Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C gan gyfrannu at ddyfodol sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru ar ei gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd - S4C - Mwy na Sianel Deledu - wrth ehangu’n gwylio gyda’n cynnwys ac yn datblygu’n gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.
Trosolwg o'r Swydd
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C a’r tîm Ymchwil Cynulleidfa ar adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu.
Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys yn ddyddiol ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n hanfodol i S4C ein bod yn deall ymwneud ac ymddygiad ein cynulleidfa ar draws yr holl lwyfannau yma.
Mae ein ffocws yn gynyddol ar ddefnyddio dulliau gwyddor a dadansoddi data i archwilio a chryhnoi ein holl ddata, sydd o faint sylweddol, er mwyn mesur a deall yr holl ddefnydd fesul llwyfan.
Fel Dadansoddydd Data byddwch yn datblygu a chynnal dadansoddiadau pwrpasol a fydd yn gwneud y defnydd gorau o’n holl ddata manwl, gan ddefnyddio eich sgiliau basdata a chodio. Bydd eich gwaith dadansoddi a dehongli yn dylanwadu yn fawr ar ein strategaeth ddigidol, gan sicrhau bod datblygiad cynnwys a chyhoeddi yn cydfynd â thueddiadau ac anghenion cynulleidfaoedd heddiw ac i’r dyfodol.
Byddwch yn defnyddio data a mewnwelediad arbenigol i ragweld newidiadau yn sut mae gwylwyr yn dewis ymwneud â chynnwys S4C ar draws pob llwyfan. Byddwch yn cydweithio gyda nifer o dimau ar draws S4C sydd yn ddibynnol ar gael data perthnasol am sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb i’n cynnwys ar draws holl gynnwys digidol cyfresi ac is-frandiau S4C.
Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Ymchwil o fewn Adran Gyfathrebu a Marchnata S4C.
Manylion pellach
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa).
Cyflog: £40,000.00 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis
Oriau gwaith: 35¾ awr yr wythnos.
Cyfnod Profi: Rhaid i bawb a benodir gan S4C gwblhau cyfnod profi 3 mis er mwyn adolygu perfformiad, ymddygiad a mynychder. Mae S4C yn cadw'r hawl i derfynu contract yn ystod y cyfnod profi, gydag wythnos o rybudd.
Gwyliau: Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau blynyddol a thâl.
Pensiwn: Mae gan aelodau o staff sydd wedi'u cyflogi yr hawl i ymuno â Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, mewn cyd-destun telerau unrhyw gynllun presennol sydd wedi cael ei addasu o bryd i'w gilydd. Os ydych yn dod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r rôl, fel arfer yn y Deyrnas Unedig.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026. Am fwy o wybodaeth neu sut i ymgeisio ewch i gwefan S4C: https://www.s4c.cymru/cy/swyddi
Ni fydd CV yn cael eu derbyn.
Dyddiad cyfweliad: 23 Gorffennaf 2026, Lleoliad i’w gadarnhau
Data Anaylst
Welsh language skills are essential for this role
Why join S4C?
At S4C, we are passionate about creating a positive, energetic and inclusive work environment that reflects our core values:
At Your Best, Proud of S4C, Celebrate Everyone, Go For It.
This is an exciting time to join S4C contributing to a future that inspires, entertains and reflects Wales as a whole as we implement our new strategy - S4C - More than a TV Channel - as we expand our viewing with our content and developing our Digital First service.
Job Overview
This is an exciting time to join S4C and the Audience Research team at a pivotal time in the service's history as we implement our new strategy, S4C - More than a TV Channel.
S4C publishes content daily across broadcast, digital and social media platforms, reaching hundreds of thousands of people in Wales and beyond. It is vital for S4C that we understand the engagement and behaviour of our audience across all these platforms.
Our focus is increasingly on using data science and analysis methods to examine and summarize all our data, which is of considerable size, in order to measure and understand all usage per platform.
As a Data Analyst you will develop and conduct bespoke analyses that will make the best use of all our detailed data, using your database and coding skills. Your analysis and interpretation will greatly influence our digital strategy, ensuring content and publishing development is aligned with the trends and needs of audiences today and into the future.
You will use expert data and insight to predict changes in how viewers choose to engage with S4C content across all platforms. You will work with a number of teams across S4C who rely on relevant data on how audiences respond to our content across all digital content of S4C series and sub-brands.
You will report to the Head of Research within S4C's Communications and Marketing Department.
Further details
Location: Carmarthen / Cardiff / Caernarfon (minimum 2 days in office).
Salary: £40,000.00 per annum
Contract: 12 months
Working hours: 35¾ hours per week.
Probationary Period: All S4C appointees must complete a 3-month probationary period to review performance, behaviour and attendance. S4C reserves the right to terminate a contract during the probationary period, with one week's notice.
Holidays: In addition to the statutory bank holidays, you will be entitled to 26 days of annual leave and pay.
Pension: Employed staff members have the right to join a Group Personal Pension Scheme, in the context of the terms of any existing scheme which has been modified from time to time. If you become a member of the Group Personal Pension Scheme, S4C will contribute 10% of your basic salary to the scheme. You are expected to contribute 5%.
Travel: Occasional travel will be part of the role, usually in the UK.
Applications
Applications should be sent by 9.00 on Tuesday 14 July 2026. For more information or how to apply please visit the S4C website: https://www.s4c.cymru/en/jobs
CVs will not be accepted.
Interview date: 23 July 2026, Location TBC
Pay: £40,000.00 per year
Work Location: Hybrid remote in Cardiff CF10 1FS