Behavioural Lab Research Associate
The Social Science Research Park (SPARK) at Cardiff University is seeking to appoint a highly-motivated researcher to support the newly created SPARK Behavioural Lab housed within the sbarcIspark building.
This is an exciting and unique opportunity for a researcher with a passion for interdisciplinary behavioural research. The successful candidate will work closely with the Academic Lead - SPARK Behavioural Lab and collaborate with academics and researchers across the University and with non-academic partners who are interested in conducting behavioural experiments.
We’re looking for someone who:
- Is an ambitious and entrepreneurial researcher who is enthusiastic about the contribution of behavioural research and experimentation
- Is excited to contribute to a dynamic, collaborative interdisciplinary community at Cardiff University
- Can proactively promote the Lab’s capabilities to researchers within and beyond the university, fostering collaboration and increasing engagement
The successful post holder is expected to have experience with the processing of collecting behavioural data and commonly used behavioural and analytical software.
This post is part time (0.5 FTE, 17.5 hours per week) and fixed term to 31 July 2028.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum, pro rata for hours worked (Grade 6)
For informal queries, please contact the SPARK Academic Director, Professor Chris Taylor
[email protected]
Date advert posted: Thursday, 18 June 2026
Closing date: Thursday, 9 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cydymaith Ymchwil Labordy Ymddygiadol SBARC
Mae Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) ym Mhrifysgol Caerdydd yn awyddus i benodi ymchwilydd â chymhelliant uchel i gefnogi Lab Ymddygiadol newydd SBARC yn adeilad sbarcIspark.
Mae hwn yn gyfle cyffrous ac unigryw i ymchwilydd sydd ag angerdd dros ymchwil ymddygiadol ryngddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag Arweinydd Academaidd Labordy Ymddygiadol SBARC ac yn cydweithio ag academyddion ac ymchwilwyr ar draws y Brifysgol ynghyd â phartneriaid anacademaidd sydd â diddordeb mewn cynnal arbrofion ymddygiadol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd yn:
- Ymchwilydd uchelgeisiol ac entrepreneuraidd sy'n frwdfrydig ynghylch cyfraniad ymchwil ac arbrofi ymddygiadol
- Awyddus i gyfrannu at gymuned ryngddisgyblaethol ddeinamig, gydweithredol ym Mhrifysgol Caerdydd
- Gallu hyrwyddo galluoedd y Labordy'n rhagweithiol i ymchwilwyr o fewn a thu hwnt i'r brifysgol, gan feithrin cydweithio a chynyddu ymgysylltiad
Disgwylir i ddeiliad llwyddiannus y swydd fod â phrofiad o brosesu casglu data ymddygiadol a meddalwedd ymddygiadol a dadansoddol a ddefnyddir yn gyffredin.
Mae’r swydd hon yn un ran-amser (0.5 swydd amser llawn gyfatebol, 17.5 awr yr wythnos) hyd 31 Gorffennaf 2028.
Cyflog: £ 41,064 - £ 46,049 y flwyddyn, yn ôl yr un gyfradd (Gradd 6).
Cysylltwch gydag ymholiadau anffurfiol â Chyfarwyddwr Academaidd SBARC, yr Athro Chris Taylor
[email protected]
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 18 Mehefin 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd