If you are interested in applying for this role, please visit our online application portal and fill out our form with your details, attach your CV and provide a brief covering letter explaining why you are interested in this position and how your experience matches the requirements in the Job Description.
For an informal conversation about this position, please contact Place Co-ordinator Adrian Roberts via email:
[email protected]
Cydlynydd Lle Cymunedau Cynaliadwy
I gyflawni rhaglen Cymunedau YnNi Severn Wye
yn Nhrawsfynydd, Gwynedd a Chwmllinau, Powys
Mae Severn Wye yn chwilio am unigolyn dawnus i alluogi pobl a chymunedau ardaloedd gwledig i weithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd.
Ag arian Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (CGLG), mae’r rhaglen Cymunedau YnNi yn galluogi cymunedau gwledig tan anfantais yng Nghymru a Lloegr i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae ein tîm cydlynwyr lle yn darparu cymorth ac ysbrydoliaeth ar gyfer gweithredu cymunedol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio llai o ynni a chynhyrchu ynni glân, gan arwain at allyrru llai o garbon, cynyddu gwytnwch cymunedol, a chynaliadwyedd tymor hir.
Mae Cymunedau YnNi yn helpu 10 cymuned nad ydynt wedi arfer ag ymwneud â’r hinsawdd, gan eu dwyn ynghyd ar gyfer trafodaethau gweithredol ynghylch ynni a’i effaith ar newid yn yr hinsawdd. Bydd cymunedau’n nodi heriau lleol, yn canfod beth sy’n bwysig i bobl, ac yn archwilio i atebion. Bydd y prosiect yn darparu ysbrydolaeth am yr hyn sy’n bosibl, ac yn cynnig ffyrdd i gymunedau eu gwireddu. Byddwn yn cefnogi’r cymunedau yn y tymor hir, gan gydnabod bod cynyddu’r syniadau, y sgiliau a’r hyder i gyflawni prosiectau yn cymryd amser. Bydd y prosiect yn helpu cymunedau i gymryd rhagor o reolaeth dros eu defnydd o ynni yn y dyfodol, gan greu cyfleoedd ar gyfer sgiliau “gwyrdd”, cyflogaeth leol ac adfywio cymunedol.
Pam y mwynhewch weithio â ni
Mae Severn Wye yn gorff gwych i weithio ar ei gyfer. Carwn yr hyn a wnawn. Byddwch yn mwynhau amgylchedd gweithiol hamddenol a chefnogol, a chydweithwyr sy’n wybodus, yn hael ac wedi ymroi i wneud gwahaniaeth. Mae ein trefniadau gweithio hyblyg wedi’u cynllunio ar gyfer cadw’r cydbwysedd gwaith/bywyd y mae ar ein pobl ei angen, gan ddibynnu ymhle y maent yn eu bywyd a’u gyrfa. Golyga hyn y cawn fudd o brofiad a brwdfrydedd gweithwyr o bob oedran a chefndir.
Yn y swydd hon byddwch yn gweithio fel aelod o dîm cefnogol. Darparwn yr hyfforddiant y mae arnoch ei angen i’ch helpu i dyfu yn eich rôl, a mynd i’r afael â’r dirwedd ynni. Dechreuwch ar 24 diwrnod o wyliau blynyddol, yn cynyddu i 29 gyda gwyliau banc yn ychwanegol (pro rata ar gyfer rhan-amser). Cewch gymorth gwych ar gyfer eich dyfodol, gan gynnwys Yswiriant Bywyd Grŵp a chynllun pensiwn cwmni, gyda’r cyflogwr yn cyfrannu 7% pan gyfrannwch chi 5% neu ragor. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer achlysuron cymdeithasol ac yn gofalu amdanoch y tu allan i oriau gwaith, gyda gostyngiadau i weithwyr yn amryw safleoedd gwerthu, gan gynnwys cardiau rhodd rhatach ac arian yn ôl.
Os yw hwn yn swnio fel amgylchedd y ffynnech chi ynddo, lle’r ydych am gryfhau eich gyrfa, ehangu eich profiad a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy wrth wneud hynny, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.
Cydlynydd Lle – Cymunedau YnNi
Llawn amser - 37 awr yr wythnos.
Ystyrir oriau gweithio hyblyg neu CLlA 0.8 (4 diwrnod). Mae’r swydd hon yn agored i gyfleoedd secondiad.
£31,977 - £34,360 y flwyddyn.
Gartref, o fewn pellter cymudo i ardaloedd prosiect Trawsfynydd a Chwmllinau.
Er mwyn osgoi eich siomi, argymhellwn gyflwyno eich cais yn fuan gan y gall y llenwir y swydd wag cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd.
Cyflawni’r rhaglen: Cyflawni’r rhaglen Cymunedau YnNi yn Nhrawsfynydd, Gwynedd, a Chwmllinau, Powys.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid: Clustnodi, mapio a mynd ati i ymgysylltu ag amryw randdeiliaid lleol gan gynnwys cynghorau cymuned, cyrff datblygu gwledig, grwpiau cymunedol, cymdeithasau preswylwyr, cynrychiolwyr busnesau, sefydliadau academaidd (ysgolion, colegau, prifysgolion), a Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau GIG.
Gweithio gyda’r gymuned: Hyrwyddo gweledigaeth cydweithredu ynglŷn â’r hinsawdd, hwyluso ymgysylltu cymunedol dechreuol, a sicrhau cyfrannu cynhwysol mewn gwaith mapio i ganfod cryfderau lleol a chyfleoedd i weithredu ynglŷn â’r hinsawdd.
Datblygu’r rhaglen: Cefnogi mentrau hinsawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cael eu harwain gan y gymuned drwy arwain digwyddiadau, llunio rhaglenni, cefnogi gweithredu, defnyddio adnoddau, ac arweiniad parhaus.
Cynyddu gwybodaeth: Gwella amgyffrediad y gymuned o faterion hinsawdd trwy gyngor gwybodus, cyfeirio, cymorth data sylfaenol, cymorth gwerthuso, arweiniad cynllunio prosiect a chymorth llywodraethiant/ariannu.
Partneriaeth ac arloesi: Cydweithio â chymunedau gwledig a chyrff partneriaethol i gyd-gynhyrchu prosiectau hinsawdd arloesol, atal dyblygu gwaith, llunio rhwydweithiau buddiol, a chanfod ffynonellau ariannol ychwanegol.
Arolygu a gwerthuso: Darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd, helpu gwerthuso’r prosiect â data effaith, hwyluso myfyrdodau a dysgu’r grwpiau, sicrhau negesu cyson a chydymffurfiaeth â chanllawiau’r Gronfa.
Gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (CGLG): Gweithio mewn partneriaeth â CGLG er mwyn sicrhau rhannu neges gyson a chanlyn canllawiau’r Gronfa, gan gynnwys gofynion y Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys darparu adroddiadau cynnydd a mynychu cyfarfodydd â CGLG i drafod cynnydd wrth gyflawni’r prosiect.
Yn meddu sgiliau TG (Word, Excel, Outlook, systemau cronfa wybodaeth ar-lein) er mwyn cyflawni a chofnodi pob gweithgaredd yn gywir
A byddai’r canlynol o fudd:
Dealltwriaeth trylwyr o ddatblygu cymunedol a chynaliadwy, neu adfywio gwledig, gyda’r wybodaeth a’r dealltwriaeth diweddaraf am weithredu er mwyn yr hinsawdd, materion anghydraddoldeb cymdeithasol a materion datblygu cynaliadwy ehangach yng Nghymru wledig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd hon, ewch i’n porth ymgeisio ar-lein a llenwch ein ffurflen â’ch manylion. Atodwch eich CV a darperwch lythyr esboniadol byr yn dweud pam y mae gennych ddiddordeb yn y swydd hon a sut mae eich profiad yn cwrdd â gofynion y Disgrifiad Swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â’n Cydlynydd Lle, Adrian Roberts, trwy e-bost:
[email protected]