IMPACT vacancies 2026-27 – Cardiff University
We have an amazing opportunity to join our growing team, as IMPACT Senior Strategic Improvement Coach (Demonstrator).
As IMPACT moves into the fourth year of its delivery phase, these exciting roles have been created to work on our 2026/27 projects, across the UK. Successful candidates will play a pivotal part in helping to get evidence of what works used in adult social care to improve services and lives.
To apply,
you must:
1) Send a CV and cover letter to
[email protected], clearly detailing the role, project and location you are applying for in the subject of the email. Your cover letter should be no more than two sides of A4, drawing attention to the key skills, values and experiences you would bring to the role, if successful, and the ways in which your CV to date fits with the requirements of the role and the host setting.
If you wish to apply for more than one role, please submit one CV plus one cover letter per role you wish to be considered for.
2) Complete our mandatory additional information form. IMPACT Job Application May/June 2026 - Mandatory additional information - Please complete – Fill in form. Applicants that do not complete the form will not be considered.
The deadline for applications is Friday, 26th June 2026.
Informal enquires can be sent to
[email protected].
Interviews for external applicants will likely be held between week commencing 13th July 2026.
Shortlisted candidates invited to online interview will be asked to prepare a short presentation about the challenges and opportunities of the role and project they are applying to.
Due to the nature of the work undertaken in this role, all successful applicants will be subject to a satisfactory enhanced DBS clearance prior to appointment.
As part of IMPACT’s commitment to equality, diversity and inclusion we are particularly keen to receive applications from people from black and minority ethnic communities and will be operating the ‘Rooney’ rule*. We are also keen to receive applications from people who have lived experience of drawing on care and support, are carers or are front-line practitioners, as well as from people who have experience of working with groups whose voices are seldom heard.
We value diversity and inclusion at the University of Birmingham and welcome applications from all sections of the community and are open to discussions around all forms of flexible working. If travel is agreed to locations other than the normal place of work - typically the host organisation’s office - travel will be reimbursed between the place of work and the location.
(* at least one person from a black and minority ethnic community background will be shortlisted where they meet the essential criteria for the role)
Senior Strategic Improvement Coaches (Demonstrator)
- Part time 0.5/50%
- Fixed term contract (12 months, target start date September 2026)
- Salary: Min - £38,784 FTE Max - £56,535 FTE (50% for this post)
- Closing date: Friday 26th June 2026
THE POST
Positions are offered at 50% FTE for 12 months. While successful candidates may wish to be directly employed by a lead University, the nature of the roles also makes them ideal for possible secondments from policy, practice or applied research. Posts are typically based in the host organisation (a local service or social care organisation) across the four nations. Post holders will work with these organisations, as detailed below, with our Demonstrator Lead, Robin Miller and Deputy Demonstrator Leads - as well as IMPACT’s broader team and other partners.
While these are part-time posts (with preferred working patterns between Mon-Fri, open to mutual agreement), successful applicants will be expected to attend fortnightly meetings with the broader IMPACT team where possible – these are held on Monday mornings (11am-12), for one hour.
THE TOPIC AND LOCATION: Building a more strategic approach to co-production - Cartrefi Cymru Co-operative, Wales
o Hybrid working between home and the host organisation offices in Swansea/Cardiff.
o This post will require travel across locations in South Wales.
o Cartrefi Cymru Co-operative is a large multi-stakeholder co-operative operating across Wales, delivering supported living and domiciliary care services to adults with learning disabilities. As a values-driven organisation, the voice and choices of the people Cartrefi support are central to their governance and operations, and co-production is embedded throughout their work. Instead of traditional day services, Cartrefi deliver activities that are driven by the voices of local cooperatives. The project with IMPACT will identify a methodology for this approach, helping to achieve a consistent offer across Wales, and to support Cartrefi to promote their approach and vision with all stakeholders.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
IMPACT 2026-27 – Prifysgol Caerdydd
Dyma gyfle anhygoel i ymuno â'n tîm sy'n tyfu fel Uwch Hyfforddwr Gwella Strategol (Arddangoswr) IMPACT.
Wrth i IMPACT symud i bedwaredd flwyddyn y cam cyflawni, mae'r rolau cyffrous hyn wedi'u creu i weithio ar brosiectau 2026/27, ledled y DU. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rôl ganolog wrth helpu i ganfod tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol i oedolion, a hynny er mwyn gwella gwasanaethau a bywydau.
I wneud cais,
rhaid i chi:
1) Anfon CV a llythyr eglurhaol i
[email protected], gan nodi’n glir y rôl, y prosiect a'r lleoliad rydych yn gwneud cais amdanynt yn llinell pwnc yr e-bost. Ni ddylai eich llythyr eglurhaol fod yn fwy na dwy ochr A4, a dylai dynnu sylw at y sgiliau, y gwerthoedd a'r profiadau allweddol y byddech yn eu cynnig i'r rôl, pe baech yn llwyddiannus, a'r ffyrdd y mae eich CV hyd yma'n cyd-fynd â gofynion y rôl a'r lleoliad cynnal.
Os hoffech wneud cais am fwy nag un rôl, cyflwynwch un CV ynghyd ag un llythyr eglurhaol am bob rôl yr hoffech gael eich ystyried ar ei chyfer.
2) Cwblhau’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol orfodol. Cais am Swydd IMPACT Mai/Mehefin 2026 – Gwybodaeth ychwanegol orfodol – Cwblhewch – Llenwch y ffurflen. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn llenwi'r ffurflen yn cael eu hystyried.
Dydd Gwener, 26 Mehefin 2026 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Gallwch e-bostio ymholiadau anffurfiol i
[email protected].
Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau ymgeiswyr allanol yr wythnos sy’n dechrau 13 Gorffennaf 2026.
Gofynnir i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ac sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein baratoi cyflwyniad byr yn trafod heriau a chyfleoedd y rôl a'r prosiect y maent yn gwneud cais i weithio arno.
Oherwydd natur y gwaith a wneir yn y rôl hon, bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS manwl boddhaol cyn penodi.
Yn rhan o ymrwymiad IMPACT i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gymunedau du ac ethnig lleiafrifol, a byddwn yn gweithredu rheol 'Rooney'*. At hynny, byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad byw o dderbyn gofal a chymorth, sy’n ofalwyr neu ymarferwyr rheng flaen, yn ogystal â phobl sydd â phrofiad o weithio gyda grwpiau nad ydynt yn cael cyfle i fynegi eu barn yn aml.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhrifysgol Birmingham ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned ac yn agored i drafodaethau ynghylch pob math o weithio hyblyg. Os cytunir ar deithio i leoliadau heblaw'r man gwaith arferol – swyddfa'r sefydliad cynnal fel arfer – caiff costau teithio rhwng y man gwaith a'r lleoliad eu had-dalu.
(* caiff o leiaf un person o gefndir cymunedol du ac ethnig lleiafrifol eu cynnwys ar y rhestr fer lle maent yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl)
Uwch Hyfforddwyr Gwella Strategol (Arddangoswyr)
- Rhan amser 0.5/50%
- Contract tymor penodol (12 mis, dyddiad cychwyn targed Medi 2026)
- Cyflog: Isafswm – £38,784 Uchafswm – £56,535 CALl (50% ar gyfer y swydd hon)
- Dyddiad cau: DyddGwener 26 Mehefin 2026
Y SWYDD
Cynigir swyddi ar gyfradd 50% CALl am 12 mis. Er ei bod yn bosibl y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dymuno cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Brifysgol arweiniol, mae natur y rolau hefyd yn eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer secondiad posibl o fyd polisi, ymarfer neu ymchwil gymhwysol. Fel arfer, lleoliad y swydd yw’r sefydliad cynnal (gwasanaeth lleol neu sefydliad gofal cymdeithasol) ledled y pedair gwlad. Bydd deiliaid y swyddi’n gweithio gyda'r sefydliadau hyn, fel y manylir isod, gyda'r Arweinydd Arddangos, Robin Miller a'r Dirprwy Arweinwyr Arddangos – yn ogystal â thîm ehangach IMPACT a phartneriaid eraill.
Er mai swyddi rhan-amser yw'r rhain, (ffefrir patrymau gwaith rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ar ôl dod i gytundeb), disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu cyfarfodydd bob pythefnos gyda thîm ehangach IMPACT lle bo hynny'n bosibl - cynhelir y rhain ar fore Llun (11am-12pm), am awr.
Y PWNC A'R LLEOLIAD: Adeiladu dull mwy strategol o gyd-gynhyrchu – Cartrefi Cymru Cydweithredol, Cymru
o Gweithio hybrid rhwng gartref a swyddfeydd y sefydliad cynnal yn Abertawe/Caerdydd.
o Bydd y swydd hon yn gofyn am deithio ar draws lleoliadau yn Ne Cymru.
o Mae Cydweithfa Cartrefi Cymru yn gwmni cydweithredol aml-randdeiliad mawr sy'n gweithredu ledled Cymru, yn darparu gwasanaethau byw â chymorth a gofal cartref i oedolion ag anableddau dysgu.
Mae'n sefydliad sy'n seiliedig ar werthoedd, felly mae llais a dewisiadau'r bobl y mae Cartrefi yn eu cefnogi yn ganolog i'w llywodraethu a'u gweithrediadau, ac mae cyd-gynhyrchu wedi'i wreiddio drwy'r gwaith. Yn lle gwasanaethau dydd traddodiadol, mae Cartrefi’n darparu gweithgareddau a gaiff eu llywio gan gydweithfeydd lleol. Bydd y prosiect gydag IMPACT yn canfod methodoleg ar gyfer y dull hwn, gan helpu i sicrhau cynnig cyson ledled Cymru, a chefnogi Cartrefi i hyrwyddo eu dull a'u gweledigaeth gyda'r holl randdeiliaid.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.