Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect i ymuno â’n tîm yn y Carneddau. Byddwch yn gyfrifol am weithgareddau prosiect allweddol i gefnogi darpariaeth prosiect newydd ar gyfer adfer natur a chysylltu cymunedau yn ardal Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd.
Contract cyfnod penodol yw hwn, hyd at ddiwedd Ionawr 2029.
_______________________________________________________________________
We’re looking for a Project Officer to join our team at Carneddau. You’ll be in charge of key project activities to support delivery of a new project for nature restoration and connecting communities in the Nant Ffrancon area, Bethesda, Gwynedd.
This is a fixed term contract, until the end of January 2029.
What it's like to work here:Yn atebol i’r Rheolwr Prosiect, byddwch yn gweithio o fewn tîm bach, ochr yn ochr â Chydlynydd Prosiect. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos â’r Ceidwaid sy’n gofalu am Ystâd y Carneddau a’r Glyderau, yn ogystal â staff mewnol ac allanol eraill.
_______________________________________________________________________
Reporting to the Project Manager, you’ll work within a small team, alongside a Project Coordinator. You’ll also work closely with the Rangers looking after the Carneddau & Glyderau Estate, as well as other internal and external staff.
What you'll be doing:Bydd gennych frwdfrydedd naturiol dros natur, a bydd eich angerdd drosto’n amlwg yn yr egni a rowch i’r trawsnewidiad. Mae angen natur ar bobl hefyd - a byddwch yn allweddol i sicrhau bod ein lleoedd yn golygu cymaint yn fwy i bobl sy’n byw yn yr ardal leol, a byddant eisiau cymryd rhan.
Mae’n adeg gyffrous i ymuno, ac ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn chwarae rhan ymarferol hanfodol yn y broses o gadw’r prosiect ar y trywydd cywir, gan sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni’n brydlon ac o fewn y gyllideb. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Prosiect i sicrhau bod risgiau a phroblemau’n cael eu rheoli’n effeithiol.
Gweler y daflen gwybodaeth ychwanegol ynghlwm am ragor o wybodaeth.
_______________________________________________________________________
You’ll have a natural love for nature, and your passion for it will show in the energy you put into the transformation. People also need nature – and you’ll be key to making sure that our places mean so much more to people living in the local area, and they’ll want to get involved.
It’s an exciting time to join, and no two days will be the same. You’ll play a vital practical role in keeping the project on track, ensuring it’s delivered on time and within budget. You’ll work closely with the Project Manager to ensure that risks and issues are effectively managed.
Please see the attached additional information sheet for more information.
- Who we're looking forProfiad o brosesau rheoli prosiect, gweinyddiaeth a systemau, gan gynnwys caffael, cyllid ac adrodd
- Sgiliau datrys problemau a dylanwadu effeithiol a'r gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid
- Dealltwriaeth gref o reolaeth ariannol prosiectau
- Y gallu i goladu, cynnal, dadansoddi a pharatoi data ar gyfer adroddiadau ac yn gyfforddus â phecynnau Microsoft, yn enwedig Excel
- Yn fedrus wrth gwblhau sawl tasg ar yr un pryd, blaenoriaethu eich llwyth gwaith a bodloni terfynau amser llym
- Rydym hefyd yn gofyn am y cymhwyseddau canlynol fel isafswm o ran sgiliau iaith Gymraeg:
- Gwrando a Deall: Lefel 5
- Siarad: Lefel 5
- Darllen: Lefel 5
- Ysgrifennu Sylfaenol: Lefel 5
Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm
_______________________________________________________________________
- Experience in project management processes, administration and systems, including procurement, finance and reporting
- Effective problem solving and influencing skills and the ability to communicate with a variety of stakeholders
- Strong understanding of financial management of projects
- Able to collate, maintain, analyse and prepare data for reports and comfortable with Microsoft packages, especially Excel
- Skilled at multi-tasking, prioritising your workload and meeting strict deadlines
- We also require the following minimum competencies in Welsh language skills:
- Listening & Understanding: Level 5
- Speaking: Level 5
- Reading: Level 5
- Foundation Writing: Level 5
Please complete the attached Welsh Language Competency Assessment
The packageY Pecyn
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
- Cynllun benthyciad blaendal rhent
- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
- Rhaglen cynorthwyo cyflogai
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi
________________________________________________________
The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.
- Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
- Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18)
- Rental deposit loan scheme
- EV car lease scheme (for roles that meet the salary criteria)
- Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
- Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
- Flexible working whenever possible
- Employee assistance programme
- Free parking at most Trust places
Requirements :Compliance.Eligibility to Work in the UK
Fixed Term f/t (37.5 hrs pw to 31/01/29)