Psychology Assistant
Division of Psychological Medicine and Clinical Neuroscience
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
This is an exciting opportunity to take on a new role as a Psychology Assistant on the Brain and Genomics Hub, a high-profile national project funded by the Medical Research Council in schizophrenia, bipolar disorder and schizoaffective disorder. The Brain and Genomics Hub is part of a new national initiative for research in severe mental illness and is a large multi-site research study led by Cardiff University in conjunction with Swansea University, Bristol University, Exeter University, Adferiad Recovery and Bipolar UK. The successful candidate will assist in a range of study-related tasks including recruitment and conducting assessments of people diagnosed with schizophrenia, bipolar disorder and schizoaffective disorder including clinical interviews, cognitive assessments, acquisition of MRI and MEG brain imaging data, and general day to day activities associated with a large multidisciplinary study.
Candidates should have a degree in Psychology or a related field and experience of recruiting patients to research studies would be advantageous. The successful applicants will join the world-leading Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics and the Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences in Cardiff University.
This post is based at the Hadyn Ellis Building, Cathays campus.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
How we will support you in performing in this role –
There are some things that you must have before you can start this role (see ‘Essential Criteria’), but other things can be developed either through training, or just by general on-the-job experience. We want to support and develop you once you have started in the role using a combination of the following to get the best out of you:
1. Regular one-to-ones with your manager
2. An experienced and supportive team around you
3. Supporting you through job-relevant training and development that you may require
4. A mentoring scheme
For informal enquiries please contact Dr Sophie Legge by emailing
[email protected]
This post is full-time (35 hours per week), available from 1st June 2026 and fixed term until 30th September 2027.
Salary: £28,031 - £31,236 per annum (Grade 4). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Closing date: Monday, 15 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cynorthwyydd Seicoleg
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Dyma gyfle cyffrous i ymgymryd â rôl newydd fel Cynorthwyydd Seicoleg yn Hyb yr Ymennydd a Genomeg, prosiect cenedlaethol proffil uchel a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Meddygol mewn sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac anhwylder sgitsoaffeithiol. Mae Hyb yr Ymennydd a Genomeg yn rhan o fenter genedlaethol newydd sy’n cynnal ymchwil ym maes salwch meddwl difrifol, ac mae'n astudiaeth ymchwil aml-safle fawr dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg, Adferiad Recovery a Bipolar UK. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo mewn amrywiaeth o dasgau sy'n gysylltiedig ag astudiaeth gan gynnwys recriwtio a chynnal asesiadau o bobl sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac anhwylder sgitsoffeithiol gan gynnwys cyfweliadau clinigol, asesiadau gwybyddol, caffael data delweddu'r ymennydd MRI ac MEG, a gweithgareddau cyffredinol o ddydd i ddydd sy'n gysylltiedig ag astudiaeth amlddisgyblaethol fawr.
Dylai ymgeiswyr feddu ar radd mewn Seicoleg neu faes cysylltiedig a byddai profiad o recriwtio cleifion i astudiaethau ymchwil yn fantais. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig sy'n arwain y byd a'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo lle ceir llawer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon –
Mae’n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl ichi ddechrau yn y swydd, rydym eisiau eich cefnogi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
4. Cynllun mentora
Cysylltwch â Dr Sophie Legge ar
[email protected] gydag unrhyw ymholiadau anffurfiol.
Mae’r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos), sydd ar gael o 1 Mehefin 2026 ac am gyfnod penodol tan 30 Medi 2027.
Cyflog: £28,031 hyd at £31,236 y flwyddyn (Gradd 4). Ym Mhrifysgol Caerdydd, penodir fel arfer ar waelod y raddfa gyflog ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 15 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.