Research Associate (Qualitative)
Centre for Trials Research (CTR)
College of Biomedical & Life Sciences
The Centre for Trials Research at Cardiff University is a large, multinational community of researchers, professional services staff and students from a diverse range of backgrounds.
We tackle the big diseases and health concerns of our time by forming partnerships with researchers and building lasting relationships with the public. Find out more about the Centre and working with us here.
An exciting opportunity has arisen for a Research Associate (Grade 6) to join a new interdisciplinary NIHR-funded project ‘Improving eating disorder services for autistic people and people with ADHD'. In this role you will conduct research within the fields of qualitative and realist research, and will contribute to the overall research performance of the Centre and University, carrying out research leading to national/international research outputs. You will also engage with public, practice and policy stakeholders to develop relevant research proposals.
This position would suit a self-motivated individual with knowledge and understanding of realist research methods, qualitative research methods and experience or interest in research involving autistic people, people with ADHD, and NHS eating disorder care.
With a culture of continuous professional and career development the Centre has an excellent track record of helping people develop in their areas of interest, with many progressing within the Centre itself, the wider University or further afield.
For informal discussions you are welcome to contact the recruiter Heather Strange (Research Associate) by email
[email protected] or by phone (0)29225 10474
This position is full-time (35 hours per week), based at Heath Park Campus, fixed-term and available from 1st July 2026 until 30th September 2027. However this post is subject to a review process and may therefore be extended, or converted to open-ended.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It's an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Closing date: Sunday, 12 July 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University.
Cydymaith Ymchwil (Ansoddol)
Canolfan Treialon Ymchwil (CTR)
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned fawr, ryngwladol o ymchwilwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd.
Rydyn ni'n mynd i'r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr a meithrin perthnasoedd parhaol â'r cyhoedd. Gallwch ddysgu rhagor am y Ganolfan ac am weithio gyda ni yma.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gydymaith Ymchwil (Gradd 6) ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol newydd a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), ‘Gwella’r gwasanaethau anhwylderau bwyta i bobl awtistig a phobl sydd ag ADHD’. Yn y swydd hon, byddwch yn cynnal ymchwil ym meysydd ymchwil ansoddol a realaidd, a byddwch yn cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Ganolfan a'r Brifysgol, gan gynnal gwaith ymchwil a fydd yn arwain at allbynnau ymchwil cenedlaethol/rhyngwladol. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliad cyhoeddus, ymarfer a pholisi i ddatblygu cynigion ymchwil perthnasol.
Byddai’r swydd hon yn addas i unigolyn hunangymelledig sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau ymchwil realaidd, dulliau ymchwil ansoddol a phrofiad neu ddiddordeb mewn ymchwil sy’n ymwneud â phobl awtistig, pobl sydd ag ADHD, a gofal anhwylderau bwyta’r GIG.
Gyda diwylliant o ddatblygiad proffesiynol a gyrfaol parhaus mae gan y Ganolfan hanes rhagorol o helpu pobl i ddatblygu yn y meysydd sydd o ddiddordeb iddynt, gyda llawer yn symud ymlaen i gamau nesaf eu gyrfa yn y Ganolfan ei hun, yn y Brifysgol yn ehangach, neu ymhellach i ffwrdd.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Heather Strange (Research Associate)drwy ffonio:
[email protected] (0)29225 10474
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos), Fixed term ar gael o 1st Gorffennaf 2026 hyd 30th Medi 2027. Fodd bynnag, mae'r swydd hon yn destun proses adolygu ac felly mae’n bosibl y bydd yn cael ei hymestyn, neu ei throi’n swydd benagored
Mae'r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau "gweithio cyfunol" ar hyn o bryd, gan roi hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o gartref ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu nifer o wahanol heriau. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 25 June 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 12 Gorfennaff 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd yn llofnodwr Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau recriwtio a hyrwyddo, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil yn cael ei chyhoeddi ynddo. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: Responsible research assessment - Research - Cardiff University.