Any of the Heritage Fund's offices in the following locations - Cardiff, Leeds or Manchester (Hybrid Working)
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Fel y cyllidwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU, ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei gofalu amdani a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.
Rydym yn credu ym mhŵer treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i feithrin balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.
Ein cenhadaeth yw defnyddio ein harbenigedd i gefnogi a hyrwyddo treftadaeth y DU a dangos potensial trawsnewidiol cyllid y Loteri Genedlaethol trwy gyflawni ein strategaeth newydd Treftadaeth 2033. Rydym yn sicrhau bod arian gan y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmer llawn amser ar gontract parhaol wedi'i leoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, Leeds neu Fanceinion (Gweithio Hybrid).
Mae hon yn rôl gwasanaeth cwsmer ymarferol a bydd popeth a wnewch yn canolbwyntio ar brofiad y cwsmer. Byddwch yn cefnogi gwasanaeth dwyieithog y Gronfa Treftadaeth ledled y DU, gan gynorthwyo cwsmeriaid sy'n cynnal eu busnes yn Saesneg a Chymraeg. O ddydd i ddydd, byddwch yn ymateb i ymholiadau dros y ffôn ac e-bost ac yn darparu cefnogaeth i ystod amrywiol o ymgeiswyr a deiliaid grant sydd ag anghenion amrywiol. Byddwch yn darparu gwybodaeth gywir ac yn ymdrin â phryderon a chwynion mewn modd proffesiynol ac amserol.
Bydd ein hymgeisydd delfrydol yn dangos sgiliau gwasanaeth cwsmer eithriadol. Mae gwybodaeth ymarferol o'r Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar), neu ymrwymiad gwirioneddol i ddysgu'r Gymraeg, yn ddymunol. Yn ogystal, bydd ganddynt sgiliau TG da a phrofiad o ddefnyddio menter, rheoli tasgau lluosog a chydweithio. Efallai y bydd ganddynt brofiad o weithio mewn rôl debyg neu'n edrych i adeiladu ar brofiad gwaith gwasanaeth cwsmeriaid presennol a mynd â'u sgiliau personol i'r lefel nesaf.
Os ydych chi'n gyffrous am helpu i sicrhau bod treftadaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, ar gyfer nawr a chenedlaethau'r dyfodol, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
- Dyddiad cau ceisiadau yw 10 Awst 2026 am 23:59.
- Disgwylir cynnal cyfweliadau ar 2 Medi 2026.
Ein Gwerthoedd
Mae ein Gwerthoedd a'n Hymddygiadau wrth wraidd ein gwaith ac yn ganolog i sut rydym yn recriwtio. Mae sut rydych chi'n dangos ein Gwerthoedd yr un mor bwysig i ni â'ch sgiliau a'ch profiad.
- Yn gynhwysol i bob agwedd ar dreftadaeth, pobl a chymunedau
- Uchelgeisiol i’n pobl, ein cymunedau a'n treftadaeth
- Cydweithredol drwy weithio a dysgu gyda'n gilydd
- Ymddiriedaeth ynnom oherwydd ein hintegriti, ein harbenigedd a’n barn.
Gweithio Hyblyg
Mae gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol swyddfeydd ledled y DU ac rydym yn hyrwyddo dull gweithio hyblyg lle mae hyn yn cefnogi ein hanghenion busnes. Rydym wedi mabwysiadu dull gweithio hybrid yn ffurfiol. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn gweithio o'u swyddfa Gronfa Treftadaeth dan gontract ddwywaith yr wythnos o leiaf. Mae amser a dreulir ar ymweliadau safle â phrosiectau neu gyfarfodydd eraill sydd wedi'u lleoli mewn swyddfa Gronfa Treftadaeth arall neu swyddfa allanol yn cael ei gyfrif fel rhan o'r ddau ddiwrnod hynny. Gall weithwyr weithio o gartref y dyddiau eraill yn yr wythnos.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer pob swydd wag. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol a gellir trafod a threfnu gofynion arbennig cyn cyfweliad.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn addo darparu amgylchedd gweithio a dysgu cynhwysol i’n pobl sy’n blaenoriaethu tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal ag urddas a pharch i bawb. Byddwn yn creu man gwaith lle na fydd bygythiadau, gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio ac erledigaeth yn cael eu goddef ac y bydd yn cael eu hatal a'u gwrthwynebu yn weithredol.
The National Lottery Heritage Fund
As the largest funder for the UK’s heritage, our vision is for heritage to be valued, cared for and sustained for everyone, now and in the future.
We believe in the power of heritage to ignite the imagination, offer joy and inspiration, and to build pride in place and connection to past.
Our mission is to use our expertise to support and champion the UK’s heritage and demonstrate the transformative potential of National Lottery funding through delivering our new strategy Heritage 2033. We ensure that money from The National Lottery makes a decisive difference for people, places and communities.
We are currently recruiting for a full time Customer Services Assistant on a permanent contract based in either our Cardiff, Leeds or Manchester Office (Hybrid Working).
This is a hands-on customer service role and everything you do will be focused on the customer experience. You will support the Heritage Fund’s bilingual service across the UK, assisting customers who conduct their business in English and Welsh. Day to day, you will be responding to telephone and email enquiries and providing support to a diverse range of applicants and grantees with differing needs. You will provide accurate information and handle concerns and complaints in a professional and timely manner.
Our ideal candidate will demonstrate exceptional customer service skills. A working knowledge of the Welsh Language (both written and spoken), or a genuine commitment to learn the Welsh Language, is desirable. In addition, they will possess good IT skills and a track record of using initiative, managing multiple tasks and working in collaboration. They may have experience of working in a similar role or looking to build on existing customer service work experience and taking their personal skills to the next level.
If you are excited about helping ensure that heritage is inclusive and accessible to everyone, for now and future generations, then we want to hear from you.
- Applications close on 10 August 2026 at 23:59.
- Interviews are expected to take place on 2 September 2026.
Our Values
Our Values and Behaviours sit at the heart of our work and are central to how we recruit. How you demonstrate our Values is just as important to us as your skills and experience.
- Inclusive of all aspects of heritage, people and communities
- Ambitious for our people, communities and heritage
- Collaborative by working and learning together
- Trusted for our integrity, expertise and judgement
Flexible Working
The National Lottery Heritage Fund has offices all over the UK and we champion a flexible approach to working where this supports our business needs. We have formally adopted a hybrid working approach. This means that most employees will work from their contracted Heritage Fund office twice a week at minimum. Time spent on site visits to projects or other meetings based at another Heritage Fund or external office are counted as part of those two days. The other days in the week employees may work from home.
Disability Confident Employer
We guarantee to interview all disabled applicants who meet the minimum essential criteria for every vacancy. We always endeavour to make reasonable adjustments and special requirements can be discussed and arranged before an interview.
The National Lottery Heritage Fund pledges to provide an inclusive working and learning environment for our people which prioritises fairness, equality, diversity and inclusion as well as dignity and respect for all. We will create a workspace where intimidation, discrimination, harassment, bullying and victimisation are not tolerated and actively prevented and opposed.