Job Title: Business Support / Client Care Administrator
Responsible to: HR and Office Manager
Salary/Grade Starting salary £24,388 – pay review pending (pro rata for part time) (£13.40 per hour)
Annual leave 28 days per annum (plus bank holidays) – (pro rata for part time)
Hours: 28 - 35 hours per week over 5 days
Base: RASASC NW, Parc Menai, Bangor LL57 4DF
Closing Date: 03 July 2026.
As applications are reviewed on a rolling basis, we may close this vacancy before the advertised closing date should a sufficient number of suitable applications be received. Therefore, we encourage interested candidates to apply as soon as possible.
This post is subject to a DBS check.
The post holder must be currently eligible to work in the UK.
RASASC NW
Established in 1984, RASASC NW is a registered charity providing specialist support and therapy to children (3+) and adults living in North Wales, who have experienced any form of child sexual abuse, sexual abuse, sexual violence and/or rape, whether this has happened recently or in the past. We also provide specialist support and therapy to partners and family members of those who have been affected by sexual abuse and violence.
Job Role
To support the effective day-to-day running of the organisation by providing high-quality administrative and operational support across various departments.
Main Duties
HR and Training Administration Duties (supporting HR & Office Manager and Training Manager)
- Manage professional registrations, insurance, and DBS renewals, ensuring accurate tracking, issuing reminders, and escalation of any non-compliance
- Maintain worker mandatory training and e-learning records, including issuing reminders, monitoring completion, and supporting compliance requirements
- Support onboarding processes for sessional workers
- Provide administrative support for the recruitment and onboarding of new employees, including interview coordination, preparation of documentation, and completion of onboarding checks
Data, Reporting and Financial Administration Duties (Supporting Data and Finance Manager)
Data
- Complete dip sampling on client database activity and report findings to management
- Maintain accurate data records and support reporting requirements
- Contribute to continuous improvement by promoting best practices in data management
- Compile and maintain monthly and quarterly reporting trackers
- Monitor and report on workforce productivity as required
- Collate and share client feedback with management team
Finance
- Process payments to suppliers and workers in an accurate and timely manner
- Manage financial transactions, invoicing, reconciliations and reporting on Xero
- Review, validate and process sessional worker invoices, highlighting any discrepancies and providing feedback as appropriate
Client Care Team Administration Duties
- Manage incoming calls responding to enquiries, directing calls to the relevant team members and providing advice as appropriate
- Work collaboratively with colleagues when required, undertaking client care responsibilities during periods of increased demand or reduced staffing levels
Operational Support
- Coordinate internal and external events, including open days
- Represent the organisation at events as required
- Manage and schedule social media activity in line with organisational brand guidelines
- Monitor and order office supplies and sundries as needed
- Produce internal communications, including worker and client newsletters
- Undertake other duties commensurate with the role as reasonably required
Person Specification
Desirable Experience and Skills
- Experience of providing administrative and business support within a professional setting
- Experience of maintaining accurate data records, using electronic systems
- Experience of data collection and analysis, including the use of Excel
- Proficiency in using IT systems for monitoring and reporting, including Microsoft applications, CRM systems, and accounting software
- Confidence in managing social media platforms, including Instagram, Facebook, and LinkedIn
- Experience of creating digital content using Canva
- Experience of working with survivors of sexual violence and/or domestic abuse
- Ability to communicate in Welsh
Essential Skills and Competencies
- Ability to work effectively under pressure while managing and prioritising workload
- Ability to communicate effectively with clients, colleagues, and external agencies
- Ability to maintain effective office systems and use electronic case management systems
- Ability to manage time effectively and respond to competing priorities
- Strong verbal and written communication skills
- Willingness to travel across North Wales when required
Personal Attributes
- Ability to communicate with clients in a compassionate and empathetic manner
- Ability to work with integrity and respect when engaging with clients, agencies, and colleagues
- Ability to work flexibly and collaboratively as part of a team
- Positive and adaptable approach to personal development and change
Professional Qualities and Approach
The post holder will be expected to demonstrate the following qualities:
- Commitment to anti-discriminatory practice
- Ability to reflect critically on own performance and practice
- Reliable and trustworthy
- Efficient and punctual
- Consistent and flexible, with the ability to manage changing and competing demands
- Ability to think creatively and show initiative
- A non-judgemental and non-directive approach that empowers survivors and recognises individual client needs
Teitl y Swydd: Gweinyddwr Cymorth Busnes / Gofal Cleientiaid
Yn atebol i: Rheolwr AD a Swyddfa
Cyflog/Gradd Cyflog cychwynnol £24,388 – adolygiad cyflog yn aros (pro rata ar gyfer rhan-amser) (£13.40 yr awr)
Gwyliau blynyddol 28 diwrnod y flwyddyn (ynghyd â gwyliau banc) – (pro rata ar gyfer rhan-amser)
Oriau: 28 - 35 awr yr wythnos dros 5 diwrnod
Lleoliad: RASASC GC, Parc Menai, Bangor LL57 4DF
Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf 2026.
Gan fod ceisiadau'n cael eu hadolygu yn barhaus, efallai y byddwn yn cau'r swydd wag hon cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd os derbynnir nifer digonol o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ymgeiswyr sydd â diddordeb i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS.
Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn gymwys i weithio yn y DU ar hyn o bryd.
RASASC GC
Wedi'i sefydlu yn 1984, mae RASASC GC yn elusen gofrestredig sy'n darparu cymorth a therapi arbenigol i blant (3+) ac oedolion sy'n byw yng Ngogledd Cymru, sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin plant yn rhywiol, cam-drin rhywiol, trais rhywiol a/neu dreisio, p'un a yw hyn wedi digwydd yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Rydym hefyd yn darparu cymorth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin a thrais rhywiol.
Rôl y Swydd
Cefnogi gweithrediad effeithiol dydd i ddydd y sefydliad drwy ddarparu cymorth gweinyddol a gweithredol o safon uchel ar draws amrywiol adrannau.
Prif Ddyletswyddau
Dyletswyddau Gweinyddu AD a Hyfforddiant (yn cefnogi'r Rheolwr AD a Swyddfa a'r Rheolwr Hyfforddiant)
- Rheoli cofrestriadau proffesiynol, yswiriant ac adnewyddiadau DBS, gan sicrhau tracio cywir, anfon nodiadau atgoffa, a dwyn unrhyw ddiffyg cydymffurfio i sylw'r rheolwyr
- Cynnal cofnodion hyfforddiant gorfodol a dysgu ar-lein gweithwyr, gan gynnwys anfon nodiadau atgoffa, monitro cwblhau, a chefnogi gofynion cydymffurfio
- Cefnogi prosesau sefydlu ar gyfer gweithwyr sesiynol
- Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer recriwtio a sefydlu gweithwyr newydd, gan gynnwys cydlynu cyfweliadau, paratoi dogfennau, a chwblhau gwiriadau sefydlu
Dyletswyddau Gweinyddu Data, Adrodd a Chyllid (yn cefnogi'r Rheolwr Data a Chyllid)
Data
- Cwblhau samplu dip ar weithgarwch cronfa ddata cleientiaid ac adrodd ar y canfyddiadau i'r rheolwyr
- Cynnal cofnodion data cywir a chefnogi gofynion adrodd
- Cyfrannu at welliant parhaus drwy hyrwyddo arferion gorau ym maes rheoli data
- Llunio a chynnal tracwyr adrodd misol a chwarterol
- Monitro ac adrodd ar gynhyrchiant y gweithlu yn ôl yr angen
- Casglu a rhannu adborth cleientiaid gyda'r tîm rheoli
Cyllid
- Prosesu taliadau i gyflenwyr a gweithwyr yn gywir ac mewn modd amserol
- Rheoli trafodion ariannol, anfonebu, cysoni ac adrodd ar Xero
- Adolygu, dilysu a phrosesu anfonebau gweithwyr sesiynol, gan dynnu sylw at unrhyw anghysondebau a darparu adborth fel sy'n briodol
Dyletswyddau Gweinyddu'r Tîm Gofal Cleientiaid
- Rheoli galwadau sy'n dod i mewn, ymateb i ymholiadau, cyfeirio galwadau at aelodau perthnasol o'r tîm a darparu cyngor fel sy'n briodol
- Gweithio'n gydweithredol â chydweithwyr pan fo angen, gan ymgymryd â chyfrifoldebau gofal cleientiaid yn ystod cyfnodau o alw cynyddol neu lefelau staffio is
Cymorth Gweithredol
- Cydlynu digwyddiadau mewnol ac allanol, gan gynnwys diwrnodau agored
- Cynrychioli'r sefydliad mewn digwyddiadau pan fo angen
- Rheoli ac amserlennu gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol yn unol â chanllawiau brand y sefydliad
- Monitro ac archebu cyflenwadau swyddfa a nwyddau traul yn ôl yr angen
- Cynhyrchu cyfathrebiadau mewnol, gan gynnwys cylchlythyrau i weithwyr a chleientiaid
- Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r rôl fel y bo'n rhesymol ofynnol
Manyleb y Person
Profiad a Sgiliau Dymunol
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol a busnes mewn lleoliad proffesiynol
- Profiad o gynnal cofnodion data cywir gan ddefnyddio systemau electronig
- Profiad o gasglu a dadansoddi data, gan gynnwys defnyddio Excel
- Hyfedredd wrth ddefnyddio systemau TG ar gyfer monitro ac adrodd, gan gynnwys cymwysiadau Microsoft, systemau CRM, a meddalwedd cyfrifyddu
- Hyder wrth reoli llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Instagram, Facebook, a LinkedIn
- Profiad o greu cynnwys digidol gan ddefnyddio Canva
- Profiad o weithio gyda goroeswyr trais rhywiol a/neu gam-drin domestig
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Sgiliau a Chymwyseddau Hanfodol
- Y gallu i weithio'n effeithiol o dan bwysau wrth reoli a blaenoriaethu llwyth gwaith
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr, ac asiantaethau allanol
- Y gallu i gynnal systemau swyddfa effeithiol a defnyddio systemau rheoli achosion electronig
- Y gallu i reoli amser yn effeithiol ac ymateb i flaenoriaethau sy'n cystadlu a’i gilydd
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig cryf
- Parodrwydd i deithio ar draws Gogledd Cymru pan fo angen
Priodoleddau Personol
- Y gallu i gyfathrebu â chleientiaid mewn modd tosturiol ac empathetig
- Y gallu i weithio gydag uniondeb a pharch wrth ymgysylltu â chleientiaid, asiantaethau, a chydweithwyr
- Y gallu i weithio yn hyblyg ac ar y cyd fel rhan o dîm
- Agwedd gadarnhaol ac addasadwy tuag at ddatblygiad personol a newid
Rhinweddau a Dull Proffesiynol
Disgwylir i ddeiliad y swydd ddangos y rhinweddau canlynol:
- Ymrwymiad i arfer gwrth-wahaniaethol
- Y gallu i fyfyrio'n feirniadol ar berfformiad ac ymarfer eich hun
- Dibynadwy a chredadwy
- Effeithlon a phrydlon
- Cyson a hyblyg, gyda'r gallu i reoli gofynion sy'n newid ac sy'n cystadlu
- Y gallu i feddwl yn greadigol a dangos menter
- Dull anfeirniadol a heb gyfarwyddyd sy'n grymuso goroeswyr ac yn cydnabod anghenion unigol cleientiaid
Pay: From £13.40 per hour
Benefits:
- Free parking
- On-site parking
Work Location: In person