Practice Manager
Location: Llanberis Surgery, Llanberis, Gwynedd
Salary: In line with Band 7 pro rata dependent on experience
Hours: 32hours per week – flexible working will be considered
Join Our Team at Llanberis Surgery
Llanberis Surgery is a well-established, friendly NHS GP practice located on 3 sites providing high-quality, patient-centred care to the local community which includes dispensing services. Situated in the heart of Eryri (Snowdonia), we are proud of our dedicated team, strong community links, and commitment to delivering excellent primary care. This is a GMS practice with 6 GP partners and a patient population of around 5700 patients. We are seeking an experienced, enthusiastic, and forward-thinking Practice Manager to lead the operational and strategic management of the practice. This is an exciting opportunity for an individual with strong leadership skills who is passionate about supporting staff, improving services, and helping shape the future of primary care.
The Role:
Working closely with the GP Partners, clinical team, and wider healthcare organisations, you will be responsible for the effective day-to-day management of the practice while leading on strategic planning and service development.
Your responsibilities will include:
Providing operational and strategic leadership for the practice.
Managing practice finances, budgeting, and business planning.
Leading recruitment, HR, staff development, and performance management.
Ensuring compliance with NHS contractual requirements, CQC regulations, and relevant legislation.
Overseeing governance, quality improvement, and patient safety initiatives.
Managing contracts, premises, facilities, and information governance.
Working collaboratively with patients, external stakeholders, and partner organisations to continuously improve services.
Supporting the practice in meeting performance targets and delivering outstanding patient care.
About You:
We are looking for a motivated and organised leader who has:
Previous management experience within primary care, healthcare, or another complex service environment.
Excellent leadership, organisational, and people management skills.
Strong financial management and budgeting experience.
A sound understanding of NHS primary care and current healthcare developments.
Experience of HR management and employment legislation.
Excellent communication, problem-solving, and decision-making abilities.
The ability to manage change positively and work effectively under pressure.
Desirable:
Previous experience as a Practice Manager within an NHS GP practice.
Knowledge of GP contracts, Quality Assurance and Improvement Framework (QAIF), Enhanced Services, and Primary Care Networks.
Experience using GP clinical systems such as EMIS Web.
A recognised management qualification or equivalent experience.
Knowledge of the Welsh language is desirable and would be an advantage when supporting our local community.
What We Offer:
A supportive, friendly, and collaborative working environment.
Opportunities for professional development and continuing education.
NHS Pension Scheme (where applicable).
Flexible working arrangements where possible.
The opportunity to make a real difference to the health and wellbeing of our local community in one of the most beautiful areas of North Wales.
How to Apply:
To apply, please submit your CV together with a covering letter explaining how your experience and skills meet the requirements of the role and address to Dr Geraint Roberts senior partner via [email protected] . Informal visits to discuss the advertised role are welcome and can be arranged on request. Closing Date: 21.8.26
Llanberis Surgery is committed to promoting equality, diversity, and inclusion. We welcome applications from all suitably qualified candidates regardless of background. The successful applicant will be subject to appropriate pre-employment checks, including references and a DBS check where applicable.
Rheolwr/ Rheolwraig Practis
Lleoliad: Meddygfa Llanberis, Llanberis, Gwynedd
Cyflog: Yn unol â Band 7 (pro rata) yn dibynnu ar brofiad
Oriau: 32 awr yr wythnos – ystyrir trefniadau gweithio hyblyg
â'n Tîm ym Meddygfa Llanberis
Mae Meddygfa Llanberis yn bractis Meddygon Teulu’r GIG sefydledig a chyfeillgar sy'n gweithredu ar draws tri safle ac yn darparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf i'r gymuned leol, gan gynnwys gwasanaethau dosbarthu meddyginiaethau. Wedi'i lleoli yng nghanol Eryri, rydym yn falch o'n tîm ymroddedig, ein cysylltiadau cryf â'r gymuned, a'n hymrwymiad i ddarparu gofal sylfaenol rhagorol.
Mae hon yn feddygfa GMS gyda 6 phartner Meddyg Teulu a phoblogaeth o tua 5,700 o gleifion. Rydym yn chwilio am Reolwr Practis profiadol, brwdfrydig ac uchelgeisiol i arwain rheolaeth weithredol a strategol y practis. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sydd â sgiliau arwain cryf ac sydd yn angerddol am gefnogi staff, gwella gwasanaethau, a helpu i lunio dyfodol gofal sylfaenol.
Y Swydd
Gan weithio'n agos gyda'r Partneriaid Meddygon Teulu, y tîm clinigol a sefydliadau iechyd ehangach, byddwch yn gyfrifol am reolaeth effeithiol y practis o ddydd i ddydd, gan hefyd arwain ar gynllunio strategol a datblygu gwasanaethau.
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Darparu arweinyddiaeth weithredol a strategol i'r practis.
- Rheoli cyllid y practis, cyllidebu a chynllunio busnes.
- Arwain ar recriwtio, adnoddau dynol, datblygiad staff a rheoli perfformiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion contractiol y GIG, rheoliadau perthnasol ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.
- Goruchwylio llywodraethu, mentrau gwella ansawdd a diogelwch cleifion.
- Rheoli contractau, adeiladau, cyfleusterau a llywodraethu gwybodaeth.
- Gweithio ar y cyd â chleifion, rhanddeiliaid allanol a sefydliadau partner i wella gwasanaethau yn barhaus.
- Cefnogi'r practis i gyflawni targedau perfformiad a darparu gofal rhagorol i gleifion.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am arweinydd trefnus ac ysgogol sydd â:
- Profiad blaenorol o reoli mewn gofal sylfaenol, gofal iechyd neu amgylchedd gwasanaeth cymhleth arall.
- Sgiliau arwain, trefnu a rheoli pobl rhagorol.
- Profiad cryf o reoli cyllid a chyllidebau.
- Dealltwriaeth gadarn o ofal sylfaenol y GIG a datblygiadau cyfredol ym maes iechyd.
- Profiad o reoli adnoddau dynol a deddfwriaeth cyflogaeth.
- Sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a gwneud penderfyniadau rhagorol.
- Y gallu i reoli newid mewn ffordd gadarnhaol a gweithio'n effeithiol dan bwysau.
Dymunol
- Profiad blaenorol fel Rheolwr Practis mewn practis Meddygon Teulu'r GIG.
- Gwybodaeth am gontractau Meddygon Teulu, Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF), Gwasanaethau Ychwanegol a Chlystyrau neu Rwydweithiau Gofal Sylfaenol.
- Profiad o ddefnyddio systemau clinigol Meddygon Teulu megis EMIS Web.
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig neu brofiad cyfatebol.
- Mae gwybodaeth o'r Gymraeg yn ddymunol a byddai'n fantais wrth gefnogi ein cymuned leol.
Beth Rydym yn ei Gynnig
- Amgylchedd gwaith cefnogol, cyfeillgar a chydweithredol.
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ac addysg barhaus.
- Cynllun Pensiwn y GIG (lle bo'n berthnasol).
- Trefniadau gweithio hyblyg lle bo modd.
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles ein cymuned leol mewn un o ardaloedd harddaf Gogledd Cymru.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cyflwynwch eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn manylu ar sut mae eich profiad a'ch sgiliau yn bodloni gofynion y swydd. Dylid anfon ceisiadau at Dr Geraint Roberts, Uwch Bartner, drwy e-bost at [email protected].
Mae croeso i chi drefnu ymweliad anffurfiol i drafod y swydd a hysbysebir, a gellir gwneud hynny ar gais.
Dyddiad Cau: 21.08.2026
Mae Meddygfa Llanberis wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys, beth bynnag fo'u cefndir. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau cyn cyflogaeth priodol, gan gynnwys geirdaon a gwiriad DBS lle bo hynny'n berthnasol.
Job Types: Permanent, Full-time
Pay: From £42,776.00 per year
Work Location: In person