Proud to serve. Proud to keep justice going.
Our Courts & Tribunals Service Centre (CTSC) Support Officers play a critical role providing excellent telephone and administrative support to court users. Our training programme provides a structured yet flexible approach to building the skills required to perform this vital role.
About us
HM Courts & Tribunals Service (HMCTS) is an agency of the Ministry of Justice responsible for the administration of criminal, civil and family Courts and Tribunals in England and Wales. CTSCs provide telephone, assisted digital, case progression and court hearing support. They deliver a consistent national service which enables cases to move through to conclusion smoothly. The Probate Satellite sites process applications for grants of Probate and customers contact the CTSC to obtain vital information about their application or accessing the service.
Our roles support our court users and colleagues within HMCTS, w people and businesses access potentially life-changing justice. We’re looking for individuals who are committed to public service and making a difference in people’s lives to deliver justice. If you are interested in developing a career with a real purpose, please apply.
Your role
The CTSCs deliver their services through several Jurisdictions known as service lines. These include Social Service & Child Support, Family Public Law, Probate, Crime, Immigration & Asylum, Divorce, Online Civil Money Claims, the Single Justice Service (non-imprisonable offences e.g., no TV license / car tax), and supporting audio video hearings. The Probate Satellite sites are responsible for delivering the Probate service in conjunction with the CTSC.
As a Support Officer your role will be predominately examining applications from citizens and probate practitioners to issue grants of representation or raise queries w required, taking inbound calls from the public and legal representatives and returning calls as required. Emails, webchat (for some services), and general administrative work will also form part of the role. You will work in a small team supported by a Team Leader and, alongside our in-depth training programme, will have access to our ‘knowledge bank’ (guidance document) to assist in your role.
You need to be a confident communicator with the self-assurance to liaise with members of the public regarding complex and sensitive matters in a calm and professional manner. Customers are often in a difficult and stressful situation and tfore great importance is placed on handling calls and correspondence with empathy and understanding.
This is a fast-paced position that requires attention to detail, the ability to multi-task and deal with each customer as an individual whilst managing your time effectively. You will need to be resilient, keen to learn, and have the IT skills to adapt to new systems and technologies, as we’re constantly investing in digital solutions to improve the way we deliver justice.
Your skills and experience
Strong customer service skills with the confidence to support our customers via the telephone, webchat and email
Experience of working in an administrative role in a customer focussed environment
Proficient with IT and Microsoft Software packages
Excellent communication and organisational skills
Exceptional attention to detail
For a full job description, please read supporting document included below before applying.
Further details
This role is based at:
Ground floor, Cardiff Magistrates Court, Fitzalan Place, Cardiff, CF24 0RZ.
The office is open Monday-Friday from 8am to 6pm. Requests for particular shift patterns will be discussed with successful candidates upon successful completion of pre-employment checks.
Standard full time working hours are 37 hours per week. HMCTS welcomes part-time, flexible, and job-sharing working patterns, w they meet the demands of the role and business needs and are agreed prior to appointment. All applications for part-time, flexible, and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the MoJ’s Flexible Working policy.
Part time employees will need to work at least 30 hours throughout the week.
Non-contractual hybrid working is currently available. Hybrid working arrangements will be determined by the business and are relative to particular service lines and will only be available when it has been established that delivering the service from home can be done effectively. We cannot facilitate requests for a particular work from home/working in the office schedule.
Training
Full training will be provided through a mixture of online and in person training.
Skilled Worker Visa
This role is not eligible for new Skilled Worker visas in accordance with the current immigration rules.
From 22 July 2025, the Government introduced changes to the Skilled Worker visa route. The department cannot consider sponsoring you for this role unless you have held a Skilled Worker visa prior to the 22 July 2025 changes. If you have held a Skilled Worker visa continuously, please raise this during your vetting checks and eligibility will be assessed in accordance with the immigration rules and transitional provisions in place.
If you are applying for this role and you have not held a Skilled Worker visa prior to the 22 July 2025 changes, you will need to consider your options for obtaining and/or maintaining your right to work in the UK in light of these changes. Successful applicants must ensure they have and maintain the legal right to live and work in the Civil Service and in the United Kingdom.
The Department will continue to comply with UK Immigration Rules applied in the UK and Civil Service. You can read more about Skilled Worker visas and the eligibility criteria .
Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.
Mae ein Swyddogion Cymorth Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CTSC) yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu cymorth ffôn a gweinyddol rhagorol i ddefnyddwyr llys. Mae ein rhaglen hyfforddi yn darparu dull strwythuredig ond hyblyg o feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl hanfodol hon.
Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn un o asiantaethau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n gyfrifol am weinyddu’r llysoedd troseddol, sifil a theulu a’r Tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn darparu cymorth dros y ffôn, cymorth digidol, gwasanaethau hwyluso achosion a chymorth gwrandawiadau llys. Maent yn darparu gwasanaeth cenedlaethol cyson sy’n galluogi achosion i symud ymlaen i gwblhau’n ddidrafferth. Mae safleoedd hwb Profiant yn prosesu ceisiadau am grantiau profiant ac mae cwsmeriaid yn cysylltu â'r CTSC i gael gwybodaeth hanfodol am eu cais neu fynediad i'r gwasanaeth.
Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein llys a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cyrchu cyfiawnder a allai newid bywydau. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.
Eich rôl
Mae Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn darparu eu gwasanaethau trwy nifer o Awdurdodaethau a elwir yn llinellau gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, Cyfraith Deulu Gyhoeddus, Profiant, Trosedd, Mewnfudo a Lloches, Ysgariad, Hawliadau Arian Sifil Ar-lein, y Gwasanaeth Un Ynad (troseddau angharcharadwy e.e., dim trwydded deledu / treth car), a gwrandawiadau fideo sain ategol. Mae'r safleoedd hwb Profiant yn gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth Profiant ar y cyd â'r CTSC.
Fel Swyddog Cymorth, byddwch yn bennaf yn archwilio ceisiadau gan ddinasyddion ac ymarferwyr profiant i roi grantiau cynrychiolaeth neu godi ymholiadau lle bo angen, derbyn galwadau gan y cyhoedd a chynrychiolwyr cyfreithiol a dychwelyd galwadau yn ôl yr angen. Bydd e-byst, sgwrsio ar y we (ar gyfer rhai gwasanaethau), a gwaith gweinyddol cyffredinol hefyd yn rhan o’r rôl. Byddwch yn gweithio mewn tîm bach a gefnogir gan Arweinydd Tîm ac, ochr yn ochr â’n rhaglen hyfforddi fanwl, bydd gennych fynediad i’n ‘cronfa wybodaeth’ (dogfen arweiniad) i gynorthwyo yn eich rôl.
Mae angen i chi fod yn gyfathrebwr hyderus gyda’r hunan-sicrwydd i gysylltu ag aelodau’r cyhoedd ynghylch materion cymhleth a sensitif mewn modd digynnwrf a phroffesiynol. Mae cwsmeriaid yn aml mewn sefyllfa anodd a llawn straen ac felly mae pwysigrwydd mawr yn cael ei roi ar ymdrin â galwadau a gohebiaeth gydag empathi a dealltwriaeth.
Mae hon yn swydd gyflym sy’n gofyn am sylw i fanylion, y gallu i amldasgio ac ymdrin â phob cwsmer fel unigolyn tra’n rheoli’ch amser yn effeithiol. Bydd angen i chi fod yn wydn, yn awyddus i ddysgu, a meddu ar y sgiliau TG i addasu i systemau a thechnolegau newydd, gan ein bod yn buddsoddi’n barhaus mewn atebion digidol i wella’r ffordd yr ydym yn darparu cyfiawnder.
Eich sgiliau a phrofiadau
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf gyda'r hyder i gefnogi ein cwsmeriaid dros y ffôn, sgwrsio ar y we ac e-bost
-
Profiad o weithio mewn rôl weinyddol mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid
-
Gallu defnyddio TG a phecynnau meddalwedd Microsoft
-
Sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog
-
Sylw eithriadol i fanylion
I weld y swydd ddisgrifiad lawn, darllenwch y ddogfen ategol isod cyn gwneud cais.
Rhagor o fanylion
Mae'r rôl hon wedi ei lleoli yn:
Llawr gwaelod, Llys Ynadon Caerdydd, Plas Fitzalan, Caerdydd, CF24 0RZ
Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Bydd ceisiadau am batrymau sifft penodol yn cael eu trafod gydag ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl cwblhau gwiriadau cyn cyflogaeth yn llwyddiannus.
Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Bydd angen i weithwyr rhan-amser weithio am o leiaf 30 awr yr wythnos.
Mae gwaith hybrid nad yw'n gytundebol ar gael ar hyn o bryd. Bydd trefniadau gweithio hybrid yn cael eu pennu gan y busnes ac maent yn berthnasol i linellau gwasanaeth penodol a dim ond pan fydd wedi’i sefydlu y bydd modd darparu’r gwasanaeth o gartref yn effeithiol. Ni allwn hwyluso ceisiadau am amserlen benodol ar gyfer gweithio o gartref/gweithio yn y swyddfa.
Hyfforddiant
Darperir hyfforddiant llawn drwy gymysgedd o hyfforddiant ar-lein a hyfforddiant wyneb yn wyneb.
Fisa Gweithiwr Medrus
Nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer fisas Gweithiwr Medrus newydd, yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol.
O 22 Gorffennaf 2025, cyflwynodd y Llywodraeth newidiadau i'r llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Ni all yr adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon ond bai eich bod wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus cyn y newidiadau a ddaeth i rym ar 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi dal fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â'r rheolau mewnfudo a'r darpariaethau pontio sydd mewn lle.
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd, bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU a weithredir yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a’r meini prawf cymhwyster yma.