y rôl hon yn cael ei hariannu gan gronfa waddol y Coleg Nyrsio Brenhinol. Wedi hynny, bydd y swydd yn cael ei hariannu drwy raniad 60/40 rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Mae cyllid ar gael i ddeiliad y rôl benodi efrydiaeth PhD nyrs (yn lle cyflog).
Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio, yn y lle cyntaf, at Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Kate Button (
[email protected]). Ar gyfer ymholiadau Adnoddau Dynol, cysylltwch â
[email protected].
Swydd amser llawn a phenagored yw hon, ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: Band 1, pwynt 2 ar y raddfa gyflog athrawol (yn dechrau ar £77,711 y flwyddyn), yn unol â phrofiad.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 22 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 26 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd