Research Support Administrator (3 Posts)
Centre for Trials Research (CTR)
College of Biomedical & Life Sciences
The Centre for Trials Research at Cardiff University is a large, multinational community of researchers, professional services staff and students from a diverse range of backgrounds.
We tackle the big diseases and health concerns of our time by forming partnerships with researchers and building lasting relationships with the public. Find out more about the Centre and working with us here.
Working as part of a large, diverse team from many different backgrounds, you will engage in a wide range of tasks including purchases and payments, data entry and file management, organising and servicing meetings and events and engaging with study participants.
Experience of working in an administrative or office setting and the ability to carry out a variety of administrative tasks is important. The role also requires excellent communication skills as well as the ability to work in a team. Working in a highly regulated environment also means that the role requires an ability to set up and maintain standard administrative systems and procedures. The diversity of the tasks undertaken means that your ability to plan and prioritise, problem solving skills and the ability to provide excellent customer service will be essential for the role.
With a culture of continuous professional and career development the Centre has an excellent track record of helping people develop in their areas of interest, with many progressing within the Centre itself, the wider University or further afield.
For informal discussions you are welcome to contact the recruiter Leeann Jones (Research Support Officer) by email
[email protected] or by phone +44(0)2922 511690
These positions are full-time (35 hours per week), fixed-term to 31 May 2028, available immediately.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Salary: £25,249 - £26,093 per annum, (Grade 3). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It's an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter. Business needs will require some degree of office-based working but the balance of time can be spent in the office or remotely (subject to agreement with the line manager).
Closing date: Friday, 19 June 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Gweinyddwr Cymorth Ymchwil (3 swyddi)
Canolfan Treialon Ymchwil (CTR)
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned fawr, ryngwladol o ymchwilwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd.
Rydyn ni'n mynd i'r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr a meithrin perthnasoedd parhaol â'r cyhoedd. Gallwch ddysgu rhagor am y Ganolfan ac am weithio gyda ni yma.
Gan weithio fel rhan o dîm mawr, amrywiol o lawer o gefndiroedd gwahanol, byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o dasgau gan gynnwys pryniannau a thaliadau, mewnbynnu data a rheoli ffeiliau, trefnu a gwasanaethu cyfarfodydd a digwyddiadau ac ymgysylltu â chyfranogwyr yr astudiaeth.
Mae profiad o weithio mewn lleoliad gweinyddol neu swyddfa, a'r gallu i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol yn bwysig. Mae'r rôl hefyd yn gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â'r gallu i weithio mewn tîm. Mae gweithio mewn amgylchedd rheoledig iawn hefyd yn golygu bod y rôl yn gofyn am y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol. Mae amrywiaeth y tasgau a gyflawnir yn golygu y bydd eich gallu i gynllunio a blaenoriaethu, sgiliau datrys problemau a’r gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn hanfodol ar gyfer y rôl. Byddem hefyd yn falch iawn o glywed gennych os ydych yn teimlo bod gennych gymwysterau neu brofiad cyfatebol na chrybwyllir yn benodol yma.
Gyda diwylliant o ddatblygiad proffesiynol a gyrfaol parhaus mae gan y Ganolfan hanes rhagorol o helpu pobl i ddatblygu yn y meysydd sydd o ddiddordeb iddynt, gyda llawer yn symud ymlaen i gamau nesaf eu gyrfa yn y Ganolfan ei hun, yn y Brifysgol yn ehangach, neu ymhellach i ffwrdd.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Leeann Jones (Swyddog Cymorth Ymchwil) drwy ffonio:
[email protected] +44(0)2922 511690
Swyddi amser llawn (35 awr yr wythnos) yw'r rhain. Mae ar gael ar unwaith am gyfnod penodol tan 31 Mai 2028.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Cyflog: £25,249 - £26,093 y flwyddyn (Gradd 3)
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu nifer o wahanol heriau. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 19 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.