Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag S4C fel Dylunydd Graffeg, gan gyfrannu at ddyfodol sy'n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd - S4C - Mwy na Sianel Deledu - wrth i ni ehangu ein gwylio gyda'n cynnwys a datblygu ein gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.
Trosolwg o'r Swydd
Fel Dylunydd Graffeg, byddwch yn gyfrifol am ddylunio amrywiaeth o gynnwys digidol a phrint ar gyfer adran Brand a Chreadigol S4C, ochr yn ochr â chreu mân-luniau ysgogol ar gyfer ein portffolio cynyddol o blatfformau ffrydio. Fel Dylunydd Graffeg, byddwch yn datblygu atebion gweledol creadigol ac arloesol sy'n dod â negeseuon yn fyw, yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd, ac yn gwella’r berthynas rhwng S4C a'i rhanddeiliaid.
Gan gyfuno barn greadigol a sgiliau argraffyddol cryf â sgiliau rheoli asedau rhagorol, byddwch yn sicrhau bod delweddau ar draws portffolio’r darlledwr yn weledol rymus, yn cyd-fynd â'r brand ac yn gwneud y defnydd gorau ohonynt ar gyfer ennyn sylw’r gynulleidfa.
Gan ddefnyddio eich arbenigedd mewn dylunio graffeg a chyfathrebu gweledol, byddwch yn creu, mireinio a rheoli asedau gweledol sy'n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo rhaglenni, twf y gynulleidfa ac adrodd straeon corfforaethol ar draws platfformau darlledu, ffrydio, digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â'n tîm creadigol wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol darlledunewydd sy'n cynnwys gwasanaethau ffrydio ac aml-blatfform.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa a gweithio yn y swyddfa’n barhaus am y pythefnos cyntaf ar gyfer hyfforddiant pellach - mae'r hyfforddiant hwn yn debygol o gael ei gynnal yn ein swyddfa/swyddfeydd yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd)
Cyflog: £39,403.00 y flwyddyn
Contract: 12 mis
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n chwilio am waith hyblyg neu ran-amser. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa, rhai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ogystal â'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi'n rhan-amser, byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae gan staff cyflogedig hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol sy'n cael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd. Os ydych chi'n aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r swydd, fel arfer o fewn y DU
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12yp, 1 Medi 2026. Nid ydym yn derbyn CV.
Dyddiad Cyfweliadau: 11 Medi 2026, lleoliad i'w gadarnhau.
Graphic Designer
Welsh language skills are essential for this role
Why join S4C?
At S4C, we are passionate about creating a positive, energetic and inclusive work environment that reflects our core values:
At Your Best, Proud of S4C, Celebrate everyone, Go For It.
This is an exciting time to join S4C as a Graphic Designer contributing to a future that inspires, entertains and reflects Wales as a whole as we implement our new strategy - S4C - More than a TV Channel - as we expand our viewing with our content and developing our Digital First service.
Job Overview
As a Graphic Designer, you will be responsible for designing a variety of digital and print content for S4C’s Brand and Creative department, alongside creating compelling thumbnails for our ever-expanding portfolio of streaming platforms. As a Graphic Designer, you will develop creative and innovative visual solutions that bring messages to life, engage audiences, and enhance relationships between S4C and its stakeholders.
Combining creative judgement and strong typographical skills with excellent asset management skills, you will ensure that imagery across the broadcaster's portfolio is visually compelling, brand-aligned and optimised for audience engagement.
Drawing on your expertise in graphic design and visual communication, you will create, refine and manage visual assets that support programme promotion, audience growth and corporate storytelling across broadcast, streaming, digital and social media platforms.
This is an exciting time to join our creative team as we continue to develop our internal processes for the new future of broadcasting that includes streaming and multi-platform services.
Other details
Location: Carmarthen / Cardiff / Caernarfon (minimum 2 days in an office and continuous office period for the first two weeks for further training- this training is likely to take place in our Carmarthen or Cardiff office(s))
Salary: £39,403.00 per annum
Contract: 12 months
Working hours: 35.75 per week. we are happy to discuss working hours and to consider applications from applicants who are looking for flexible or part time work. Due to the nature of the job, flexibility, including working outside of office hours, is expected on some weekends and bank holidays.
Holidays: In addition to the statutory bank holidays, you will be entitled to 26 days of holiday. If you are employed part-time you will receive a pro rata share of the holidays.
Pension: Salaried staff are entitled to join a Group Personal Pension Scheme subject to the terms of any existing scheme which is amended from time to time. If you are a member of the Group Personal Pension Scheme, S4C will contribute 10% of your basic salary to the Scheme. You are expected to contribute 5%.
Travel: Occasional travel will be part of the job, usually within the UK
Applications
Application forms should be sent by 12pm, 1 September 2026. We do not accept CVs.
Interview Date: 11 September 2026, location to be confirmed.
Pay: £39,403.00 per year
Work Location: Hybrid remote in Cardiff CF10 1FS