This post is currently open to employees of Cardiff University only. Please do not apply if you do not have a current contract of employment with the University.
Internal Applicants Only - Finance Assistant
School of Healthcare Sciences
An exciting opportunity has arisen in the Student Finance Team within the school of Healthcare Sciences, this role will have a significant impact on the experience of the student whilst studying at Cardiff University.
In this role, you will:
· Deal with a range of financial enquiries from internal and external customers, including staff and students, in a professional manner, establishing their needs and adapting the standard of responses accordingly.
· Manage the expense reimbursement of students, ensuring compliance with the University’s Financial Regulations and School Policies and Procedures.
· Book and facilitate payment for accommodation for students attending practice placements using and informing a database of accommodation options including student feedback and details of placement logistics.
We’d like to hear from you if you:
· Have experience of working in an administrative/finance office setting.
· Ability to deal with requests for information or service, resolving customer issues where appropriate, or being able to escalate where necessary.
· Ability to plan, prioritise and organise own workload within agreed timelines as set by your Line Manager.
We can offer you the chance to work in a vibrant organisation, with great benefits and opportunities for progression. We are a proud Living Wage supporter.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you may spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Please contact Lisa McIntyre, (
[email protected] ), Student Finance Manager for an informal, confidential discussion about the role.
This post is full-time (35 hours per week) and fixed term to 30th November 2026, .
Salary: £25,249 - £26,093 per annum (Grade 3). We do not anticipate appointing this position above Grade 3, point 13, £25,249 per annum.
As the biggest university in Wales – and a major employer, with more than 7,000 staff – we are an ambitious and innovative university located in a beautiful and thriving capital city. We can offer you the chance to work in a vibrant organisation, with great benefits and opportunities for progression.
Closing date: Friday, 17 July 2026
External applications are currently not being considered for this post. If the decision is made to open the post to external candidates, the strapline at the top will be removed and you will be given ample time to apply – please check back periodically for details.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Cynorthwyydd Cyllid
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Cyllid Myfyrwyr yn ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, bydd y swydd yn cael effaith sylweddol ar brofiad y myfyriwr wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn y rôl hon, byddwch yn gwneud y canlynol:
• Ymdrin ag ystod o ymholiadau ariannol gan gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys staff a myfyrwyr, mewn modd proffesiynol, gan sefydlu eu hanghenion ac addasu safon yr ymatebion yn unol â hynny.
• Rheoli ad-dalu treuliau myfyrwyr, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Ariannol y Brifysgol a Pholisïau a Gweithdrefnau Ysgolion.
• Archebu a hwyluso taliadau am lety i fyfyrwyr sy'n mynychu lleoliadau ymarfer gan ddefnyddio a llywio cronfa ddata o opsiynau llety gan gynnwys adborth myfyrwyr a manylion logisteg lleoliadau.
Hoffem glywed gennych os ydych yn meddu ar:
• Brofiad o weithio mewn awyrgylch gweinyddol neu mewn swyddfa.
• Y gallu i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid pan fo’n briodol neu uwchgyfeirio pan fo angen.
• Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith eich hun o fewn llinellau amser y cytunir arnyn nhw fel y pennir gan eich Rheolwr Llinell.
Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Mae’r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng y gwaith a bywyd personol.
Cysylltwch â Lisa McIntyre, (
[email protected]), Rheolwr Cyllid Myfyrwyr, am drafodaeth anffurfiol, gyfrinachol am y rôl.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan 30 Tachwedd 2026.
Cyflog: £25,249 hyd at £26,093 y flwyddyn (Gradd 3). Nid ydym yn rhagweld y byddwn yn penodi i'r swydd hon uwchlaw Gradd 3, pwynt 13, sef £25,249 y flwyddyn.
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.