Research Assistant (Part Time)
Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences
We are looking for a Part Time Research Assistant to join the National Centre for Mental Health (NCMH) Intervention Development team. This is an exciting opportunity to contribute to pioneering research in mental health intervention, with a focus on the use of Targeted Memory Reactivation during sleep as a potential treatment for PTSD and depression.
In this role, you will:
- Support the clinical evaluation of a novel intervention aimed at alleviating traumatic memories through Targeted Memory Reactivation during sleep, with the goal of reducing symptoms of PTSD and depression.
- Undertake research by planning, preparing, setting up and conducting research via a range of methods such as questionnaires and interviews.
- Actively participate within the research group, communicating and presenting research with internal and external partners.
- Conduct overnight studies in the CUBRIC sleep lab.
We’d like to hear from you if you have:
- Knowledge and experience of research methods and techniques within mental health research.
- Proven communication skills.
- Excellent organisational and team-working skills.
This post is based at the Hadyn Ellis Building, Cathays campus.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave pro rata (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
How we will support you in performing in this role –
There are some things that you must have before you can start this role (see ‘Essential Criteria’), but other things can be developed either through training, or just by general on-the-job experience. We want to support and develop you once you have started in the role using a combination of the following to get the best out of you:
1. Regular one-to-ones with your manager
2. An experienced and supportive team around you
3. Supporting you through job-relevant training and development that you may require
4. A mentoring scheme
For informal enquiries please contact Dr Catrin Lewis via email:
[email protected]
This post is part-time (24.5 hours per week), available from immediately and fixed term until 1st June 2029.
Salary: £33,951 - £36,636 per annum, pro rata (Grade 5). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Date advert posted: Thursday, 13 August 2026
Closing date: Thursday, 3 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Cynorthwyydd Ymchwil (Rhan-Amser)
Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil Rhan-amser i ymuno â thîm Datblygu Ymyraethau'r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH). Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ymchwil arloesol ym maes ymyraethau iechyd meddwl, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio Ailfywiogi Atgof Targedig yn ystod cwsg yn ffordd bosibl o drin Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac iselder.
Yn y rôl hon, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Cefnogi'r gwerthusiad clinigol o ymyrraeth newydd, gan anelu at leddfu atgofion trawmatig drwy Ailfywiogi Atgof Targedig yn ystod cwsg, gyda'r nod o leihau symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma ac iselder.
- Cynnal gwaith ymchwil e.e. trwy gynllunio, paratoi, gosod a chynnal gwaith ymchwil gan ddefnyddio ystod o ddulliau, megis holiaduron a chyfweliadau.
- Cymryd rhan weithredol yn y grŵp ymchwil, gan gyfleu a chyflwyno gwaith ymchwil gyda phartneriaid mewnol ac allanol.
- Cynnal astudiaethau dros nos yn labordy cwsg CUBRIC.
Hoffem glywed gennych os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Gwybodaeth a phrofiad o ddulliau a thechnegau gwaith ymchwil ym maes ymchwil iechyd meddwl.
- Sgiliau cyfathrebu diamheuol.
- Sgiliau trefnu a gwaith tîm ardderchog.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng y gwaith a bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol, pro rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, a cheir nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon –
Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl i chi ddechrau yn y swydd, rydym ni am eich cefnogi chi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd
4. Cynllun mentora
Am ymholiadau anffurfiol e-bostiwch Dr Catrin Lewis:
[email protected]
Mae’r swydd ran-amser hon (24.5 awr yr wythnos) ar gael ar unwaith ac am gyfnod penodol tan 31 Mehefin 2029.
Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 13 Awst 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 3 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd